imagePeidiwch ag ofni, oherwydd wele, yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl: ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd; (‭Luc‬ ‭2‬:‭10-11‬ BCN)

Daeth y diwrnod mawr – ac ar hyd a lled y wlad bydd plant yn cynhyrfu o weld yr anrhegion. Bydd rhyfeddod yn llygaid ambell un, ac efallai ambell un wedi ei siomi. Ond yn gyffredinol mi fydd yna lawenydd ar aelwydydd y wlad. Mae’r Adfent wedi troi yn Nadolig. Wedi’r disgwyl a’r edrych ymlaen, daeth y cyflawniad.

I Gristnogion, rhan o her yr ŵyl yw peidio gadael i wirioneddau mawr y Nadolig fynd yn gyfarwydd a chyffredin. Mae angen cadw newydd-deb yr hen hanes yn ffres. Wrth gwrs, gallwn fynd yn ein dychymyg i Fethlehem. Ond nid aros yn nhir dychymyg sydd angen i ni ei wneud. Nid stori i ni ymgolli ynddi, fel rhyw ffilm Nadolig ar y teledu, yw hanes y geni. Mae’r cyfan – yr angylion, y bugeiliaid a’r doethion, y preseb a’r seren – mae nhw yno i’n harwain at y berthynas fyw sydd bellach yn bosib rhyngom ni, dlodion y ddaear, â Brenin y gogoniant.

Dyma bwynt y cyfan – ein dwyn i’r fan lle gallwn ryfeddu o’r newydd at Dduw, a mwynhau ei ogoniant. Daeth y bugeiliaid i’n harwain at y Bugail Da; y doethion i’n dwyn at y Doeth; ymddangosodd y seren i’n dwyn at Seren y Bore.

Boed bendith y Nadolig ar bawb sy’n darllen hwn, a boed i olau Crist lewyrchu yn eich calonnau i gyd.

Yr Ymgnawdoliad

Mae heno uwch y mynydd
Yn y nen un seren sydd
Â’i golau yn datgelu
Dyfodiad ein Ceidwad cu –
Dyfod Duw i adfyd dyn
A’i eni yn fachgennyn!

Arglwydd, ai rhwydd fu rhoddi
Aer y Nef i’n daear ni?
I guddio’r Gair Tragwyddol
Yn y gwair mewn egwan gôl?
Am i Dduw i Fethlem ddod
O’i fodd, mae mawr ryfeddod!

O! ddwyfol ymgnawdoliad!
Y mae cur ei ymwacád,
A’i ‘fory ar Galfaria’n
Dwyn yn glau i’n genau gân,
A’i ddod yn cuddio’n tlodi,
Rosyn Nef, drwy’i ras i ni!

Yr anfeidrol feidrolyn
Yn Fab Duw, yn Fab y dyn.
Anwyla ein heiddiledd,
Duw sy’n fodlon gwisgo’n gwedd;
Gedy nef – Duw gyda ni
Yn nhir anwar trueni.

Y Dwyfol sy’n Nhre Dafydd
Er ein mwyn, er dwyn y dydd
I noswaith hir ein heisiau –
Dywyll nos – rhaid llawenhau
Mewn carol, a’i addoli,
Lywydd nef, ein Harglwydd ni!

Rhown heddiw Haleliwia
Eni dydd y newydd da,
I eilio cân angylion
Uwch y dref, â’n llef yn llon;
A heno uwch y mynydd
Yn y nen un Seren sydd.

Dafydd M Job