_79771873_025136825-1Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Clywir llef yn Rama, galarnad ac wylofain, Rachel yn wylo am ei phlant, yn gwrthod ei chysuro am ei phlant, oherwydd nad ydynt mwy.” (‭Jeremeia‬ ‭31‬:‭15‬ BCN)

 minnau ddoe yn trafod ein braw wedi gwarchae Sydney, dyma’r newydd yn dod am gyflafan mewn ysgol ym Mhacistan – a chan mai plant ysgol oedd y myafrif laddwyd yno, mae’r papurau yn llawn o benawdau am y diniwed yn cael eu lladd. Gan mai yn enw crefydd y gwnaed hyn mai rhai yn beio Duw, eraill yn beio yr Unol Daleithiau am eu polisi yn ymyrryd mewn rhannau o’r byd lle na ddylen nhw. Mae eraill wedyn yn beio ffwndamentaliaeth, gan osod pob ffwndamentalydd yn yr un cae.

Gadewch i ni fod yn glir am un peth – tydi Duw ddim yn ddiystyr o’r hyn sydd wedi digwydd. Mae’n gwybod am bob un a fu’n rhan o’r achos am y gyflafan, a bydd yn rhaid iddyn nhw i gyd ateb iddo Ef ryw ddydd. Does yna ddim dianc rhag wynebu canlyniadau ein gweithredoedd –
Oherwydd rhaid i bawb ohonom ymddangos gerbron brawdle Crist, er mwyn i bob un dderbyn ei dâl yn ôl ei weithredoedd yn y corff, ai da ai drwg.” (2 Corinthiaid‬ ‭5‬:‭10‬ BCN) Bydd Duw yn delio yn deg gyda phob un a laddwyd hefyd – bydd neb yn dioddef cam gan y Duw cyfiawn a thrugarog hwn.

Ond nid dyma’r tro cyntaf i bethau erchyll fel hyn ddigwydd. Gyda’r Nadolig mor agos mae’n amhosib osgoi meddwl am Herod yn danfon ei filwyr i Fethlehem i ladd y diniwed – Yna, pan ddeallodd Herod iddo gael ei dwyllo gan y seryddion, aeth yn gynddeiriog, a rhoddodd orchymyn i ladd pob bachgen ym Methlehem a’r holl gyffiniau oedd yn ddwyflwydd oed neu lai, gan gyfrif o’r amser yr holodd ef y seryddion. (‭Mathew‬ ‭2‬:‭16‬ BCN) Cysylltodd Mathew hyn â geiriau’r proffwyd Jeremeia ganrifoedd ynghynt – a hwnnw mewn cyfnod o ryfela lle lladdwyd y diniwed yn aml.

Efallai ei bod yn werth nodi un neu ddau o bethau. Yn gyntaf, sylwch nad crefydd ffwndamentalaidd oedd y tu ôl i ladd y plant ym Methlehem. Obsessiwn Herod ar ddal gafael ar ei awdurdod a’i bŵer ei hun oedd yr achos yn fan hon. Does gan grefydd ddim monopoli ar ddrygioni. Fe gyflawnwyd erchyllderau difrifol yn yr ugeinfed ganrif gan rai nad oeddent yn arddel crefydd o unrhyw fath, gyda Stalin, Hitler a Mao Zedong yn gyfrifol am farwolaeth dros gan miliwn o bobl rhyngddyn nhw.

Yn ail, er fod traddodiad wedi darlunio llawer yn cael eu lladd ym Methlehem gan filwyr Herod, doedd hon ddim yn dref fawr o gwbl. Mae’n ddigon posib fod llai na hanner dwsin o blant wedi dod o fewn yr oedran yr oedd Herod wedi ei nodi. Tydi hynny ddim yn lleihau’r boen i’r rhieni – byddai un plentyn yn cael ei ladd fel hyn yn drasiedi ac yn drosedd yn erbyn Duw a’r ddynolryw.

Yn drydydd, ym Methlehem fe arbedwyd un plentyn – oherwydd breuddwyd a gafodd Joseff fe gymrodd Mair a’r baban Iesu ar ffo i’r Aifft cyn i filwyr Herod ymddangos. Ond arbedwyd y baban hwn nid er mwyn iddo gael bywyd cyfforddus. fe’i harbedwyd er mwyn iddo farw dan amgylchiadau gwahanol – gyda’r awdurdodau yn ei gondemnio, a’i hongian ar groes yn gyhoeddus i bawb ei weld yn dioddef. Fe’i harbedwyd er mwyn iddo fod yn Oen Duw, yn dwyn ymaith bechodau’r byd trwy ei waed ei hun.

Rhaid cydymdeimlo â phobl Pacistan heddiw, yn enwedig y teuluoedd sydd mewn galar. Ond y gymwynas fwyaf fedrwn ni ei wneud â hwy, ac â phobl ymhob man, yw gwneud yn siwr fod pawb yn clywed am yr un ddaeth nid i ladd, ond i roi bywyd. Dyma’r ateb terfynol i alar a llefain y byd, boed hwnnw ym Mhacistan neu ym Methlehem.

Diosgodd Crist ei goron
O’i wir fodd, o’i wir fodd,
Er mwyn coroni Seion
O’i wir fodd;
I blygu’i ben dihalog
O dan y goron ddreiniog,
I ddioddef dirmyg llidiog,
O’i wir fodd, o’i wir fodd,
Er codi pen yr euog
O’i wir fodd.