Prynhawn Sul cymerais y cyfle i ddarllen ac ysgrifennu ychydig cyn mynd i weithdy dan arweiniad Dirk Jongkind. Mae Dirk yn gweithio ar fersiwn newydd o destun y Testament Newydd yn y Groeg, gan ystyried y lawysgrifau gorau. Ond y prynhawn hwn nid y testun Groeg oedd ei faes ond “gwybodaeth” a sut y gallwn fod yn bobl sydd yn ceisio gwybodaeth gywir.

Yn ôl rhai heddiw yr unig wybodaeth ddibynadwy y gallwn ei gael yw’r hyn y gellir ei fesur a’i brofi trwy arbrofion gwyddonol. Mae eraill yn amau a oes yna’r fath beth â gwybodaeth gyddrychol. Ond mae gan y Beibl lawer i’w ddweud am y pwnc. Yn Genesis down ar draws y pren gwybodaeth da a drwg. Beth mae hynny’n ei olygu? Cawsom ein herio i feddwl am y modd y ceisiwn ddarganfod a dysgu, a sut mae gwybodaeth i ni yn gallu bod yn dda pan fyddwn yn ei weld yng nghyd-destun y Duw sydd wedi ein creu ni â’r bydysawd.

Gyda phryd nos daeth cyfle arall i fentora gŵr ifanc oedd yn wynebu problemau dwys iawn. Mae’r sesiynau hyn yn gallu bod yn emosiynol drwm, ond mae yna rhyw fodlonrwydd a llawenydd wrth weld y rhyddhád yn wyneb yr un sy’n cael ei fentora. Mae gweld rhywun yn gadael gyda gobaith y gall fod yna ffordd drwy’r anhawsterau yn fendith arbennig.

Yn y nos cafwyd cyfarfod i bawb lle cawsom ganu gyda’n gilydd, ond hefyd ystyried y poen sydd yn y byd. Cawsom ein cyflwyno i Jelena o Novi Sad, sydd gyda’i gŵr wedi cychwyn elusen o’r enw “Hannah’s Hope”. Hanna yw enw ei thrydydd plentyn, ac mae’n dioddef o awtistiaeth eithaf difrifol. Roedd yn sôn am sut roedd wedi wynebu’r ffaith fod ei merch yn dioddef ac felly ddim yn mynd i gael y pethau roedd wedi breuddwydio fyddai’n dod yn ei bywyd – tyfu a chael ffrindiau, efallai priodi a chael gyrfa. Rhannodd ei hofnau, ei dicter, ei thristwch, ond hefyd ei ffydd. Soniodd am fel yr oedd Iesu wedi defnyddio’r anabl i ddangos pwy oedd i’r bobl try weithio yn eu bywydau. Yna daeth Dianne Langberg i’n hannerch. Mae hi’n seicolegydd sydd wedi bod yn gweithio gyda dioddefwyr trauma ers deugain mlynedd. Wynebodd ni gyda’r trauma sydd yn y byd, a heriodd ni i wynebu’r tywyllwch yn ein calonnau, gan adael i Grist ein goleuo cyn mynd gyda’i oleuni Ef i gyrraedd dioddefwyr fel hyn yn ein byd. Noson ddwys i herio fy hunan-fodlonrwydd.

Roedd yn hyfryd cwrdd â John Kirckpatrick o Ogledd Iwerddon gyda’r nos, cyfaill da sy’n dod yma yn gyson.