imageDarllenwch Luc 2:36-38

Beth yw eich gobeithion chi am eich bywyd? Anaml bydd ein bywydau yn dilyn y patrwm rydym yn ei obeithio. Mae gennym gynlluniau, ac efallai ein bod yn llwyddo i gyflawni rhai ohonyn nhw. Ond wedyn mae pethau annisgwyl yn torri ar draws y cyfan. Mae hanes y byd yn llawn o straeon am bobl ddaru gael rhywbeth annisgwyl yn newid cwrs eu bywyd.

Gyda rhai arweiniodd hynny at gyflawni pethau annisgwyl. Yn hanes eraill, golygodd siom a methiant.

Cymrwch chi Anna. Roedd hon yn siwr o fod yn llawn gobeithion – byddai wedi priodi’n ifanc – roedd merched yn aml cael eu rhoi mewn priodas yn eu harddegau cynnar y pryd hynny. Byddai’n edrych ymlaen at flynyddoedd o fagu teulu a gofalu am ei gŵr. Ond o fewn saith mlynedd i’w phriodas chwalwyd ei gobeithion. Bu farw ei gŵr a does dim sôn am blant o gwbl.
Heb ŵr i’w chynnal, na phlant i ofalu amdani, doedd y rhagolygon ddim yn dda. Ond roedd hon yn gosod ei gobaith yn y Duw roedd yn credu ynddo. A dyma ddechrau blynyddoedd o fynd i’r deml i geisio ei wyneb mewn ympryd a gweddi. Erbyn i ni glywed amdani roedd yn 84 mlwydd oed. Dyna chi fywyd di-nod. Bywyd heb arwyddocád iddo yng ngolwg y byd.

Ond rydym yn clywed ei bod yn broffwydes – fod Duw yn closio ati ac yn rhoi iddi air o ddoethineb arbennig ar adegau. Daeth pobl i ddeall fod llais Duw i’w ganfod yn yr hyn roedd yn ei rannu. Ac er na wyddom beth yn union ddywedodd hi yma, daeth diwrnod pan gafodd gyfeirio pobl at fabi bach, gan gyhoeddi y byddai Duw yn gwneud pethau mawr trwy hwn. Yng ngolwg y byd doedd hon yn neb, ond rydym ni yn gwybod amdani dros ddwy fil o flynyddoedd yn ddiweddarach, ac yng ngolwg tragwyddoldeb mae i Anna ei harwyddocád arbennig. Hi oedd un o’r rhai cyntaf i dystio am Iesu wrth ein byd.

Ganol nos fe gawsom ni newyddion fel teulu. Ganwyd Ana Rachel, wyres fach newydd i ni. Nid ydym wedi ei gweld eto, ond mae gennym ni a’i rhieni ein gobeithion amdani. Rydym yn dymuno y bydd ei bywyd yn ddedwydd a rhydd o ofid. Go brin y gallwn ragweld beth ddaw, ond gallwn weddïo y caiff weld daioni Duw, a gosod ei gobaith ynddo er iddi wynebu troeon anodd. Efallai yn wir mai yn y troeon anodd y caiff ddarganfod daioni Duw yn fwyaf clir.

Beth bynnag fo’ch sefyllfa a’ch hanes chi heddiw, cymrwch y cyfle i glosio at Dduw. Mae’r Beibl yn llawn addwidion fod closio ato yn arwain at fendith. ‘Y mae’r ARGLWYDD yn agos at bawb sy’n galw arno, at bawb sy’n galw arno mewn gwirionedd.’ (Y Salmau‬ ‭145:18‬ ‭BCN‬‬)
Neu yng ngeiriau gwahoddiad grasol y Gwaredwr ei hun: ‘Dewch ataf fi, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi. Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, oherwydd addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, ac fe gewch orffwystra i’ch eneidiau. Y mae fy iau i yn hawdd ei dwyn, a’m baich i yn ysgafn.”’ (Mathew‬ ‭11:28-30‬ ‭BCN‬‬)