download (2)Yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddi wrth Cesar Awgwstus i gofrestru’r holl Ymerodraeth. (‭Luc‬ ‭2‬:‭1‬ BCN)

Sut mae’r paratoadau yn mynd tybed? Ydech chi wedi prynu eich anrhegion i gyd? Beth am ysgrifennu a phostio’r cardiau Nadolig? Gwelais rhywle fod ddoe wedi ei bennu yn “National Wrapping Day”! (Roedd y ffaith fod y cyhoeddiad hwnnw yn cyd-fynd â hysbyseb am Scotchtape yn gwneud i mi amau fod yna gymhelliad mwy na chael Nadolig trefnus y tu ôl i ddiwrnod cenedlaethol lapio anrhegion!) Mae cymaint i’w drefnu, medde nhw. Ar raglen Classic FM ddiwedd yr wythnos roedd gwrandawyr yn cael eu hannog i orffen y frawddeg “Christmas wouldn’t be Christmas without ……..” Mae’n syndod beth oedd rhai yn mynnu fod yn rhaid ei wneud er mwyn i’w Nadolig fod yn gyflawn.

Wrth gwrs, does dim rhaid gwneud yr holl bethau hynny. Ond adeg y Nadolig cyntaf roedd yna lawer i’w drefnu. Roedd Duw wedi dweud fod sawl peth yn mynd i ddigwydd pan ddeuai’r Meseia. Roedd wedi dweud y byddai’r Un fyddai’n dod yn Waredwr i gael ei eni dan amgylchiadau arbennig –  Am hynny, y mae’r ARGLWYDD ei hun yn rhoi arwydd i chwi: Wele  wyryf yn feichiog, a phan esgor ar fab, fe’i geilw’n Immanuel. (‭Eseia‬ ‭7‬:‭14‬ BCN)

Roedd y Crist yn gorfod dod o linach y Brenin Dafydd, a chael ei eni ym Methlehem. Ond ti, Bethlehem Effrata, sy’n fechan i fod ymhlith llwythau Jwda, ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywodraethwr yn Israel, a’i darddiad yn y gorffennol, mewn dyddiau gynt. (‭Micha‬ ‭5‬:‭2‬ BCN)

Erbyn dyddiau’r Testament Newydd roedd llinach Dafydd wedi eu gwasgaru, ar ôl concwest Babilon, a’r holl symudiadau gwleidyddol drwy deyrnasiad y Mediaid a’r Persiaid, y Groegiaid a’r Rhufeiniaid. Doedd Bethlehem ddim yn ganolfan bwysig ychwaith, gan mai yn Jeriwsalem yr oedd unrhywbeth o bwys yn digwydd. Sut oedd yn bosib cael trefn ar y manylion hyn?

Nid Duw bach mo’n Duw ni, ac nid Duw yn teyrnasu yn nhir Israel yn unig. Gwelodd Solomon ganrifoedd ynghynt fod popeth yn llaw Duw – hyd yn oed ei feddyliau ei hun, a dywedodd Y mae calon brenin yn llaw’r ARGLWYDD fel ffrwd o ddŵr; fe’i try i ble bynnag y dymuna. (‭Diarhebion‬ ‭21‬:‭1‬ BCN) Peth bach oedd i Dduw lywio meddwl Cesar yn Rhufain bell – dyn mwyaf pwerus y byd yn wleidyddol – i ddymuno cyfrif deiliaid ei ymerodraeth. Doedd gan hwnnw ddim consyrn arbennig am wlad Canaan, nac am addewidion Duw i’r Brenin Dafydd. Ond roedd y cyfan dan law Duw.

Ac felly mewn gwlad fach ddi-nod, ac ar amser anghyfleus (Gyda Mair yn agosáu at gyflawni ei beichiogrwydd) dan orchymyn ymherawdwr Rhufain, rhaid oedd teithio i Fethlehem, lle ganwyd Emaniwel.

Os ydi’ch bywyd chi heddiw yn ymddangos heb lawer o drefn, a’i gynllun ddim yn cyd-fynd â’r hyn roeddech chi wedi ei fwriadu, cofiwch fod yna Un yn trefnu popeth yn dda. O osod eich hunan yn ei ddwylo, ac ymddiried ei fod yn ddoeth, yn dda ac yn drugarog, beth bynnag a ddaw heddiw fe wyddoch y cewch brofi daioni yr Arglwydd – a pheidiwch a phoeni os nad ydech chi wedi cael trefn ar y Nadolig!

Rhagluniaeth fawr y nef,
Mor rhyfedd yw
Esboniad helaeth hon
O arfaeth Duw:
Mae’n gwylio llwch y llawr,
Mae’n trefnu lluoedd nef,
Cyflawna’r cwbl oll
O’i gyngor Ef.

Llywodraeth faith y byd
Sydd yn ei llaw;
Mae’n tynnu yma i lawr,
Yn codi draw:
Trwy bob helyntoedd blin,
Terfysgoedd o bob rhyw,
Dyrchafu’n gyson mae
Deyrnas ein Duw.

Ei th’wyllwch dudew sydd
Yn olau pur;
Ei dryswch mwyaf, mae
Yn drefen glir:
Hi ddaw a’i throeon maith
Yn fuan oll i ben,
Bydd synnu wrth gofio’r rhain
Tu draw i’r llen