imageDarllenwch 1 Thesaloniaid 4:13-18

Rydym wedi bod yn meddwl llawer yn ystod y mis hwn am Fab Duw yn dod i’n byd mewn baban bach. Gyda’r flwyddyn yn dod i ben ac amser yn brysio heibio, mae’n werth cofio mai rhan o stori fawr oedd dyfodiad Iesu. Mae’r Beibl yn dweud ei fod yn mynd i ddod eilwaith i’n byd.

Y tro hwnnw nid dod fel baban bach fydd o, ond fel Brenin a Phen-Arglwydd. Mewn geiriau sy’n gwneud i ni feddwl efallai am rai o olygfeydd ffantasi rhai ffilmiau sci-fi fe fydd yn dod yn ôl ar gymylau’r nef.

Bydd yr ail-ddyfodiad hwn yn ennyn dau ymateb gwahanol ymhlith dynol ryw. Fel dywedodd y proffwyd Malachi ganrifoedd cyn i Grist ymddangos y tro cyntaf, bydd ei ddyfodiad i rai yn ddychryn a braw: ‘Pwy a all ddal dydd ei ddyfodiad, a phwy a saif pan ymddengys?’ (Malachi‬ ‭3:2‬ ‭BCN‬‬) Mae yna rai na fyddant yn barod am ei ddyfodiad – rhai sydd ddim yn disgwyl iddo ddod: ‘Oherwydd yr ydych yn gwybod yn iawn mai fel lleidr yn y nos y daw Dydd yr Arglwydd. Pan fydd pobl yn dweud, “Dyma dangnefedd a diogelwch”, dyna’r pryd y daw dinistr disymwth ar eu gwarthaf fel gwewyr esgor ar wraig feichiog, ac ni fydd dim dianc iddynt.’ (1 Thesaloniaid‬ ‭5:2-3‬ ‭BCN‬‬). Mae yna eraill sy’n gwybod ei fod yn dod, ond fydd heb baratoi. Mae nhw fel y morwynion ffôl rydym y soniodd y Gwaredwr amdanynt (Mathew 25) Yn wir mae’r tair dameg ddarllenwn ni yn y bennod honno yn dangos gymaint o ddychryn fydd dychweliad Iesu Grist i lawer. Dydd i’n dwyn i gyfrif am yr hyn rydym wedi ei wneud fydd y diwrnod hwnnw. Yng ngeiriau cofiadwy gweledigaeth Ioan yn Llyfr Datguddiad, bydd mawrion y ddaear yn dweud wrth y mynyddoedd a’r creigiau, “Syrthiwch arnom ni, a chuddiwch ni o ŵydd yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac oddi wrth lid yr Oen: Canys daeth dydd mawr ei ddicter ef; a phwy a ddichon sefyll?” (Datguddiad‬ ‭6:16-17‬ ‭BWM‬‬)

Ond mae yna eraill sy’n gallu edrych ymlaen at y dydd hwn. Pan oedd Paul yn ysgrifennu at y Thesaloniaid gallai ddweud wrthynt ‘Calonogwch eich gilydd, felly, â’r geiriau hyn.’ (1 Thesaloniaid‬ ‭4:18‬ ‭BCN‬‬). Dyma ddydd pan fydd Cristnogion yn cael gweld yr Un sydd wedi eu gwaredu. Fe gawn edrych ar y dwylo ddygodd yr hoelion er ein mwyn. Cawn weld y talcen wisgodd goron ddrain, bellach yn gwisgo coron gogoniant. Cawn edrych i’r llygaid edrychodd allan ar y torfeydd mewn tosturi, am eu bod fel defaid heb fod ganddynt fugail. Cawn weld yr Un yr ydym yn edrych arno drwy ffydd ar hyn o bryd. A bydd diwedd ar bob drygioni – y drygioni sy’n blino ein byd yn ei ryfela, ei gweryla, ei greulondeb, ac yn fwy rhyfeddol, y drygioni oddi mewn i ni ein hunain. Bydd yn ddydd o syndod (Mathew 25:37-39), ond bydd yn ddydd o lawenydd di-ben draw.

Gyda’r flwyddyn yn dod i ben, gallwn ddweud yn hyderus fod y dydd hwn yn agosach nag erioed o’r blaen. Mae’r blynyddoedd yn brysio heibio. Felly daw’r gwirionedd hwn â ni wyneb yn wyneb â sawl peth. Wrth edrych yn ôl dros 2015, a fu i ni gasglu trysor a y ddaear, neu yn y nef? (Mathew 6:19-21)
Gallwn frysio heddiw at y groes i ofyn am faddeuant am fethiannau’r flwyddyn.
A yw profiadau’r flwyddyn, yn enwedig y rhai anodd, wedi ein gyrru yn agosach at yr Arglwydd? Mae’r addewid y daw dydd pan fydd yn sychu ymaith pob deigryn oddi ar ein wynebau yn gysur a gobaith ynghanol brwydrau bywyd.
A fu i ni rannu ein gobaith gyda rhywun yn ystod y flwyddyn? Pan fu cyfaill i mi yn agos at farw, fe addunedodd, pe cai iechyd, y byddai’n gwneud popeth fedrai i gymryd cymaint o bobl ag oedd bosib i’r nefoedd gydag ef. Mae wedi rhannu’r efengyl ar chwe cyfandir ers hynny.
imageY cwestiwn mawr cyn y Nadolig i lawer oedd: A ydym yn barod? Mae amser yn brysio heibio, a’r cwestiwn yn fwy pwysig nag erioed: Wyt ti’n barod?