Dydd Llun Palmwydd

Deffrôdd yr ebol asyn yn llawn cynnwrf, ac wrth i’r dydd ddeffro dechreuodd ar ei daith.

“Dyma fi” meddai wrth bawb a gwrddai ar y ffordd, ond doedd neb yn cymryd sylw ohono. Aeth i mewn i’r dref a’i ben yn uchel, ond er mawr syndod iddo, doedd neb yn aros, neb yn falch o’i weld. Aeth i mewn i’r farchnad yn llawen, gan ddweud – “taflwch eich dillad ar lawr o’m blaen!” Ond roedd pobl yn dechrau troi arno a gweiddi arno’n gas – Dos oddi yma! Beth wyt ti’n ei wneud yma? (rhagor…)

Albania 13

Roedd newyddion braf yn fy nisgwyl pan gyrhaeddais yn ôl i’r gwesty neithiwr. Roedd e-bost yn dweud wrthyf fod cwmni awyrennau Lufthansa wedi canslo fy nhaith fory. Doedd dim eglurhad, felly treuliais y noson yn ceisio dyfalu beth oedd o’i le, a sut fyddwn yn cyrraedd adref. Erbyn y bore dyma ddeall mai streic oedd yn gyfrifol am y gohirio, a byddwn yn cael fy ngosod ar awyren arall ryw bryd. (rhagor…)

Albania 11

Rwy’n mwynhau brecwast yma, Mae’r gwesty lle rwy’n aros yn cael ei redeg gan Gristnogion. Mae’r awyrgylch yn y bwyty yn braf, a’r rhai sy’n gweini yn gyfeillgar. Rwy’n dod i nabod un yn arbennig. Mae nhw’n dibynnu llawer ar y cildwrn byddan nhw’n ei gael ar ddiwedd pryd. Tydi o ddim y mwyaf moethus o westai’r ddinas, ond mae’n ddiddorol sgwrsio gyda rhai sy’n dod yma – mae amryw o genhadon yn defnyddio’r lle. Wedi brecwast treuliais y bore yn paratoi rhywfaint at y Sul. Byddaf adref erbyn hynny, ac angen dwy bregeth newydd, felly mae gwaith wedi ei wneud heddiw yn arbed gofid ar ddiwedd yr wythnos. (rhagor…)

Albania 10

Mae Mosque heb fod yn bell o’r gwesty lle rwyf yn aros, a bob bore am bump caf fy neffro gan yr alwad i weddi sy’n seinio o dŵr y Mosque trwy uchel-seinydd. Er fod Zef yn mynnu fy atgoffa nad yw’r mwyafrif o Fwslemiaid yn y wlad yn ymarfer eu crefydd o gwbl, a bod yr Eglwys Uniongred yn y de, a’r Eglwys Gatholig yn y gogledd mor gryf ag Islam, mae’r alwad i weddi yn fy atgoffa nad yw ein brwydr yn erbyn cig a gwaed, ond yn un ysbrydol i’w hennill ar ein gliniau gerbron Duw. (rhagor…)

Albania 8

Mae pobl sy’n ymweld ag Albania yn cwyno m amryw bethau. Un ydi cyflwr y ffyrdd, sy’n llawn tyllau (er fod hwnnw yn gwellla). Peth arall yw cyflwr y gyrru (sy’n gwella dim. Ddoe fe deithiais yn ôl dros y mynyddoedd mewn bws mini oedd fod yn cario 8 o deithwyr. Roedd deuddeg ohonom ynddo, a thrwy drugaredd roedd y ffenestri wedi stemio, fel nad oeddwn yn gallu gweld y dibyn wrth ochr y lôn mewn mannau. Doedd neb yn gwisgo gwregys diogelwch, a’r gyrrwr yn treulio hanner yr amser ar ei ffôn symudol). (rhagor…)

Albania 7

Nos Fercher, wedi’r cyfarfod i rannu’r efengyl, cefais baned gyda Ron, y cenhadwr o’r Unol Daleithiau, sydd yma ers tro. Symudodd ef a’i wraig i Sbaen i ddechrau fel cenhadon, ond ar ôl pum mlynedd daeth drws i Albania ac yma maen nhw wedi bod ers hynny. Mae ganddynt naw o blant (dwi’n credu), a phump ohonyn nhw wedi priodi ag Albaniaid bellach, er bod tair o’r rheini wedi symud efo’u gwŷr yn ol i UDA erbyn hyn.Byddan nhw’n symud yn ôl eu hunain fis Medi oherwydd gofalon teuluol, ond mae’n amlwg nad ydynt yn edrych ymlaen yn ormodol at wneud hynny. (rhagor…)

Albania 5

Mae gwaith yr efengyl yn aml yn gyfuniad o bethau gwych a phethau sy’n peri rhwystredigaeth. Dydd Llun roedd pob dim fel petai yn cymryd dwy waith gymaint o amser ag y dylai. Roeddem yn hwyr yn gadael Tirana oherwydd fod Zef angen gwneud pethau. Wedi taith ddiddorol dros y mynyddoedd ar hyd lonydd sy’n codi brawiau ar y dewraf o yrrwyr, dyma gyrraedd Elbasan, a chyn pen dim roedd Zef ar goll yn crwydro strydoedd cefn y ddinas. (rhagor…)