Rhai o'r cynadleddwyr

Rhai o’r cynadleddwyr

Un o fendithion y gynhadledd hon yw’r cyfle ddaw i siarad gyda phobl mewn gwahanol sefyllfaoedd. Mae yma gefnogwyr sydd wedi bod yn gweddïo’n ffyddlon dros genhadon ers blynyddoedd. Mae gweld eu diddordeb nhw, a’u ffyddlondeb yn pwysleisio undod y gwaith. Mae i bob un ei ran – y rhai sy’n mynd o’u cynefin i fod yn genhadon, a’r rhai sy’n aros yma i’w cyflwyno’n gyson i ras Duw.

Mae yna eraill yma wedyn sy’n ystyried galwad Duw ar eu calonnau. Mae nhw’n meddwl ei bod yn bosib fod gan Dduw waith iddyn nhw ei wneud dramor, ac mae nhw yn cael cyfle i drafod gyda’r rhai sydd eisioes wedi mynd.

Mae yna eraill sydd wedi bod allan, ond bellach wedi dod yn ôl i’r wlad hon, ac yn brysur yn dwyn tystiolaeth yma. Mae yna eraill wedyn sy’n mynd a thimau draw efallai am wythnos neu ddeg diwrnod yn yr haf, i gynnal gwersylloedd, neu i gynorthwyo gyda prosiectau tymor byr.

Un o’r rhai rwyf wedi bod yn siarad ag o yw Peter Anderson. Mae bellach yn ei wythdegau, ond bu’n efengylydd teithiol am flynyddoedd. Roedd yn braf siarad gydag o am ddyddiau’r Comiwnyddion gan ei fod ef a minnau wedi bod draw yn cynorthwyo’r eglwysi y tu ôl i’r llen haearn. Roedd yn adnabod rhai yr oeddwn i wedi eu cwrdd ym Mhrâg yn ôl yn yr wythdegau, gan gynnwys Pavel Javorničky fuodd yn ymweld â Bangor wedi’r chwyldro.

Ddoe cawsom adroddiadau o dde America – yn enwedig Brasil a Pheriw. Clywsom hefyd gan rai sy’n gweithio’n nes adref – rhai fuodd dramor ond sydd bellach wedi dy hwelyd adref, ac sydd yn gweithio yn y Deyrnas Unedig. Mae un cwpl, er enghraifft, wrthi yn Abergwynfi, heb fod ymhell o Gastell Nedd, a chwpl arall wedi dychwelyd i Creunant yn y cymoedd.

Clywsom gan gwpl sy’n gweithio yng ngorllewin Iwerddon, yn Castlebar. Fe’m trawyd gan eu gweledigaeth syml am eu gwaith:
Rhannu rhywbeth gyda phawb yn Castlebar ( gwahoddiadau i wasanaethau arbennig, rhannu pethau o dŷ i dŷ)
Rhannu mwy gyda ychydig (ymgyrchoedd penodol, astudiaeth, cyfarfodydd plant etc)
Rhannu eu bywydau ym mha bynnag ffordd y gallen nhw ( gyda chymdogion, gyda phlant ar y stryd lle mae nhw’n byw etc.)

Rhywbeth arall calonogol yw clywed am bobl yn gweithio mewn mannau lle nad yw’r awdurdodau am iddynt fod. Nid oes modd rhannu ar y we yr hyn sy’n digwydd, rhag peryglu’r gwaith. Ond fel mae Paul yn dweud wrth Timotheus: “nid oes carchar i ddal gair Duw.” Mae dewrder teuluoedd ifanc i fynd a bod yn oleuni sy’n llewyrchu ynghanol tywyllwch mawr yn gofyn cwestiynau dwys am ein Cristnogaeth ni sydd yn ymddangos mor hawdd ar adegau.