Michael Oh, cyfarwyddwr mudiad Lausanne

Michael Oh, cyfarwyddwr mudiad Lausanne

Gyda’r Fforwm yn tynnu at ei therfyn, dilynodd dydd Mercher yr un patrwm mwy neu lai â’r dyddiau eraill. Roedd brecwast unwaith eto am 7.00, a’r tro hwn daeth dau i gael eu mentora. Mae’r ddau yn gweinidogaethu mewn eglwys ym Mudapest, Hwngari, a phroblemau yn deillio o gyfnod y cyn-weinidog. Buom yn trafod am bron i ddwy awr gan golli rhan o gyfarfod cyntaf y dydd.

Ond llwyddais i gyrraedd wrth i Ajith Fernando ddechrau ar ei anerchiad yn agor pumed bennod llyfr Nehemeia. Roedd Nehemeia yn wynebu anghyfartaledd yn y gymdeithas, ac wrth edrych ar y modd roedd wedi delio gyda hyn fe’n heriwyd ni i fod yn bobl tebyg iddo. Yr hyn sydd wedi rhoi grym i’r negeseuau hyn yw cymeriad y cennad ei hunan. Mae Ajith a’i wraig wedi dewis byw yn dlawd gydaphobl ei wlad ei hun.

Yn ein ffrwd apologeteg heddiw cawsom sessiwn “hawl i holi” lle roedd Stefan Gystavsson, Rik Peels a Peter S. Williams yn wynebu’r cwestiynau roeddem ni yn dymuno eu rhoi iddynt ym maes apologeteg. Fe gododd ychydig o storm tua diwedd y sessiwn hon, lle roedd yn amlwg fod un panelwr yn cymryd llwybr gwahanol i’r hyn fyddai’r rhan fwyaf ohonom.
Wedi paned bu Stefan Gustavsson yn trafod y cwestiwn “Pam nad ydyw Duw wedi gwneud ei hun yn fwy amlwg?” Mae Stefan yn feddyliwr praff ac yn gyfathrebwr difyr. Bu’r ffrwd yn un ffrwythlon a diddorol eleni.

Amser cinio gwahoddwyd nifer ohonom sy’n byw yn y Deyrnas Unedig i ddod at ein gilydd i feddwl os oes modd gwneud y Fforwm yn fwy amlwg yn ein gwlad. Oherwydd bod y trafod hwn wedi mynd ymlaen am amser, methais un gweithdy roeddwn wedi gobeithio mynd iddo. Ond cefais addewid gan un siaradwr y deuai i siarad yn y Brifysgol ym Mangor pe byddwn yn gallu trefnu hynny.

Diwedd y prynhawn mynychais weithdy lle roedd Peter J Williams yn edrych ar y cwestiwn “A ydi Duw yr Hen Destament yn dduw creulon?” Gyda’i feistrolaeth arferol ar y Beibl ac ar y maes rhoddodd arfogaeth i ni fedru wynebu cwestiynau fel hyn.

Dros ginio cefais fy sessiwn fentora olaf, yn ceisio helpu dyn ifanc o Lithuania sy’n ceisio gofalu am eglwys fach yno. Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn teimlo ei fod mewn lle anodd tu hwnt. Mae’n gweithio yn llawn amser i gynnal ei hun. Mae aelodau ei eglwys yn hŷn i gyd, ac nid oes ganddo gefnogaeth ei deulu yn yr hyn mae’n ei wneud. Lle mae rhai gwledydd yn Ewrop yn gweld llwyddiant amlwg yn eu tystiolaeth, mae’n swnio fel petai Lithuania yn sefyllfa galed ac anodd tu hwnt. Rydym yn aml yn cwyno fod y sefyllfa ysbrydol yn ein gwlad ni yn anodd, ond mae’n frenin ar yr hyn mae hwn yn ei wynebu.

Yng nghyfarfod olaf y Fforwm, cawsom ein hannerch gan Michael Oh. Mae ef, sy’n hannu o Siapan, yn gyfarwyddwr mudiad Lausanne. Rhaid i mi ddweud ei fod wedi dechrau fel bocsiwr, yn ein herio o’r frawddeg gyntaf gydag ergydion ar bob llaw. Peidiwch â’m cam-ddeall. Roedd yn gywir iawn yn yr hyn roedd yn ei ddweud, ac yn ei ysbryd. Trwy edrych ar lythyr Paul,at y Rhufeiniaid, ac yn arbennig yr wythfed bennod, fe’n heriodd i fyw bywyd sy’n radical ac yn wahanol i’r byd (radical distinctiveness). Trwy feddwl am ostyngeiddrwydd, integriti, a phurdeb fe’n galwodd i fyw yn wahanol fel arweinwyr, ac felly i alw ein heglwysi i fod yn ‘hip’ (Humility, Integrity, Purity), ac er fod yr ymadrodd hwn yn swnio’n ysgafn, doedd dim byd ysgafn am yr hyn a glywsom. Dyma alwad radical ar ddiwedd cynhadledd sydd wedi bwydo’r meddwl a’r galon.