sydney-1_650_121514101910Ni fydd yn gweiddi nac yn codi ei lais, na pheri ei glywed yn yr heol. Ni fydd yn dryllio corsen ysig, nac yn diffodd llin yn mygu; bydd yn cyhoeddi barn gywir. (‭Eseia‬ ‭42‬:‭2-3‬ BCN)

Yr hyn sydd wedi llenwi’r newyddion dros yr oriau diwethaf yw’r gwarchae mewn caffi yn Sydney, Awstralia. Mae bron yn amhosib dychmygu teimladau y rhai a ddaliwyd yn y digwyddiad. Doedden nhw’n gwneud dim byd mwy peryglus na mynd am baned, ac yn sydyn fe aeth eu byd yn chwilfriw. Mewn braw am oriau – yn gorfod sefyll gyda’u dwylo yn yr awyr dan fygythiad, wydden nhw ddim ai byw neu marw fydden nhw.

Mae’n hawdd gofyn mewn anobaith – beth sy’n bod ar y byd? Pam na tydi Duw ddim yn ymyrryd i wneud rhywbeth am y cyfan? Dyma fyd lle gwelwn ISIS yn y Dwyrain Canol yn hau dychryn a braw. Dyma hefyd y byd lle mae ychydig o wledydd datblygedig yn byw mewn digonedd tra mae tlodi enbyd yn parhau i barlysu mwyafrif y byd. (Hyd yn oed trwy’r dirwasgiad mae’r mwyafrif llethol ohonom yn byw mewn moethusrwydd na all llaweroedd mo’i ddychmygu.) Dyma fyd lle rydym wedi dysgu ein merched ifanc ei bod hi’n iawn lladd eu plant yn y groth, a’n bechgyn ifanc nad oes raid iddyn nhw dderbyn cyfrifoldeb am eu gweithredu rhywiol. Ble mae Duw?

Ateb Duw oedd danfon y baban bach hwn – yn nyddiau Herod Frenin, a Cesar Awgwstus, ac a dyfodd i wynebu dyddiau Pontius Peilat. Dyma un gydag ysbryd gwahanol ynddo – gwas fyddai yn dyner wrth y gorthrymedig, yn drugarog tuag at yr edifeiriol, ond yn chwyrn yn erbyn y balch, yr hunan-gyfiawn a’r creulon. Darllenwch ei hanes yn yr efengylau yn ymwneud â’r cleifion a gwehilion y gymdeithas. Ynddo yn wir daeth y geiriau ar ben y pwt yma yn wir. Mewn man arall mae Eseia yn dweud fod y gwas anfonai Duw yn dod i “gyhoeddi newyddion da i’r tlodion, a chysuro’r toredig o galon; i gyhoeddi rhyddid i’r caethion, a rhoi gollyngdod i’r carcharorion;” (‭Eseia‬ ‭61‬:‭1‬ BCN)

Fel y gallem ddisgwyl, doedd y byd didostur hwn ddim yn mynd i oddef y fath un – roedd y goleuni ynddo yn dangos tywyllwch y rhai o’i gwmpas (Edrychwch ar Ioan 3:20). Felly fe gynlluniwyd mewn ffordd gywilyddus i ddiffodd y gannwyll hon oedd yn llosgi mor olau yn ein byd tywyll. Ond rhyfeddod cynllun a gras Duw yw fod hyd yn oed y weithred hon o ladd y Meseia ar Galfaria yn troi yn fywyd i ni. Fe ddaeth, fel y dywedodd yr emynydd, “yn sugno ‘maes y gwenwyn a roes y sarff i ni, ac wrth y gwenwyn hwnnw yn marw ar Galfarî.”

Yn wyneb erchylldra’r hyn a ddigwyddodd yn Sydney, y gorau fedrwn ni ei wneud yw cyfeirio pobl at stori’r baban a anwyd ym Methlehem. Ond cofiwch i beidio gorffen gyda’r baban yn y preseb – ewch ymlaen i realiti erchylldra’r groes, a buddugoliaeth y bedd gwag.

Dyma garol a ysgrifennais rai blynyddoedd yn ôl. Fe’i cenir ar y dôn Noel (Caneuon Ffydd 380)

Angylion fry uwch Bethlehem
Sy’n canu nefol gân,
 sain gorfoledd yn y nen
Am eni’r Iesu glân;
Ond nid adnabu’r byd ei ddod,
Diniwed blentyn Mair,
Ac nid oes le i Frenin ne’:
Dim ond y gwely gwair.

Un seren ddisglair yn y nen
Sy’n arwain at y crud;
A’r doethion ddont i blygu glin
Gan ddwyn anrhegion drud;
Ond Herod fyn ei ddifa’n llwyr –
Nid oes i’r baban le.
A’r byd sy’n plethu coron ddrain
I’w rhoi i Frenin Ne’.

Fe anwyd Crist – rhyfeddod yw –
I farw dros y byd,
A’n galw wna o hyd i ddod
A phlygu wrth Ei grud;
Os taena’r byd ei gaddug trwm
Ar led dros wlad a thref,
Mae’n olau lle daw Crist o hyd –
O! Mentrwn ato Ef!