imageDarllenwch Ioan 14:1-14

Rydw i newydd fod yn yr orsaf drenau, yn ffarwelio â Heledd wrth iddi ddychwelyd i Košice tan yr haf. Mae’r ffarwelio hyn yn digwydd yn rheolaidd bellach, a hithau ar ei phumed blwyddyn yno. Ond er fy mod yn gyfarwydd â’i gweld yn mynd, mae yna ryw elfen o chwithdod bob tro. Yr hyn sy’n pylu’r chwithdod hwnnw yw’r gobaith y caf ei gweld eto cyn bo hir wrth iddi ddod yn ôl atom yn yr haf.

Rydym wedi cyrraedd Ionawr y chweched, a dyma yn draddodiadol ddiwrnod olaf Gŵyl y Nadolig – deuddegfed diwrnod yr ŵyl. Rhaid ffarwelio gyda’r addurniadau, a rhoi’r cwbl heibio. Ond os byddwn yma ymhen y flwyddyn byddwn yn  eu tynnu allan unwaith eto a chael mwynhad o addurno’r tŷ.

Os yw ffarwelio yn rhan anorfod o fywyd, a hwnnw’n gallu bod yn ddigalon, eto mae gan Gristnogion rywbeth i bylu pob poen. Mae yna ddiwrnod yn dod pan gawn fynd adref – i’n gwir gartref. Mae yna ddydd yn dod pryd na fydd gwahanu byth mwy.

Mae yna ymadrodd yn llyfr Datguddiad fu’n peri anhawster i mi am flynyddoedd. Pan mae’r nef a’r ddaear newydd yn cael eu disgrifio ym mhennod 21, cyhoeddir “ni bydd môr mwyach.” Fel un a fagwyd yn Aberystwyth, mae meddwl am fyd heb fôr yn ddigalon – mae’n ddefod gennyf, bob tro yr af yn ôl yno, i fynd am dro ar hyd y prom a mwynhau sŵn y tonnau’n torri ar y traeth. Ond nid ydym i gymryd y geiriau yn llythrennol yma. Darlun sumbolaidd yw’r disgrifiad. I’r Iddew roedd y môr yn golygu gwahanu. Meddyliwch am yr adegau pan roedd y môr yn arwyddocaol yn hanes Israel. Dyna’r dilyw i ddechrau yn boddi’r byd. Wedyn cawn Israel yn wynebu’r Môr Coch a byddin Pharo yn y diwedd yn cael ei boddi ynddo. Yna mae hanes Jona, a’r storm ar y môr. Fuodd gan Israel erioed ei fflyd o longau. Roedd y môr aflonydd yn cynrychioli ansicrwydd, a gwahanu.

Felly rhan o’r gobaith ynghlwm yn ein ffydd yw y daw dydd pryd y bydd pob gwahanu heibio. Yng ngeiriau’r hen emyn:

Bydd canu yn y nefoedd, pan ddêl y plant ynghyd:
y rhai fu oddi cartref o dŷ eu Tad cyhyd.”

Wrth gwrs, y gobaith mawr yw y cawn fod gyda Christ ei hun, a byth cael ein gwahanu oddi wrtho. Cawn weld yr un orweddodd yn y preseb, yr un oedd wedi gorfod ffoi ym mreichiau ei rieni rhag llid Herod, yr un fu’n cerdded llwybrau Galilea yn iacháu’r cleifion, yn croesawu’r edifeiriol, yn trugarhau wrth y torfeydd, yn dysgu ei ddisgyblion. Cawn weld yr un aeth i Galfaria, ac a dderbyniodd yr hoelion yn ei ddwylo a’i draed a’r gwawd a’r dirmyg. Cawn ein cadw’n ddiogel gan yr Un goncrodd farwolaeth ac atgyfododd o’r bedd – a bydd yna ddim ffarwelio na gwahanu mwy.

Wrth ffarwelio â Heledd yn yr orsaf heddiw rydw i eisioes yn edrych ymlaen at ei chroesawu nôl adre ymhen ychydig fisoedd. Os oes yna elfen o chwithdod wrth i ni roi’r addurniadau heibio eleni, yna gadewch i ni edrych ymlaen ac atgoffa’n hunain o’r gobaith sydd gennym. Nid y gobaith y cawn weld yr addurniadau eto ymhen blwyddyn, ond y gobaith sicr y cawn weld ein Harglwydd a chlywed ei lais wrth iddo’n croesawu i heddwch a llawenydd tragwyddol.