Dyma fi wedi cyrraedd gwlad Pŵyl unwaith eto ar gyfer Fforwm Arweinwyr Ewropeaidd (neu ELF fel y gelwir hi.Ers sawl blwyddyn Rwyf wedi cyfrif y fforwm hon yn gyfle arbennig i ystyried yr hyn mae Duw yn ei wneud yn Ewrop.

Cyrhaeddais ddoe wedi taith gymharol hwylus (heblaw am ras ar draws maes awyr Frankfurt er mwyn dal yr awyren i Katowiče!). Hon yw’r drydedd flwyddyn i’r fforwm gyfarfod yn Wisla, wedi iddi symud o Eger yn Hwngari.

Roedd Eger yn dref llawer mwy prydferth na Wisla, a’r atgof o’r prydau bwyd yn yr awyr agored yn hyfryd. Ond gyda’r fforwm yn tyfu roedd rhaid dod o hyd i le mwy hwylus. Felly rydym mewn gwesty anferth yn ne gwlad Pŵyl, heb fod yn bell o’r ffîn â’r weriniaeth Tsiec.

Mae cyrraedd erbyn hyn fel gweld y llwythau’n dod ynghyd, gan fod nifer o wynebau cyfarwydd yma. Rwy’n rhannu ystafell gyda Jerry Twombly, Americanwr sydd wedi cynorthwyo sawl mudiad Cristnogol i drefnu a chynnal eu gwaith yn effeithiol. Wedyn wrth gyrraedd y gwesty, y cyntaf i fy nghyfarch oedd Vesna, gwraig gweinidog o Serbia sy’n gwneud gwaith arwrol yng ngwledydd y Balcan yn helpu merched ifainc beichiog, ac yn sefydlu mudiadau i amddiffyn y plentyn yn y groth. Roeddwn yn teithio o’r maes awyr gyda gŵr ifanc o Rwmania, ac amser bwyd roeddwn yn eistedd gyda gŵr busnes o Hwngari. Mae’r amrywiaeth yn rhyfeddol.

Doedd dim cyfarfod neithiwr, ond bore ‘ma rwyf wedi bod yn dilyn seminarau sy’n trafod yr obsessiwn gorllewinol gyda hapusrwydd. Mae Andrew Fellows, oedd yn arwain y seminarau, yn gweithio i fudiad L’Abri, sefydlwyd gan Francis Schaeffer. Ei brif thema heddiw oedd ein bod wedi ein creu yn bobl sydd â theimladau, ond nid bwriad Duw yw i ni fyw i’r teimladau hyn. Yn hytrach mae am i ni adnabod ein teimladau a byw ynddyn nhw, gyda nod mwy i’n bywydau. Felly mae hyd yn oed teimladau negyddol ac anodd, megis galar, yn dwyn eu bendith arbennig i ni.

Roedd y sgyrsiau yn sicr yn ysgogi’r meddwl, a chyfle gwych i drafod gyda’r rhai oedd wedi ymuno yn y seminar. Fel bob amser, bydd angen mynd dros y nodiadau i dreulio’r hyn drafodwyd. ond un peth amlwg iawn yw fod ein hoes ni, sy’n dibynnu cymaint ar deimladau , yn un dlawd sy’n methu’r nod yn aml.

Darparwyd cinio mewn pecyn i ni, oedd ddim help o gwbl i mi sy’n ceisio colli pwysau ar y funud! Ond treuliais yr amser gyda chyfaill o Awstralia sydd wedi bod yma sawl tro o’r blaen. Mae eleni wedi bod yn flwyddyn anodd tu hwnt iddo, gan i’w wraig ei adael naw mis yn ôl. Felly bu’r awr yn amser o geisio ei helpu drwy nifer o’r profiadau anodd mae’n eu wynebu ar hyn o bryd.

Gyda’r prynhawn yn rhydd, wedi mynd am dro i’r pentref dyma gyfle i geisio dal i fyny ar y darllen mae galw arnom i’w wneud yn ystod yr wythnos. Yna bûm yn siarad gyda chyfaill arall o Gaergrawnt, ac fel roedd hi’n digwydd cawsom sgwrsio am destun Groeg y Testament Newydd, yr awyrgylch yn y byd academaidd Beiblaidd ar hyn o bryd. Ond hefyd buom yn siarad am ei sefyllfa deuluol, a’r anhawsterau mae ei blant yn eu wynebu ar hyn o bryd. Felly cyfle arall i geisio gweinidogaethu i gyfaill.

Rwy’n paratoi i fynd i gyfarfod cyntaf y gynhadledd go iawn heno lle caf ymuno gyda 750 o rai eraill i addoli Duw, a chlywed siaradwr cyntaf y Fforwm.

Categories: Uncategorized