family-handsOnd wedi’r dyddiau hynny beichiogodd Elisabeth ei wraig; ac fe’i cuddiodd ei hun am bum mis, gan ddweud, “Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf i dynnu ymaith fy ngwarth yng ngolwg y cyhoedd.” (‭Luc‬ ‭1‬:‭24-25‬ BCN)

Rydym wedi meddwl am Sachareias (gweler myfyrdod ar Ragfyr 12fed). Dyma droi heddiw at Elisabeth ei wraig. Rydw i’n cofio pan oedden ni yn disgwyl ein plentyn cyntaf roeddwn am i’r byd i gyd wybod – dyna ymateb naturiol i bâr priod. ond ymateb Elisabeth oedd cuddio ei hun rhag y cyhoedd.

Roedd blynyddoedd wedi mynd heibio ers iddi hi a Sachareias briodi. Blynyddoedd ddechreuodd mewn gobaith mawr. Er fod bywyd yn rhoi cyfle i ni wneud llawer o bethau, i Elisabeth roedd yna un peth oedd yn mynd i wneud ei bywyd yn gyflawn – cael plentyn. Roedd cymdeithas ar y pryd yn mesur gwerth gwraig yn aml yn ôl ei gallu i gael plant. Ond yn Elisabeth ei hunan roedd yr hiraeth dwfn hwn yn ei chalon. Roedd yn credu iddi gael ei geni i fod yn fam. Wrth i’r misoedd, ac yna’r blynyddoedd fynd heibio roedd ei loes yn mynd yn ddyfnach a dyfnach. Bu hi a Sachareias yn gweddïo am y plentyn hwn, ond dim byd yn digwydd.

Mae’n siwr iddi glywed y sibrydion yn y teulu a’r gymdogaeth. Fe welodd gyplau eraill yn llawenhau wrth i’w teuluoedd dyfu. Gwelodd y cynnwrf o ferched – ei chyfoedion i ddechrau, ond yna rhai llawer iau na hi – yn trafod enwau fel Reuben neu Simeon, Anna neu Ruth. Ond roedd hi bob amser yn y cefndir. Gwelodd y tosturi yn llygaid rhai. Gwelodd eraill yn cydymdeimlo â Sachareias nad oedd ei wraig wedi cyflawni ei obeithion. Bob tro roedd yna sôn am fabi newydd, roedd fel cyllell yn ei hochr. Mae’n fesur o’i duwioldeb na chwerwodd drwy’r profiad. Mae gallu parhau yn siriol yn wyneb siomiant bywyd yn beth gwych iawn.

Ond dyma hi yn awr yn dweud ei hunan bod ei “gwarth yng ngolwg y cyhoedd” yn cael ei symud. Oni ddylai fod allan gyda’i chymdogion a’i pherthnasau yn llawenháu? Ond yn lle hynny mae’n cuddio ei hun. Tybed ai rhan o’r rheswm am hwn oedd ei bod yn adnabod ambell un arall oedd yn gwybod am y siom a’r cywilydd roedd hi wedi ei brofi am flynyddoedd? Nid oedd ei llawenydd ddim llai, ond nid oedd am i’w llawenydd hi fod yn achos gofid i eraill.

Os oes siom yn eich bywyd chi heddiw, peidiwch a gadael iddo eich chwerwi. Rhowch eich hunan yn nwylo’r Duw trugarog, fydd yn rhoi i chi fendithion annisgwyl ac yn dyner wrth drin eich calon ddolurus.

Ond os ydych yn profi bendith arbennig, peidiwch ag ymffrostio gormod ynddi. Byddwch yn ddiolchgar i Dduw am ei ddaioni, ond gwyliwch rhag i’ch bendith chi fod yn achos gofid i eraill. Peidiwch gadael i’ch llawenydd chi eich gwneud yn ddall i sefyllfa pobl o’ch cwmpas.