Thema’r sylwadau hyn yw “pam credu?”. Un o’r rhesymau sydd gennyf dros gredu yw fod efengyl Iesu Grist yn ateb syched dwfn yn fy nghalon.

800px-Fra_angelico_-_conversion_de_saint_augustinUn o’r pethau sydd wedi dod yn amlwg yn ystod y degawdau diwethaf yn y Gorllewin yw nad yw pobl yn gallu bodloni ar gredu mai deunydd plaen – atomau a moleciwlau materol yn unig – ydym. Mae yna ryw hiraeth am yr “ysbrydol”. Mae yna reddf ynom sy’n golygu bod yna syched yn ein calonnau am fwy na bwyd, iechyd a diogelwch.

Mae’r ffaith bod dynolryw wedi credu o’i dyddiau cynnar bod yna elfennau ysbrydol yn bod, a’u bod yna rywbeth y dylid ei addoli yn arwyddocáol. Wrth gwrs, fe fyddai’r Atheistiaid Newydd yn mynnu mai ofergoel cyntefig yw hyn i gyd, ac y dylem dyfu allan ohono. Ond y ffaith yw nad yw pobl yn gyffredinol wedi tyfu allan ohono. Er i lywodraethau yn y gwledydd Comiwnyddol geisio cael gwared â chrefydd, methiant fu’r ymgais. Er i raglenni ar y teledu ddysgu mai canlyniad esblygiad di-feddwl, di-gyfeiriad yw dyn, eto os rhywbeth mae diddordeb pobl yn yr “ysbrydol” wedi cynyddu. Mae fel petai rhywbeth yn ein gwead sy’n peri na allwn fodloni ar gredu ein bod yn ddim mwy na mater wedi ei animeiddio.

Rwan pan edrychwn ni ar bethau eraill am ein gwneuthuriad, gallwn weld bod ein greddfau yn aml yn cyfateb i ryw realiti y tu allan i ni ein hunain. Er enghraifft ar adegau mae arnaf syched. Nid rhyw deimlad di-gyfeiriad yw hwn. Mae’n arwydd fod fy nghorff angen rhywbeth – rhywbeth sy’n cael ei fodloni gan ddŵr neu ddiod. Gallwn ddweud yr un peth am chwant bwyd – mae’n cyfeirio at realiti’r bwyd rwyf angen ei fwyta er mwyn i fy nghorff ffynnu. Onid yw’n rhesymol felly fod ein syched am rhywbeth mwy na’r corfforol yn cyfateb i realiti y tu allan i ni ein hunain?

Dyma fel y mynegodd Awstin Sant y peth yn ei gyffesion: “Ti a’n creaist ni i Ti Dy Hun, ac anniddig yw ein calon hyd oni orffwyso ynot Ti” . Mae’n wir bod pobl wedi ceisio llenwi’r anniddigrwydd hwn gyda phethau eraill, neu hyd yn oed wedi mygu’r hiraeth. Er hynny rydym yn parhau i edrych am arwyddocád neu bwrpas i’n bywyd sy’n fwy na dim ond bodoli o un foment i’r nesaf. Mae yna awydd dod o hyd i gartref i’n henaid.

Un o ryfeddodau efengyl Iesu Grist yw fod Duw ei hun yn awyddus i fod yn gartref i’n heneidiau. Os ydym ni yn ceisio, mae Duw ei hun yn ein ceisio ni. Dyna pam y plannodd o’r hiraeth hwn yn ein calonnau. Fe ddywedodd Solomon “rhoddodd dragwyddoldeb yng nghalonnau pobl” (Llyfr y Pregethwr 3:11). Yr un fath ag y rhoddodd Duw reddf i sychedu am ddiod, mae wedi rhoi’r hiraeth ysbrydol hwn ynom, a phan glywn lais y Bugail Da yn dweud (Ioan 7:37) mae’r reddf hon yn cael ei bodloni, a down o hyd i’n cartref.

(Llun Fra Angelico o droedigaeth Awstin a welir uchod)