Richard Dawkins

Un o ladmeryddion mwyaf llafar yr Atheistiaeth Newydd yw Richard Dawkins. Yn ei farn ef nid oes unrhyw un sydd yn barod i feddwl yn gallu credu yn Nuw. Mae gennym gymaint o wybodaeth am y byd a’r bydysawd bellach fel bod cred yn Nuw yn amlwg yn ofergoel i unrhyw un sy’n defnyddio gronyn o synnwyr cyffredin. Mae’n apelio yn arbennig at wyddoniaeth i honni mai peth afresymol yw credu.

Mae’n rhaid i mi gyfaddef fod gennyf gydymdeimlad ag o, am fy mod innau ar un adeg yn meddwl yn ddigon tebyg. Roedd cael syniadau am foesoldeb a charu ein gilydd yn ddigon derbyniol, ond roedd meddwl am gredu storïau’r Beibl am fwydo’r pum mil, neu iacháu gwyrthiol, neu atgyfodiad yn gorfod bod yn wirion. Mae’n rhaid fod y bobl oedd yn credu’r pethau hynny heb feddwl pethau trwodd yn glir.

Ond fe newidiais i fy meddwl, a bellach ers 40 o flynyddoedd rwyf wedi cymryd safbwynt cwbl wahanol. Ai rhoi fy meddwl a’m synnwyr mewn rhewgell wnes i ddeugain mlynedd yn ôl? Ai rhoi mewn i bwysau a “brainwashing” fy rhieni wnes i? Go brin, meddwn i, ac nid fi yw’r unig un.

Mewn arolwg diweddar roedd 40% o wyddonwyr yn cyfaddef eu bod yn credu yn Nuw, 40% yn honni nad ydynt yn credu yn Nuw, ac 20% yn dweud nad ydynt yn gallu penderfynu naill ffordd neu’r llall. (Felly yn ôl Dawkins, mae 60% o’i gyd-wyddonwyr yn bobl sy ddim yn defnyddio eu meddwl!)

Fodd bynnag, gadewch i ni gymryd ei honiad mai peth afresymol yw credu. Pa mor afresymol yw cred yn yr hyn mae’r Beibl yn ei ddysgu i ni? Gallwn fynd at hyn mewn sawl ffordd. Fe ddechreuwn ni gyda rhai cwestiynau cwbl sylfaenol.

Beth yw’r esboniad gorau ar y byd rydym yn byw ynddo? Rhaid edrych ar y dystiolaeth a meddwl, tybed sut fedrwn ni roi cyfrif am yr hyn a welwn. Mae Dawkins a’i gyfeillion yn honni mai’r esboniad gorau yw fod y cwbl yn ddi-drefn. Mae’r bydysawd yn bodoli trwy weithrediadau cwbl afreolus gronynnau is-atomig, ac nid oes unrhyw bwrpas na chyfeiriad i ddim. Rydym ni yn bodoli trwy hap a damwain, a rhyw falchder ar ein rhan ni yw credu fod i’r corff hwn a’r swp o lwch mae wedi ei greu ohono unrhyw bwrpas uwch.

Rwyf finnau yn edrych ar yr un dystiolaeth a gweld fod yna batrymau cwbl amlwg – mae yna drefn. Mae trefn disgyrchiant fel petai’n rheoli y modd mae pob gronyn trwy’r bydysawd yn ymddwyn. P’un ai ydych yn edrych ar symudiad y sêr yn y gofod trwy delesgôp, neu weithrediad celloedd bychan dan feicrosgôp, mae yna batrymau rheolaidd. I mi mae hynny’n awgrymmu trefnydd. Mae’n awgrymu fod yna gynlluniwr sydd wedi gosod y patrymau hyn i lawr.

Un o ddarganfyddiadau mawr ein hoes ni yw’r genome. Dyma sy’n rheoli beth fyddwn – ai dyn neu fanana neu forgrugyn neu eliffant. Mae’r cwbl wedi ei ysgrifennu yn ein genynnau. Yn wir mae’r gwyddonwyr yn sôn am iaith y genynnau. Rwan tydw i erioed wedi darllen llyfr sydd wedi ymddangos ar hap. Mae pob llyfr yr ydw i wedi dod ar ei draws hyd yma wedi cael ei ysgrifennu gan rhywun.

Peidiwch a’m cam-ddeall. Nid dweud ydw i fod trefn y bydysawd yn profi fod Duw yn bod. Yr hyn rwy’n dweud yw fod modd edrych ar y dystiolaeth a dod i gasgliadau gwahanol i rai Richard Dawkins a’i gyd-atheistiaid, Felly rwy’n gweld cliwiau yn llyfr y greadigaeth sy’n awgrymu fod yna awdur y tu ôl i’r cyfan. Mae’n wir na allaf brofi bodolaeth Duw trwy edrych ar y greadigaeth, ddim mwy nag y gall Richard Dawkins brofi nad oes Duw yn bod. Ond mae’n rhesymol (heb fod yn afresymegol) mai un esboniad dros y cwbl yw fod yna Grëwr y tu ôl i’r cyfan.

Felly gall Dawkins edrych ar y sêr, a rhyfeddu fod y bydysawd mor fawr a dyn mor fach. Tra byddwn innau yn edrych ar yr un sêr a rhyfeddu gyda’r Salmydd fod “y nefoedd yn datgan gogoniant Duw, a’r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo.” (Salm 19)