imageDaethant i’r tŷ a gweld y plentyn gyda Mair ei fam; syrthiasant i lawr a’i addoli, ac wedi agor eu trysorau offrymasant iddo anrhegion, aur a thus a myrr. (‭Mathew‬ ‭2‬:‭11‬ BCN)

Am nifer o resymau mae’r Nadolig yn cael ei gysylltu gydag anrhegion. Fe ddaeth y Doethion ag anrhegion i’w rhoi i’r baban Iesu. Cofiwn mai anrheg mawr Duw i’n byd yw yr Arglwydd Iesu ei hun. Daeth yn draddodiad felly i roi anrhegion i’n gilydd wrth ddathlu.

A gawsoch chi eich plesio gyda’ch anrhegion eleni?  Mae dros wythnos wedi mynd heibio bellach ers i chi eu cael. Beth sydd wedi digwydd iddyn nhw bellach? Ydyn nhw’n cael eu defnyddio? Ydyn nhw wedi eu gosod ar silff, i chi eu codi a’u defnyddio rywbryd eto? Efallai mai pethau i’w bwyta oedden nhw a’u bod wedi diflannu eisioes. Neu efallai eu bod wedi eu rhoi o’r neilltu, mewn rhyw ddrôr neu gwpwrdd, ac mi fyddan nhw efallai yn cael eu hanghofio, nes i chi agor drws y cwpwrdd a’u gweld yno. Dyna fydd weithiau yn digwydd i anrhegion – cael eu hangofio a’u hesgeuluso.

Beth am atgoffa ein hunain o gwpl o anrhegion Duw i ni heddiw. Mae’n Sul, ac i’r mwyafrif ohonom does yna ddim cymaint o alwadau yn pwyso. Felly beth am feddwl am un neu ddau o’r pethau hynny mae’r Arglwydd wedi eu rhoi i ni. Os bu i ni eu hesgeuluso, efallai y dylem ail-afael ynddyn nhw. Os ydyn nhw yn werthfawr, yna gadewch i ni wneud yn fawr ohonyn nhw, a diolch i Dduw amdanyn nhw.

Yr eglwys. P’un ai ydych yn meddwl am y lle y byddwch yn cael mynd i addoli ynddo fel capel neu eglwys, yn y Testament Newydd pobl oedd yr eglwys. Mae Duw yn ei ras wedi rhoi pobl i ni i gyd-deithio ar ein pererindod drwy fywyd fel Cristnogion. Mae’n wir fod y bobl hyn yn gallu bod yn anystywallt ar adegau, ac nad oes yr un eglwys berffaith yma ar y ddaear. Ond mae Duw wedi ein rhoi mewn cymdeithas yng Nghymru lle mae rhyddid i ni gyfarfod gyda’n gilydd i addoli Duw. Toedd y Testament Newydd ddim yn gwybod am Gristnogaeth heb fod y saint yn awyddus i gwrdd â’i gilydd. Yn wir, mae cariad at ein cyd-Gristnogion yn cael ei osod fel un arwydd o ddilysrwydd ein ffydd gan Ioan yn ei lythyr cyntaf. Mae’r llythyr at yr Hebreaid yn ein hannog i beidio cefnu ar ddod at ein gilydd (Hebreaid 10:25). Mae Paul yn ei epistolau yn ein hannog i galonogi ein gilydd. Felly ar Sul cyntaf y flwyddyn newydd, beth am ddiolch i Dduw am eich eglwys chi. Ewch yno i galonogi rhywun, trwy sôn am ddaioni a gras Duw.

Y Beibl. Mae mor hawdd meddwl ein bod yn gwybod y cyfan. Rydym wedi ei ddarllen, ac mae’r hanesion mor gyfarwydd i ni. Ond mae’r ffaith eu bod yn gyfarwydd yn gallu bod yn beryglus. Fe frysiwn dros yr hanes a’r adnodau heb feddwl fod yna bethau newydd i’w canfod yno drwy’r amser. Mae datguddiad Duw ohono’i hun yn y Beibl yn ddigon eglur i blentyn bychan gael ei ddeall, ond mae’n ddigon dwfn i’r meddyliwr mwyaf fedru canfod pethau newydd ynddo, gyda chymorth yr Ysbryd Glân. Gwnewch yn fawr o’r anrheg hwn adref wrth i chi gymryd amser i’w ddarllen. Gwnewch yn fawr ohono yn yr eglwys, wrth iddo gael ei agor i chi gan y pregethwr.

Addoli. Nid egwyddorion yw Cristnogaeth ond perthynas fyw gyda Brenin y Brenhinoedd. Mae’r Duw sydd wedi eich caru, a danfon ei Fab i’r byd er eich mwyn i orwedd mewn preseb, i wynebu temtasiwn, i ddysgu’r gwirionedd, i farw ar groes ac i atgyfodi yn goncwerwr marwolaeth, yn dymuno eich cymdeithas. Dywedwch wrtho eich bod yn ddiolchgar am ei drugaredd anfeidrol. Rhyfeddwch at ei ras. Canwch ei glodydd. Dywedwch wrthych eich hunan “Fy enaid, bendithia yr Arglwydd.” Ewch i gwrdd â phobl Dduw i lawenhau gyda hwy yn ei ddaioni mawr. Tydi llawenydd ddim yn gyflawn nes iddo gael ei fynegi mewn rhyw ffordd. Tydi diolchgarwch ddim yn gyflawn heb i ni ddweud ein bod yn ddiolchgar. Mae Duw wedi rhoi i ni gyfle i ddod a mynegi’r hyn sydd ar ein calon. Yn unigol a chyda’n gilydd gallwn wneud hyn heddiw.

Ac wrth dynnu’r rhoddion hyn allan o’r cwpwrdd, gallwn gofio am rai sy’n brin o’n breintiau ni. Gallwn gofio am y Cristnogion hynny na chânt gyfle i gwrdd â brodyr neu chwiorydd yn y ffydd, naill ai am eu bod trwy afiechyd efallai yn gaeth, neu am eu bod yn byw mewn rhan o’r byd lle mae cyd-gynull gydag eraill wedi ei wahardd. Cofiwn am y rhai sydd heb gael y Beibl wedi ei gyfieithu i’w hiaith eu hunain eto, neu’r rhai hynny lle nad oes pregethwyr ac arweinwyr ar gael i’w dysgu. A gweddïwn dros y rhai hynny sy’n gorfod addoli Duw yn ddirgel rhag ofn yr awdurdodau.