Santa-HelloUn cyhuddiad yn ein herbyn ni sy’n credu ydi ein bod wedi dyfeisio’r syniad o Dduw am ei fod yn ein siwtio – rhyw Sion Corn o dduw i’n helpu trwy fywyd. Er y gellir olrhain y syniad hwn yn ôl o leiaf i Ludwig Feuerbach (1804 – 1872), mae dwy ffrwd y gellir sôn amdanyn nhw yn y meddwl poblogaidd.

Yn gyntaf, gan ddilyn Karl Marx, honiad rhai yw ein bod wedi dyfeisio duw fel rhyw fath o power play. Rhyw ymgais oedd gan y rhai oedd mewn grym i gadw pawb arall i fyhafio’n iawn, felly dyfeisiwyd y syniad o dduw sy’n gwylio dros bawb i gosbi troseddwyr. Roedd y grym felly yn y canol oesoedd yn nwylo’r Eglwys, a hyd yn oed wedyn roedd yn gyfleus i’r eglwys yn fynd law yn llaw â’r status quo er mwyn dal ei dylanwad a’i phŵer. Wrth gwrs, mae hyn yn taro tant gyda’r ysbryd ôl-fodernaidd sy’n amau pob awdurdod.

Yn ail, gan ddilyn Freud, fe ddyfeisiwyd y syniad o dduw gan bobl wan. Rydym yn rhy wan i sefyll ar ein traed ein hunain a wynebu realiti’r byd. Rhaid cael rhywbeth, neu ryw un mwy na ni er mwyn gallu bwrw’r cyfrifoldeb yn y pen draw ar hwnnw, yn hytrach na’i wynebu ein hunain. Rhyw swcwr i bobl wan, neu fagl (crutch) i bwyso arno. Rhyw Sion Corn y mae’n rhaid i ni dyfu i fyny er mwyn gweld trwyddo fo.

Mae yna sawl problem gyda’r dehongliad hwn fod dyn wedi creu duw i’w siwtio ei hunan. Y cyntaf a’r mwyaf amlwg yw y gellir gwneud yr un cyhuddiad yn erbyn y rhai sy’n gwadu bodolaeth Duw. Oni ellir dwedu eu bod nhw wedi dyfeisio bydolwg heb dduw oherwydd fod hynny yn eu siwtio? Wedi’r cwbl, un o’r pethau angyfforddus am gredu yn Nuw yw ein bod yn gyfrifol am yr hyn a wnawn, a rhyw ddydd rhaid ateb i’r Duw hwnnw.

Thomas NagelFe gyfaddefodd Thomas Nagel, athro mewn athroniaeth a’r gyfraith yn Efrog Newydd: “I want atheism to be true and am made uneasy by the fact that some of the most intelligent and well-informed people I know are religious believers. It isn’t just that I don’t believe in God and, naturally, hope that I’m right in my belief. It’s that I hope there is no God! I don’t want there to be a God; I don’t want the universe to be like that.”(”The Last Word” by Thomas Nagel, Oxford University Press: 1997)”

Mae credu yn Nuw yn golygu wynebu’r ffaith nad ydym wedi dod i fyny i’r safon – beth bynnag yw’r safon honno. Felly gellir yn hawdd dadlau mai’r anffyddwyr sydd yn creu’r byd mae nhw yn ei ddymuno.

Gyda llaw, rydw i wedi clywed am sawl un oedd yn credu yn Siôn Corn wnaeth roi heibio’r gred honno wedi iddyn nhw dyfu. Glywais i erioed am unrhyw un yn tyfu i mewn i gred yn y dyn bafog mewn siwt goch. Ar y llaw arall mae gen i brofiad o sawl un ddechreuodd heb gred yn Nuw, ond benderfynodd wrth dyfu mai dyna oedd y gwir. Yn wir, yn fy mhrofiad i CS-Lewis-600x493fy hun, fe dreuliais i sawl blwyddyn heb gredu, ac yna ond yn cydnabod y posibilrwydd damcaniaethol o fodolaeth duw, cyn dod i gred bendant ynddo. Cofiwn eiriau enwog C. S. Lewis: “That which I greatly feared had at last come upon me. In the Trinity Term of 1929 I gave in, and admitted that God was God, and knelt and prayed: that night perhaps the most dejected and reluctant convert in all England. I did not then see what is now the most shining and obvious thing; the Divine humility which will accept a convert even on such terms.” Surprised by Joy  gan C.S.Lewis – Harper Collins)