imageDarllenwch Mathew 2:12-18

Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod gwahanol. Dyna pam fod y myfyrdod yn hwyr yn ymddangos. Gadewch i mi egluro. Roeddwn i fyny cyn hanner awr wedi pedwar, er mwyn mynd â Heledd, fy merch, i faes awyr Manceinon. Mae’n cymryd rhan mewn cynhadledd yn yr Unol Daleithiau – cynhadledd sy’n digwydd bob tair blynedd lle disgwylir 17,000 o fyfyryr i feddwl am waith yr Arglwydd.

Er fod y tywydd yn wael, a’r glaw yn ei harllwys hi, fe gyrhaeddodd y maes awyr mewn hen ddigon o amser. Trois am adre, a phob dim yn ymddangos yn iawn hyd nes i mi gyrraedd Abergele. Yno roedd arwydd yn dwud fod yr A55 ar gau o gwmpas cyffordd 15 (Llanfairfechan). Wrth deithio yn nes deuai’r arwyddion yn fy aml. Felly erbyn dod at Landudno, dyma droi i lawr dyffryn Conwy. Roedd y dŵr yn tywallt oddi ar y mynyddoedd a rhannau o’r lôn mewn perygl o ddiflannu’n llwyr, ond cyrhaeddais Lanrwst, ac yna’r A5 tua Betws y Coed. Ond roedd Pont Waterloo ar gau oherwydd y dŵr a dodd dim modd mynd drosti, felly fe’m danfonwyd yn ôl i fyny’r dyffryn i Gyffordd Llandudno. Doedd dim amdani ond cymryd bechdan bacwn yn MacDonalds, ac yna mentro i weld os oedd yr A55 yn mynd i agor cyn hir. Wedi gyrru draw hyd at Lanfairfechan, fe ddywedodd dyn tân wrtha i na fyddai’r ffordd ddim yn debyg o agor heddiw o gwbl. Felly dyma droi yn ôl, draw drwy ddyffryn Conwy eilwaith, a mentro’r ffordd drwy Ddolwyddelan i Flaenau Ffestiniog. Er fod rhai ceir wedi mynd yn sownd yngahnol dŵr fe gyrhaeddais Borthmadog, a chael y ffordd yn glir draw i Fangor.
Felly saith awr wedi gadael cartref, a rhyw 300 milltir ar gloc y car, dyma gyrraedd adref yn ddiogel. Mae rhwystrau yn dod weithiau, a ninnau yn pryderu beth fydd yn digwydd. Ond trwy drugaredd Duw, dyma gyrraedd pen y daith.

Fe gododd rhwystrau ym mywyd ein Gwaredwr – ac fe ddechreuson nhw yn fuan – dim lle i gael ei osod wedi iddo gael ei eni – dim ond gwely o wair a phreseb anofail. Wedi hynny daeth bygythiadau Herod, a’i rieni yn gorfod ffoi am eu bywydau i’r Aifft. Sawl tro yn ystod bywyd y gwaredwr clywn am bobl yn ceisio ei ladd (Luc 4:29), neu hyd yn oed rhai yn ceisio ei dynnu oddi ar ei lwybr o ufudd-dod i’w dad (Mathew 16:21-23). Fyddai meb yn synnu pe byddai wedi methu cyrraedd pen ei siwrnai.

Ond doedd dim byd yn gallu rhwystro cynllun Duw. Hyd yn oed pan dybiodd y disgyblion fod popeth ar ben, a’u Harglwydd wedi ei ladd – doedd cynllun Duw ddim tamaid gwaeth. Yn wir roedd y gofid yn llwyddo’r cynllun, gan i Dduw ddefnyddio cynllwynion y gelyn i dalu pris ofnadwy ein gwrthryfel ni (Actau 4:27-28; Eseia 53:4-5). Nid y drwg gafodd y gair olaf, ond fe atgyfododd y Gwaredwr yn goncwerwr angau.

Os ydych chi fel Cristion yn wynebu rhwystrau heddiw yn eich taith ysbrydol, ac yn ofni na chewch eich cadw’n ddiogel, credwch na all cynllun Duw fethu. Yn wyneb pob math o rwystrau gallai Paul ddweud wrth y Philipiaid: ‘ac yr wyf yn sicr o hyn, y bydd i’r hwn a ddechreuodd waith da ynoch ei gwblhau erbyn Dydd Crist Iesu.’ (Philipiaid‬ ‭1:6‬ ‭BCN‬‬).