Cwmni wrth deithio

aberystwyth-promenadeMi gefais i fy magu yn Aberystwyth – tref glan y môr – ac un o bleserau pob haf oedd mynd i nofio yn y môr. Roeddem ni wrth dyfu yn hoffi herio ein gilydd weithiau, ac un o’r campau oedd cychwyn un pen o’r traeth yn ymyl yr hen orsaf heddlu, a nofio allan tu hwnt i’r creigiau, cyn troi wedyn a dychwelyd ochr arall y crigiau ger y banstand. Wn i ddim pa mor bell oedd o, ond dwi’n cofio y tro cyntaf i mi ei wneud. Roeddwn wedi blino’n llwyr erbyn cyrraedd yn ôl i’r traeth. Un o’r pethau wnaeth fy helpu ar y ffordd oedd fod yna rhywun arall yn nofio gyda mi. Felly roeddem yn annog ein gilydd i ddal ati. (rhagor…)

Home Alone

stupidcriminals-home-alone-590x350Un o’r ffilmiau hynny sy’n cael eu dangos ar y teledu yn rheolaidd dros y Nadolig yw Home Alone.  Mae teulu yn mynd i ffwrdd ar wyliau gyda’i gilydd, ond mae nhw’n anghofio am Kevin sy’n cysgu’n hwyr. Mae yntau wedi ei adael gartref felly ac yn cael llawer o hwyl ac antur yn diogelu’r tŷ rhag lladron sy’n ceisio targedu tai sy’n wag dros dymor yr ŵyl. Mae’r ffilm wrth gwrs yn ffantasi llwyr, a llawer yn mwynhau ei gweld. Ond yn y cefndir mae’r ymwybyddiaeth na ddylai Kevin ddim fod wedi cael ei adael. Tyden ni ddim fod ar ein pen ein hunain. (rhagor…)

Mynd i’r Gym

exerciseFe soniais i ddoe am ddeiet iach. Wrth gwrs nid mater o ddeiet yn unig yw byw yn iach. Ochr yn ochr â’r addunedau flwyddyn newydd am golli pwysau trwy fwyta’n well, bydd llawer yn ymuno â gym lleol. Bydd y mwyafrif ond yn mynychu’r gym am ychydig wythnosau, ond mae yna gydnabod bod rhaid cael ymarfer corff er mwyn cael gwerth a llesád o newid deiet. Er mwyn cael gwared â brasder diangen, a chryfhau’r cyhyrau, rhaid ymarfer y cyhyrau a llosgi’r brasder ymaith trwy ymarfer corfforol. (rhagor…)

Deiet wedi’r Dolig

weightloss2Mae’n siwr mai un testun trafod fydd yn dod i’r amlwg rwan, fel bob blwyddyn, fydd “mynd ar ddeiet.” Wedi’r gwledda dros yr ŵyl mi fydd pobl yn meddwl am ffyrdd o golli’r pwysau a chael gwared â’r modfeddi sydd wedi cael eu hychwanegu at ein canol gan y mins peis, y gacen Nadolig a’r siocledi. Mae bwyta’n iach yn beth synhwyrol i’w wneud, yn enwedig pan fyddwn yn clywed fod gordewdra yn un o broblemau mwyaf iechyd pobl yn y wlad hon. Wedi’r cyfan, pwy sydd am ddioddef o glefyd y galon, clefyd siwgr, neu un o’r llu o bethau y dywedir sy’n deillio o fod dros bwysau? (rhagor…)

Sbarion y Twrci

pturkey12_1204051cWel, fe aeth y diwrnod mawr heibio unwaith eto. Gobeithio i chi brofi bendith a mwynhád yn ystod y dydd. Mae’n siwr y bydd y mwyafrif ohonoch yn parháu i fwynhau cyfnod o ymlacio heddiw, os nad ydych wedi bod yn brysio i’r “Sales” bondigrybwyll. Er, i rai pobl dyna yw eu dileit – mae nhw’n cael ymlacio wrth fynd i edrych y bargeinion. I eraill, mae digon o’r twrci ar ôl, ac amser i ymlacio ac edrych yn fwy hamddenol ar yr anrhegion. (rhagor…)