ChristmasDychwelodd y bugeiliaid gan ogoneddu a moli Duw am yr holl bethau a glywsant ac a welsant, yn union fel y llefarwyd wrthynt. (‭Luc‬ ‭2‬:‭20‬ BCN)

Daeth Dydd Gŵyl Ystwyll. Dyma’r dydd yn draddodiadol lle cofiwyd am y Doethion yn dod â’u hanrhegion at y baban Iesu. Dyma hefyd y diwrnod pryd y byddai’r Nadolig yn dod i ben. Diwrnod i dynnu’r addurniadau a dychwelyd i fywyd cyffredin bob dydd. Bydd llawer eisioes wedi gadael y dathlu ers dyddiau, gan mai ychydig sydd mewn gwirionedd yn cynnal deuddeg diwrnod y Nadolig. Yn yr ardal hon heddiw yw’r diwrnod eleni bydd y plant yn dychwelyd i’r ysgolion, a normalrwydd bywyd yn ail-afael.

Ond yden ni yr un peth ag yr oeddem ymron i ddeugain diwrnod yn ôl pan ddechreuodd cyfnod yr Adfent? Yden ni wedi clywed a gweld pethau sydd wedi ein newid? Go brin y gallwn gredu fod y bugeiliaid yr un fath wedi iddyn nhw glywed neges yr angel, a theithio i Fethlehem i weld y baban yn y preseb. Gallwn ddychmygu un ohonyn nhw flynyddoedd yn ddiweddarach, gyda’i ŵyr bach ar ei lin yn gofyn iddo “Dywedwch hanes yr angylion eto, Taid.” Nid rhywbeth i’w anghofio, a’i roi o’r neilltu fel yr addurniadau Nadolig oedd yr hyn a ddigwyddodd iddyn nhw.

Felly gyda ninnau. Os ydym wedi myfyrio ar yr hen hanes, a Duw wedi siarad â ni o gwbl, rhaid i ni beidio anghofio’r hyn a glywsom. Rhaid peidio claddu’r hyn a welodd llygad ein calon mewn bocs yn yr atig tan y Nadolig nesaf. Roedd y bugeiliaid yn dychwelyd at eu defaid gyda rhyw sioncrwydd newydd yn eu cerddediad. Roedd ganddyn nhw achos i lawenhau, fod Duw ar waith. Rhyw ddydd fe fyddai’r baban hwn a welsant yn cyflawni rhywbeth mawr iawn. Gallwn ninnau wynebu blwyddyn newydd yn dwyn y gwirionedd a’r gobaith sydd i’w ganfod yn hanes y Nadolig gyda ni.

“Bydd ef yn ysigo dy ben di, a thithau’n ysigo’i sawdl ef.” (‭Genesis‬ ‭3‬:‭15‬ BCN) Yng ngeiriau’r hen garol: “Hen addewid Eden odiaeth wele heddiw ddaeth i ben.” Mae Crist, Had y Wraig, wedi ysigo pen y sarff, wedi concro ein gelyn ar y groes, ac wedi dod i ddatod gweithredoedd diafol, a cawn ei weld ar waith felly yn ystod y flwyddyn hon.

“Dyma Oen Duw, sy’n cymryd ymaith bechod y byd!” (‭Ioan‬ ‭1‬:‭29‬ BCN) Mae ein pechodau wedi eu maddau, eu golchi ymaith, a ninnau yn lân trwy waed yr Oen di-fai.
I ti’r agorwyd ffynnon
A ylch dy glwyfau duon
Fel eira gwyn yn Salmon.

 Ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd; (‭Luc‬ ‭2‬:‭11‬ BCN)
“Draw yn nhawelwch Bethlem dref,
daeth baban bach yn Geidwad byd.”

Mae yna Un wedi dod sydd wedi i’n gwaredu oddi wrth ein beiau, ac i ddod â ni yn ôl at Dduw.

Cynifer ag a’i derbyniodd, rhoes iddynt hwy, y rhai sy’n credu yn ei enw, hawl i ddod yn blant Duw, (‭Ioan‬ ‭1‬:‭12‬ BCN) Dyma ein cyflwr wrth wynebu blwyddyn newydd. Rydym yn blant i Dduw, a’n Tad gofalus yn gwylio drosom bob munud o’r misoedd nesaf, oherwydd Nid yw ceidwad Israel yn cysgu nac yn huno. (‭Y Salmau‬ ‭121‬:‭4‬ BCN)

“Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser.” (‭Mathew‬ ‭28‬:‭20‬ BCN) Mae Emaniwel – Duw gyda ni – wrth i ni wynebu blwyddyn newydd:

O cân! O cân!
Emaniwel ddaw atat ti, O Israel!

Gobeithio i’r myfyrdodau hyn fod yn gymorth dros yr wythnosau diwethaf. Byddaf yn cymryd hoe am ychydig, ond pan ddaw’r awydd fe fyddaf yn ysgrifennu rhai meddyliau eto ar y dudalen hon o dro i dro.