Arwydd wrth ffens drydan yn Auschwitz

Arwydd wrth ffens drydan yn Auschwitz

Un o’r bobl yr wyf wedi ei barchu fwyaf yn y byd yw fy nhad. Roedd fy edmygedd ohono tra roedd yn fyw yn fawr, ac mae fy mharch tuag ato yr un mor fawr heddiw. Roedd yn ddyn o egwyddor ac integriti. Yn ystod yr ail ryfel byd roedd yn wrthwynebydd cydwybodol. Fe gostiodd ei safiad iddo mewn sawl ffordd, ond un o’r pethau oedd yn ei flino fwyaf wedi’r rhyfel oedd, tybed a wnaeth y penderfyniad cywir.

Roedd ei dad-yng-nghyfraith, sef fy nhaid ar ochr fy mam, yn byw yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Roedd yn paratoi ar gyfer y weinidogaeth ar y pryd, ac fel llu o ymgeiswyr eraill am y weinidogaeth fe ymunodd â’r Corfflu Meddygol (Royal Army Medical Corps). I fy nhad roedd hyn yn teimlo fel llwybr mwy cadarnhaol. Yn hytrach nag osgoi’r brwydro, roedd wedi gwneud rhywbeth positif er daioni ynghanol y gofid.
Rwy’n grediniol, pe byddai dad yn byw yn yr Iseldiroedd neu Ffrainc y byddai wedi bod yn ceisio ffordd o helpu’r rhai megis yr Iddewon i ddianc rhag y gormes, fel ag y gwnaeth pobl Le Chambon-sur-Lignon y cyfeiriais atynt yn y blog diwethaf.
Y cwestiwn sydd gen i wedi ymweld ag Auschwitz yw, “A oedd hynny’n ddigon?”
Wrth gwrs, nid gwadu gwerth y rhai sy’n sefyll yn erbyn rhyfel ac o blaid heddwch yr wyf yma, na chwaith gwadu fod llywodraethau yn aml yn brysio i ryfel yn ddi-feddwl. Nid wyf am gyfiawnhau ysbryd rhyfelgar mewn unrhyw ffordd. Ond wedi gweld yr hyn a ddigwyddai yn y gwersyll-garchar difa rwyf wedi dod i ddeall y syniad o ryfel cyfiawn mewn ffordd newydd.
Y ffwrneisi lle llosgwyd cyrff y rhai laddwyd yn y siambrau nwy

Y ffwrneisi lle llosgwyd cyrff y rhai laddwyd yn y siambrau nwy

Roedd y sustem a grewyd i ddifa hil yr Iddewon, a’r creulondeb a arferwyd yno mor annynol. Roedd yn rhaid rhoi stop arno rywsut. Sut na ataliwyd y cyfan ynghynt? Rwy’n ddiolchgar am y cyfraniad arwrol wnaed gan rai i guddio’r Iddewon, a’u cynorthwyo i ddianc oddi wrth y Natsïaid. Ond nid dyna’r unig ffordd o wrthwynebu. Roedd yn rhaid gwneud rhywbeth mwy uniongyrchol i ddifa’r sustem oedd yn arteithio a difa pobl fel hyn.

Gwyddom fel y daeth Cristion mor gadarn ei argyhoeddiadau â Dietrich Bonhoeffer i’r pwynt lle gwelai fod yn rhaid defnyddio trais i gael gwared ag Adolf Hitler. Ymunodd mewn cynllwyn i lofruddio’r Führer. Rydym yn byw mewn byd syrthiedig lle na allwn osgoi drygioni. Un peth yw peidio taro’n ôl pan gawn ni ein brifo. Ond peth gwahanol yw gadael i’r gwan a’r diamddiffyn ddioddef. Roedd Auschwitz yn galw ar y byd i atal yr hil-laddiad, y poenydio, y llofruddio, yr arbrofi ar bobl a’r creulondeb sadistaidd oedd yn cael ei weithredu yno. A’r unig ffordd y gellid gwneud hynny oedd trwy goncro’r awdurdodau Natzïaidd a’u sustem ddieflig.
Yn Llyfr y Salmau darllenwn am Dafydd yn galw ar i Dduw farnu’r annuwiol. Tydi’n hoes sentimental ni ddim yn rhy gyfforddus yn clywed y fath siarad. Mae’n well gennym sôn am gariad a maddeuant.
Diolch i Dduw, mae’n hefengyl ni yn dweud fod maddeuant yn bosib i’r gwaethaf ohonom. Ond mae yna adegau hefyd lle mae’n iawn i ni sefyll o blaid y diamddiffyn, galw am gyfiawnder, a gweithredu i atal y drygioni a welwn ar waith yn y byd. Rhaid atal pobl o ysbryd Hitler, Amin, Pol Pot neu Stalin. Cwestiwn sy’n gofyn am drafod pellach mewn ysbryd o ostyngeiddrwydd yw sut yr ydym i wneud hynny.