images (1)Casglwch ichwi drysorau yn y nef, lle nad yw gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nad yw lladron yn torri trwodd nac yn lladrata. Oherwydd lle mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon. (‭Mathew‬ ‭6‬:‭20-21‬ BCN)

Ar ddechrau llyfr mawr J. R. R. Tolkien – The Lord of the Rings – adroddir fod Bilbo a Frodo Baggins yn cynnal parti. Mae’r ddau yn cael eu penblwydd yr un diwrnod a dyma ddathliad arbennig yn dod. Ni welwyd y fath barti erioed o’r blaen yn y wlad. Ond un peth arbennig am fyd yr hobbits. Nid derbyn anrhegion a wnâi pobl ar eu penblwydd, ond rhoi anrhegion. Y tro hwn roedd Bilbo wedi trefnu anrhegion arbennig iawn i’w rhoi i’r dwsinau oedd wedi dod i’r parti. Ond roedd ganddo un trysor – y fodrwy sy’n allwedd i holl gynllun y llyfr. Ei fwriad oedd rhoi’r fodrwy hon i Frodo, ac yna mynd i ffwrdd ar daith. Mae’n dweud yn wir mai bwriad y parti a’r rhoddion eraill hael oedd ei gwneud yn haws iddo roi heibio’r fodrwy – ond yn y diwedd doedd o ddim wedi gweithio. Roedd gan y fodrwy y fath afael ar ei galon fel mai peth anodd tu hwnt oedd ei rhoi ymaith.

Dyma ni ynghanol tymor rhoi anrhegion. Wn i ddim os ydych wedi prynu pob anrheg bellach, neu pa bleser a gewch yn dewis, lapio ac yna rhoi rhywbeth i’ch anwyliaid. Mae hanes y Doethion yn ein atgoffa fod y baban ym mhreseb Bethlehem yn deilwng o anrheg hefyd. Ond beth a roddwn ni iddo Ef? Mae carol Chrsitina Rosetti yn ein hatgoffa

Beth a roddaf iddo,
Llwm a thlawd fy mryd?
Pe bawn fugail rhoddwn
Orau’r praidd i gyd;
Pe bawn un o’r Doethion
Gwnawn fy rhan ddi-goll;
Ond pa beth a roddaf?
Fy mywyd oll.

Yn y Saesneg mae’r llinell olaf yn fwy heriol: “Give him my heart.” Yr anhawster fan yma yw ein bod mor aml yn rhoi ein calon i rhyw drysor arall. Mae hanes y gŵr ifanc goludog ddaeth at Iesu (Mathew 19:16-22) er enghraifft yn dangos ein bod ni yn ei chael hi yn anodd rhoi’r cwbl i Grist. Rydym yn casglu trysorau ar y ddaear, ac yn sylweddoli ar ôl ychydig mai nid ni sydd biau’r trysor, ond y trysor sydd piau ni. Fel Bilbo Baggins, mae rhoi ein trysor ymaith yn gofyn llawer gennym.

Fe lwyddodd Bilbo i adael ei drysor ar ôl, ac mae Tolkien yn dweud ei fod yn teimlo’n well ac yn ysgafnach nag y gwnaeth ers blynyddoedd o wneud hynny. Felly, os gwnawn ni Iesu Grist yn drysor ein calon, fe ffeindiwn ein bod ninnau yn poeni llai am y pethau eraill sy’n gallu cymryd cymaint o afael ynom. Beth am ddefnyddio y broses o ddewis a rhoi anrhegion eleni yn gyfle i roi ein hunain o’r newydd i’r baban a anwyd i fod yn Geidwad y byd. Efallai bydd rhywun sy’n darllen hwn yn gwneud hyn am y tro cyntaf – a byddai hynny yn gwneud y Nadolig hwn y gorau gawsoch erioed.

Yr Anrheg a roddais

Ar agor dy ddrud anrhegion – o aur
​                                           Thus a myrr, Iôr tirion
Yno gwêl: mae un galon
Gyda hwy; fe gei Di hon.

Un galon na all gelu – ei düwch
​A deuaf i blygu
Yn sain yr angylion sy’
Yn hedeg uwch dy feudy.

Un galon yn y golau – yn newid
​Dan awen dy eiriau;
Un galon oer i’w glanhau;
Un daith i’th geisio Dithau.

O dy gymell, a elli – ei harbed
​O’i derbyn, ac erddi
Ar y daith a fentri Di
Ar astell farw drosti?

O! Tyred, Faban tirion – Ni allaf
​Roi gwell nag anrhegion
Y tri doeth; O tyred, Iôn,
A hawlia lety ‘nghalon.

​Dafydd M Job