imageDarllenwch Mathew 2:19-23

Dwi’n siwr i mi glywed ochenaid bore ma wrth i mi godi – rhyw ochenaid ddofn yn ymledu dros y wlad i gyd. Ond tydw i ddim yn siwr os mai ochenaid o ryddhad, neu un o ofid oedd hi – wrth i rieni wybod bod bydd y tŷ yn dawel am ychydig, neu’r plant a’r athrawon yn ocheneidio fod yr ysgol yn ail-ddechrau heddiw!

Ie, roedd yn braf cael gwyliau, ond rhaid dychwelyd i fywyd go iawn ac i realiti gorchwylion pob dydd. (Wrth gwrs mae rhai wedi gorfod mynd nôl i’r gwaith eisioes, ac eraill wedi gorfod gweithio drwy’r gwyliau.) Mae’r sglein wedi diflannu oddi ar ambell i anrheg erbyn hyn. Y cynnwrf o gael chwarae gyda’r tegan newydd wedi pylu wrth i’r batris redeg allan o bŵer. Bydd rhaid tynnu’r addurniadau a’u cadw, ac am gyfnod bydd y tŷ yn edrych yn foel braidd, ac efallai bydd yr hwyl yn teimlo fel breuddwyd.

Ond nid ffantasi oedd y gwyliau – mae’r anrhegion a gweddillion y gacen nadolig a’r bocsys bisgedi yn tystio i hynny. Ac nid ffantasi ychwaith oedd hanes y geni. I fyd real daeth ein Gwaredwr, lle roedd Herod yn byw a’r her i Joseff i ddod o hyd i gartref diogel a gweithio i gynnal ei deulu. Felly er ein bod yn rhoi’r addurniadau o’r golwg mewn cwpwrdd neu yn yr atig am ryw un mis ar ddeg arall, does dim rhaid i ni roi Iesu o’r neilltu. Yn wir, onid hyn yw ein llawenydd wrth i ni orfod dychwelyd i’n bywyd cyffredin wedi’r ŵyl? Geiriau olaf y Gwaredwr i’w ddisgyblion cyn dychwelyd at ei Dad oedd ‘Gallwch chi fod yn siŵr y bydda i gyda chi bob amser, nes bydd diwedd y byd wedi dod.”’ (Mathew‬ ‭28:20‬ ‭BNET‬‬)

Felly heddiw p’un ai ochenaid o ryddhad fod y gwyliau drosodd, neu ochenaid o ofid eich bod yn gorfod mynd nôl i’r ysgol sydd yn eich calon, cadwch eich golwg ar yr Un anrheg sy byth yn mynd yn hen, na byth yn colli ei sglein.