Caniau o'r cemegau ar gyfer y siambr nwy yn Auschwitz

Caniau o’r cemegau ar gyfer y siambr nwy yn Auschwitz

Un o’r emynau y mae Cymry yn dal i’w chanu gydag arddeliad yw honno ysgrifennwyd gan Dafydd Charles, Caerfyrddin:

Rhagluniaeth fawr y nef
Mor rhyfedd yw
Esboniad helaeth hon
O arfaeth Duw.

Dwi’n amau fod yr hwyl ar y canu fwy i’w wneud â’ r dôn na’r geiriau. Oherwydd mae’r syniad fod Duw yn trefnu pob dim yn dipyn o her, yn enwedig wrth feddwl am y dioddef yn Auschwitz.
Ble oedd Duw yn yr Holocost? Sut fedrwn ni sôn am ragluniaeth Duw wrth yr Iddewon a ddioddefodd y fath bethau erchyll? Pam fod Duw wedi caniatáu i’r Holocost ddigwydd? Os yw Duw yn Arglwydd pob dim, sut fod pethau fel hyn wedi cael digwydd?

Bu sawl ymgais aflwyddiannus i ladd Hitler cyn y rhyfel hyd yn oed, heb sôn am yn ystod y gyflafan. Pam fod Duw wedi caniatáu i’r Führer fyw a mynd ymlaen i gyflawni’r fath droseddau yn erbyn miloedd? Onid oedd bywydau Anne Frank, Dietrich Bonhoeffer, a miloedd o rai eraill yn fwy gwerthfawr, yn fwy adeiladol na chreulondeb Hitler, Goering, Hess a Mengele?

Ateb yr atheistiaid i’r drygioni hyn yw nad oes trefn yn bod. Oherwydd hynny fedrwn ni ddim sôn am gyfiawnder neu anghyfiawnder. Mae’r fath siarad yn ddibwrpas. Y cyfan fedrwn ni ei wneud yw dioddef a gobeithio na ddaw y drygioni yn agos atom ni. Ond tydi hynny ddim yn bodloni y rhan fwyaf ohonom.

Ateb crefyddau’r Dwyrain yw mai kharma ydi’r cyfan. Rhaid dioddef er mwyn talu am y gorffennol. Ateb Islam yw fod y cyfan rhywsut yn digwydd yn ôl ewyllys Allah (In šāʾ Allāh), ac na allwn ni holi na gosod unrhyw amodau ar Allah.

Ond i ni sydd yn credu yn Iesu Grist, onid oes yna ryw ateb i broblem y drygioni hwn?
Er fod perygl gor-symleiddio rhywbeth sy’n fawr a dwfn, rwy’n credu fod gan y Beibl rhywbeth i’w ddweud wrthym am y mater.

Cymrwch yn gyntaf hanes Mair, Martha a’u brawd Lasarus (mae’r hanes i’w weld yn Efengyl Ioan 11). Roedd Lasarus yn sâl ac anfonwyd am Iesu. Erbyn iddo gyrraedd roedd Lasarus wedi marw. Roedd pobl mewn dryswch. Roedd Mair a Martha ill dwy yn dweud: “Pe buasit ti yma, syr, ni buasai fy mrawd wedi marw. (‭Ioan‬ ‭11‬:‭21‬ BCN) Roedd hyd yn oed rhai o’u cyfeillion yn dweud: “Oni allai hwn, a agorodd lygaid y dall, gadw’r dyn yma hefyd rhag marw?” (‭Ioan‬ ‭11‬:‭37‬ BCN)
Beth ddywedodd Iesu ei hun? Pan glywodd Iesu, meddai, “Nid yw’r gwaeledd hwn i fod yn angau i Lasarus, ond yn ogoniant i Dduw; bydd yn gyfrwng i Fab Duw gael ei ogoneddu drwyddo.” (‭Ioan‬ ‭11‬:‭4‬ BCN)
Rhywsut roedd Duw yn mynd i ddwyn gogoniant a daioni allan o’r gofid hwn.

Meddyliwch wedyn am y pechod mwyaf gyflawnwyd erioed – croeshoelio Mab Duw ei hun. Trwy’r sgandal ofnadwy hyn fe barodd Duw i’r daioni mwyaf ddod i’n rhan. Fe ddioddefodd Iesu er mwyn i ni gael ein gwaredu oddi wrth ein pechodau a’n dwyn yn ôl at Dduw. Arweiniodd y sgandal fwyaf at y fendith fwyaf.

Felly pan drown at yr Holocost, ein hateb ni yw fod Duw yn ddigon mawr, ac yn ddigon da i beri bod erchylldra Auschwitz rhyw ddydd yn mynd i fod wedi ei droi yn gyfrwng bendith a daioni mawr. (Edrychwch hefyd ar Efengyl Ioan 9:1-5)

Nid yw hyn yn cyfiawnháu nac esgusodi yr hyn a wnaeth y Natzïaid. Nid yw ychwaith yn ein esgusodi ni rhag gwneud popeth a allwn i wrthwynebu drwg yn y byd. Ond mae yn rhoi gobaith i ni yn wyneb y drygioni byddwn ni yn ei wynebu. Does yna’r un sefyllfa mor ddrwg na allwn droi at ein Tad yn y nefoedd a gwybod (a) ei fod yn deall a chydymdeimlo gyda ni. (b) Ei fod Ef gyda ni yn ein tywyllwch. (c) fod Iesu wedi wynebu’r tywyllwch eithaf er mwyn i ni beidio byth gorfod suddo mor isel ag y gwnaeth o, ac (ch) y bydd Duw yn ein harwain trwodd i fendith, a rhyw ddydd bydd yn sychu ymaith bob deigryn oddi ar ein gruddiau ni (Datguddiad 21:4)