Nos Sadwrn cawsom gyfarfod cyntaf y gynhadledd llawn. Thema’r cyfarfod oedd crist yn yr holl Ysgrythur. Roedd yn braf cael pawb gyda’i gilydd yn addoli. Mae 44 o genhedloedd gwahanol yma eleni. Cawsom ein cyflwyno i Vladimir, Cristion o Iddew sy’n gweithio i fudiad Jews for Jesus yn Israel. Daeth yn Gristion wedi i’w chwaer a’i fam ddod i gofleidio’r ffydd.

Symudodd i Israel er mwyn ceisio ennill ei gyd-Iddewon i Grist. Holwyd pa Ysgrythurau yn arbennig oedd wedi bod yn ddylanwadol i’w berswadio mai Iesu oedd y Meseia. Nododd Eseia 53, sy’n sôn am ddioddefaint y Gwaredwr, Jeremeia 31 sy’n sôn am y cyfamod newydd, Micah 5 sy’n sôn am y Meseia yn cael ei eni ym Methlehem, a Daniel 7 sy’n cyfeirio at Fab y Dyn yn cael yr awdurdod i lywodraethu. Yna rhoddwyd anerchiad cynnes gan Leif Nummela, athro Beiblaidd a Diwinydd o’r ffindir. Dangosodd fel mai Crist yw’r allwedd i ddeall yr Hen Destament, ac fel mai ein tasgbyw cymryd neges yr holl Feibl allan i’r byd.

Gwawriodd y Sul yn braf, a dringais i ben y bryn y tu ôl i’r gwesty yn gynnar yn y bore er mwyn sicrhau fy mod yn cael awyr iach rywbryd yn ystod y dydd. Yna am 7 dyma gyfarfod cyntaf y dydd, yn mentora gweinidog o Fwlgaria dros amser brecwast. Yna am chwarter wedi wyth daeth pawb at ei gilydd i gyfarch y dydd mewn cân. Atseiniodd “Bless the Lord, O my soul” drwy’r lle, gyda phawb yn ymddangos yn edrych ymlaen yn fawr ar gyfer y dydd. Arweiniwyd ni i lyfr Nehemiah gan Ajith Fernando, fydd yn arwain y darlleniadau Beiblaidd bob bore yma. Mae Ajith yn dod o Sri Lanka, ac yn awdur nifer o lyfrau, yn ogystal a bod yn un sydd wedi ei ddefnyddio llawer i rannu yr efengyl. Wrth sôn am faich Nehemeia dros ei bobl, anogodd ni i weddïo am faich gan yr Arglwydd. Gweddi yw cyfrinach pob gwaith llwyddiannus yn hanes yr eglwys, ac roedd ei anogaeth gynnes yn her ar ddechrau’r wythnos.

Wedi’r cyfarfod hwn roeddem yn rhannu yn ffrydiau gwahanol, yn ddiwinyddion, yn gynghorwyr, yn arweinwyr mudiadau Cristnogol, athronwyr, gwyddonwyr etc. Rwyf fi yn ffrwd yr apologetics unwaith eto eleni. Cawsom ddwy sessiwn yma cyn cinio.
Yn gyntaf cawsom ein harwain gan David Robertson, gweinidog sy’n arwain yr eglwys yn Dundee lle bu Robert Nurray McCheynne yn weinidog. Mae’n ffigwr amlwg yn yr Alban, ac yn weithgar tu hwnt. Roeddem yn meddwl am efengylu yn yr Ewrop gyfoes, a chyda’i ddull byiog arferol, roedd yn ein hysgogi i geisio trafod y sefyllfa bresennol. Roeddwn i yn arwain grŵp trafod oeddyn cynnwys gwraig o wlad Pŵyl, gweinidog o Romania, a dau weithiwr Cristnogol o Sweden. Roedd yn ddiddorol meddwl o ble rydym wedi dod, a beth yw’r ffordd i mewn i fyd a diwylliant ein sefyllfaoedd gwahanol.

Wedi paned, cawsom ein harwain gan Eidalwr, sy’n weinidog protestannaidd yn Rhufain, i ystyried agwedd yr eglwys babyddol i ichawdwriaeth. Roedd y sessiwn hon yn ddiddorol, a chynorthwyol er mwyn deall sut mae’r eglwys babyddol wedi newid dros y ganrif ddiwethaf. Yna daeth amser cinio, a chyfle i ymlacio gan fod yr un yr oeddwn fod yn mentora wedi newid ei gynlluniau.