imageBob Mis Ionawr un o’r digwyddiadau sy’n dwyn bryd dilynwyr pêl-droed yw’r cyfle geir i glybiau brynu a gwerthu chwraewyr – y “transfer window”. Er mwyn gosod trefn ar bethau dim ond ar adegau arbennig bydd chwaraewyr yn cael newid clybiau. Mae yna ddyfalu felly pwy gaiff fynd i’r clybiau mawr, a faint o arian gaiff ei dalu amdanyn nhw. Gyda’r gystadleuaeth rhwng y clybiau a’u dilynwyr mor frwd, mae ambell i chwaraewr yn cael ei drin yn bur hallt gan gefnogwyr os yw’n symud o un clwb at un arall sy’n cystadlu yn yr un gynghrair. Mae newid tîm yn beth mawr ym myd pêl droed.

Pan ddaeth Iesu i’r byd fe agorodd ffordd i ni newid ein hymlyniad – nid newid tîm ond newid teulu. Mae Ioan yn ei efengyl yn dweud y canlynol: Daeth i’w gynefin ei hun, ac ni dderbyniodd ei bobl ei hun mohono. Ond cynifer ag a’i derbyniodd, rhoes iddynt hwy, y rhai sy’n credu yn ei enw, hawl i ddod yn blant Duw, plant wedi eu geni nid o waed nac o ewyllys cnawd nac o ewyllys gŵr, ond o Dduw. (‭Ioan‬ ‭1‬:‭11-13‬ BCN)

Wrth natur ein teulu ni yw’r ddynoliaeth sydd wedi cefnu ar Dduw. Yng ngeiriau’r proffwyd Eseia: Rydym ni i gyd wedi crwydro fel defaid, pob un yn troi i’w ffordd ei hun; (Eseia‬ ‭53‬:‭6‬ BCN), ac oherwydd hynny mae Paul yn dweud ein bod “yn gorwedd dan ddigofaint Duw.” (‭Effesiaid‬ ‭2‬:‭3‬ BCN). Yn llythrennol yr hyn mae Paul yn ei ddweud yw ein bod yn blant digofaint. Rhag ofn eich bod yn meddwl fod Paul yn rhy chwyrn ar y ddynolryw, fe ddywedodd Iesu am y rhai a wrthodent gredu ynddo: Plant ydych chwi i’ch tad, y diafol. (‭Ioan‬ ‭8‬:‭44‬ BCN)

Ond mae modd i ni newid teulu, a chael ein mabwysiadu yn blant Duw meddai Ioan: Ond cynifer ag a’i derbyniodd, rhoes iddynt hwy, y rhai sy’n credu yn ei enw, hawl i ddod yn blant Duw. 

Ond sut mae hyn yn bosib? O fynd yn ôl at y darlun ar ddechrau’r myfyrdod hwn, beth yw’r “transfer fee”? Rhaid i bob clwb sydd am gael chwaraewr i newid i’w tîm hwy dalu ffî, ac yn aml mae hwnnw yn swm tu hwnt i bob dychymyg i’r rhan fwyaf ohonom, gyda miliynnau o bunnoedd yn newid dwylo. Roedd y transfer fee i ni gael newid o fod yn blant digofaint i fod yn blant Duw yn aruthrol fwy. Dim byd llai na marwolaeth Mab Duw ei hun: Gwyddoch nad â phethau llygradwy, arian neu aur, y prynwyd ichwi ryddid oddi wrth yr ymarweddiad ofer a etifeddwyd gennych, ond â gwaed gwerthfawr Un oedd fel oen di-fai a di-nam, sef Crist. (‭1 Pedr‬ ‭1‬:‭18-19‬ BCN). Er ini grwydro fel defaid rhoes yr ARGLWYDD arno ef ein beiau ni i gyd. (‭Eseia‬ ‭53‬:‭6‬ BCN)

Felly pan ddaeth cyflawniad yr amser, anfonodd Duw ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan y Gyfraith, i brynu rhyddid i’r rhai oedd dan y Gyfraith, er mwyn i ni gael braint mabwysiad. (‭Galatiaid‬ ‭4‬:‭4-5‬ BCN)

Mae modd i ni gael transfer o deulu digofaint i deulu Duw! Dyma’r newyddion da o lawenydd mawr y buom yn ei ddathlu yn ystod yr wythnosau diwethaf. O dderbyn Crist mewn edifeirwch fel ein Gwaredwr, cawn brofi gras a bywyd.

Ond mae yna un gair o rybudd heddiw. Ar Chwefror 2il bydd y Transfer Window yn cau. Os na fydd y clybiau wedi gorffen eu prynu erbyn diwedd y diwrnod hwnnw, yna bydd y chwaraewr yn gorfod aros yn ei hen glwb am weddill y tymor.

Felly er ei bod yn ddydd heddiw i ni fedru newid teulu, mi fydd yna ddiwrnod pryd y bydd yn rhy hwyr i edifarhau. Fydd yna ddim ffordd yn ôl. Daw dydd pryd y bydd ein dewis yma yn aros gyda ni am dragwyddoldeb. “Yna fe ddywed wrth y rhai ar y chwith, ‘Ewch oddi wrthyf, chwi sydd dan felltith, i’r tân tragwyddol a baratowyd i’r diafol a’i angylion.”(‭Mathew‬ ‭25‬:‭41‬ BCN)

Ac os ydych wedi dewis edifarhau a chredu yn yr Arglwydd, peidiwch a pharhau i chwarae i’r hen dîm!

Dewch, hen ac ieuainc, dewch
At Iesu, mae’n llawn bryd;
Rhyfedd amynedd Duw
Ddisgwyliodd wrthym cyd;
Aeth yn brynhawn, mae yn hwyrhau;
Mae drws trugaredd heb ei gau.