Nadolig 2

imageDarllenwch Mathew 2:12-18

Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod gwahanol. Dyna pam fod y myfyrdod yn hwyr yn ymddangos. Gadewch i mi egluro. Roeddwn i fyny cyn hanner awr wedi pedwar, er mwyn mynd â Heledd, fy merch, i faes awyr Manceinon. Mae’n cymryd rhan mewn cynhadledd yn yr Unol Daleithiau – cynhadledd sy’n digwydd bob tair blynedd lle disgwylir 17,000 o fyfyryr i feddwl am waith yr Arglwydd. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 24

imageDarllenwch Ioan 18:33-38

Un o’r geiriau mae Ben, ein ŵyr bach tair mlwydd oed, wedi ei ddarganfod yn ystod y misoedd diwethaf ydi “Pam?” Dro ar ôl tro, wrth i mi dynnu ei sylw at rywbeth neu  pan fydda i’n dweud wrtho fo am wneud rhywbeth, fe ddaw’r cwestiwn “Pam?” Mae’n un o’r pethau hynny sy’n gosod dyn arwahán i greaduriaid eraill ar y ddaear yma. Mae’r gallu i gwestiynu, ac i geisio deall y rheswm y tu ôl i ddigwyddiadau a bodolaeth y byd yn ran o’n harbenigrwydd ni. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 20

imageDarllenwch Luc 2:1-7

Un o beryglon ein hoes ni yw gwahaniaethu rhwng realiti â ffantasi. Mae’r byd rhithwir a geir ar y we, a’r modd mae’r cyfryngau yn meddiannu cymaint o’n bywydau yn golygu fod y ffîn rhwng yr hyn sy’n wir, a’r hyn sy’n rhithiol, yn ffals neu’n ddychmygol yn amwys iawn. Cymrwch chi “reality shows” y teledu, nad yw’n cyfateb i fywyd go iawn mewn unrhyw ffordd. Ble mae’r ffîn yn cael ei dynnu? (rhagor…)

Tymor yr Adfent 19

imageDarllenwch Rhufeiniaid 8:1-5

Dyma ni wedi cyrraedd y penwythnos olaf cyn y Nadolig ei hun. Bydd amryw wrthi heddiw mae’n siwr yn edrych am yr anrheg hwnnw sydd heb eto gael ei brynu. Mae dewis anrheg addas i ambell un yn hawdd, ond nid felly gyda phawb. Mae yna rai sy’n anodd eu plesio, naill ai am fod ganddyn nhw ddigonedd, neu am nad ydyn nhw efallai yn bobl sy’n rhoi pwys mawr ar bethau. Mae chwilio am rywbeth gwahanol i’r rhain yn gamp. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 18

imageDarllenwch Eseia 55:8-11 a Luc 2:8-14

Mae amser yn newid ein perspectif. Mae rhywbeth sy’n ymddangos yn bwysig i mi heddiw ymhen wythnos neu fis neu flwyddyn wedi diflannu i ebargofiant. Ar y llaw arall gall digwyddiad sy’n mynd heibio heb i mi sylwi bron yn troi allan i fod yn newid cwrs bywyd ymhellach ymlaen. Gall y cyfarfyddiad annisgwyl hwnnw, neu’r penderfyniad i fynd un ffordd yn hytrach na ffordd arall, ddwyn ei ganlyniadau sy’n parhau am flynyddoedd. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 17

imageDarllenwch Mathew 1:18-23

Yr wythnos hon gwelwyd dangosiad cyntaf y ffilm ddiweddaraf yng nghyfres Star Wars. Dyma gyfres sydd wedi dal dychymyg cenedlaethau o blant (a rhai hŷn!). Mae pobl yn hoffi stori dda, a cheir llawer o elfennau sy’n tynnu’r gwylwyr i mewn – yn enwedig y syniad o elyn y mae angen ei wynebu, a da yn goroesi yn erbyn y drwg. Ond wrth gwrs, stori ydi hi – ffrwyth dychymyg George Lucas ac eraill. Nid hanes go iawn mohono. Tydi Luke Skywalker a Princess Leila ddim yn bobl go iawn. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 16

imageDarllenwch Mathew 1:18-25

Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,
A Duw ar drai ar orwel pell;

Dyna fel y mynegodd Hedd Wyn ei deimladau wrth feddwl am y Rhyfel Mawr. Â ninnau gan mlynedd yn ddiweddarach diolch nad ydym yn wynebu ffosydd Fflandrys a Passchendaele. Ond i lawer mae’n byd yn teimlo fel un lle mae Duw wedi pellhau. Dyna pam mai un o’r enwau gafodd Iesu yn mynd â ni at ganol neges y Nadolig – Emaniwel, sef Duw gyda ni. (rhagor…)