imageDaeth Iesu i barthau Cesarea Philipi, a holodd ei ddisgyblion: “Pwy y mae pobl yn dweud ydwyf fi, Mab y Dyn?” (‭Mathew‬ ‭16‬:‭13‬ BCN)

Mae gwahanol bobl yn derbyn gwahanol deitlau yn ein cymdeithas – gelwir un yn “Barchedig” am ei fod wedi ei ordeinio. (fues i erioed yn gyfforddus iawn gyda’r teitl hwnnw!) Bydd un arall yn cael ei anrhydeddu ac yn cael ei alw’n Arglwydd, gyda’r hawl neu’r cyfrifoldeb o fynd i Dŷ’r Arglwyddi yn Llundain i gynorthwyo gyda llywodraethu’r wlad. Mae teitlau wedyn y gellir eu hennill trwy ymdrech – Doctor; Olympic Champion; Pop Idol.

Y teitl ddewisodd Iesu iddo’i hun, a’r un ddefnyddiodd fwyaf aml yn yr efengylau yw “Mab y Dyn”.  Dyna chi ryfeddod. Ef yw’r Gair Tragwyddol; Dymuniant y Cenhedloedd; Arglwydd yr Arglwyddi; Arglwydd y Lluoedd! Ef yw Uniganedig y Tad, Mab Duw mewn ffordd na all neb arall ohonom gael ein galw yn blant Duw. Eto  ei hoff deitl yma ar y ddaear oedd Mab y Dyn.

Mae llawer y gellir ei ddweud am y teitl hwn. Roedd Eseciel yn aml yn cael cyfeirio ato gan Dduw fel mab dyn – fel petai Duw am ei atgoffa ynghanol ei weledigaethau mawr mai dynol oedd – creadur bach yn sefyll gerbron yr Hollalluog. Ac yn sicr mae i Iesu ddewis y teitl hwn yn ein hatgoffa mor isel roedd wedi dod er ein mwyn.

Mewn cymaint o ffyrdd roedd Iesu yn uniaethu gyda ni, bobl, yn wŷr, gwragedd, bechgyn a merched. Yn faban roedd yn un gyda’r digartref a’r ffoaduriaid, heb le yn y llety, ac yn gorfod ffoi rhag Herod. Yn blentyn fe uniaethodd ei hun gyda phlant y byd, yn dysgu ufudd-dod i’w rieni (Luc 2:51). Yn ei fedydd fe uniaethodd ei hun gyda ni yn ein gwendid a’n hangen am lanhâd. Yn y ffordd fwyaf eithafol ar y groes, wrth gymryd ein condemniad yn ein lle, fe’n gwnaeth ni yn un ag Ef. Mab y Dyn – un ohonom ni! Ganwyd Ef, O! Ryfedd drefn, fel y’n genid ni drachefn!

Ond mae gen i syniad ei fod yn hoff o’r teitl, am ei fod yn syndod iddo i ryw raddau i gael ei hun yn ein plith ni. Mae’r Beibl yn dweud wrthym fod Crist, er ei fod yn Dduw/ddyn, yn rhyfeddu ar adegau. Galla i ei ddychmygu yn deffro yn y bore, a sylweddoli eto nad oedd yn y nefoedd ar ei orsedd gyda’r seraffiaid yn ei addoli. Yn lle hynny roedd yn gorwedd ar wely isel mewn ystafell dywyll, yn wynebu diwrnod o fyw ymhlith y tlawd a’r anghenus. Mab y Dyn!

Ond os oedd Iesu yn atgoffa ei hun o bwy ydoedd, mae eisiau i ninnau atgoffa’n hunain o pwy ydyw. Yn llyfr Daniel fe ddown ar draws Fab y Dyn hefyd : Ac fel yr oeddwn yn edrych ar weledigaethau’r nos, Gwelais un fel mab dyn yn dyfod ar gymylau’r nef; a daeth at yr Hen Ddihenydd a chael ei gyflwyno iddo. Rhoddwyd iddo arglwyddiaeth a gogoniant a brenhiniaeth, i’r holl bobloedd o bob cenedl ac iaith ei wasanaethu. Y mae ei arglwyddiaeth yn dragwyddol a digyfnewid, a’i frenhiniaeth yn un na ddinistrir. (‭Daniel‬ ‭7‬:‭13-14‬ BCN)

Dyma’r Un fydd rhyw ddydd yn ein barnu oll mewn cyfiawnder, a’r syndod y dydd hwnnw fydd gweld ei fod nid yn unig yn arddel y teitl Mab y Dyn, ond hefyd yn ein harddel ni sydd wedi credu ynddo!

Rhyfedd, rhyfedd gan angylion,
Rhyfeddod mawr yng ngolwg ffydd,
Gweld Rhoddwr Bod, Cynhaliwr helaeth
A Rheolwr popeth sydd
Yn y preseb mewn cadachau
A heb le i roi’i ben i lawr,
Eto disglair lu’r gogoniant
Yn ei addoli’n Arglwydd mawr.

Ann Griffiths