imageNadolig Llawen unwaith eto! Na, tydw i ddim wedi drysu, ond mae’r Eglwys Roegaidd, ac felly llawer o Gristnogion yn Nwyrain Ewrop, yn dilyn yr hen drefn. Cyn newid o galendr Iŵl i’r calendr Gregoraidd roedd Rhagfyr 25ain yn disgyn ar y diwrnod sydd bellach yn cyfateb i Ionawr 7fed. Felly heddiw yw’r diwrnod mae nhw’n dathlu,

a minnau’n anfon cyfarchion at fy nghyfeillion yn Serbia ac ambell wlad arall. Bydd eu dathlu hwy ychydig yn llai moethus na’r hyn welwyd yn en gwlad ni. Bydd y gwasanaethau a’r mawl yn orfoleddus, ond y trimmings yn dipyn mwy cynnil. Y Pasg yw’r dathliad mawr i lawer ohonyn nhw. Oherwydd, wrth gwrs, fedrwn ni ddim gwahanu dyfodiad Crist oddi wrth ei farwolaeth a’i atgyfodiad. Dyna bwrpas a phen draw yr ymdnawdoliad.

Wrth gwrs, yn gymaint na wyddom ni ddim pa bryd yn union y ganwyd Crist, tydi’r diwrnod ddim mor bwysig. Y peth sy’n cyfrif yw ein bod yn gwybod iddo gael ei eni. Fe ddaeth y Gair
yn gnawd, ac mae Cristnogion yn dwyn y gwirionedd hwn i’w bywydau bob diwrnod o’r flwyddyn. Gallwn ddathlu, ac fe ddylem ddathlu’r cariad barodd i’r Tad anfon ei Fab yma er ein mwyn ynghanol mis Awst, gymaint ag ym mis Rhagfyr.

Ond gan ein bod ni wedi dod i ddiwedd cyfnod y dathlu, byd y myfyrdodau yn newid o hyn ymlaen. Fydda i ddim yn eu hysgrifennu bob dydd, a bydd rhai yn ddefosiynol, ond eraill yn dilyn trywydd gwahanol, gan efallai wynebu rhai cwestiynau ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yn ein byd, a sut mae ffydd neu ddiffyg ffydd yn effeithio ar ein bywyd.

I fy nghyfeillion yn Nwyrain Ewrop felly, dymunadau gorau’r ŵyl. I’r gweddill ohonom, gadewch i ni ddiolch heddiw eto fod yr un a anwyd ym Methlehem yn fyw o hyd i’n harwain drwy’r dydd a’i droeon.