Geraint 2Ar Ionawr 15fed bu farw’r Parch. Geraint Morgan, Carneddi, Lôn y Bryn yn yr ysbyty wedi cyfnod o waeledd. Bu Geraint yn gyfaill i ni yma yng Nghapel y Ffynnon a dyma air o deyrnged iddo.

Ganed ef ym Mhontarddulais ym 1924, a daeth i brofiad byw o’r Arglwydd Iesu tra yn ei arddegau. Wedi cyfnod ym Mhrifysgol Abertawe bu’n dysgu Addysg Grefyddol yn Llanfyllin, lle y priododd ag Idwen. Yna symudodd i ddysgu ym Mae Colwyn. Yno sefydlodd yr Eglwys Efengylaidd, fu am gyfnod yn cyfarfod yn ei gartref ef ac Idwen, cyn symud i ganolfan gymdeithasol leol. (Bellach mae’r eglwys yn cyfarfod ym mhentref Eglwysbach) Ym 1986 fe’i galwyd i fod yn weinidog ar Eglwys Ebenezer ym Mangor a symudodd y ddau yma i fyw.

O’i ddyddiau cynnar roedd Geraint o ddifrif am ei Arglwydd. Ym 1949 ymunodd â chriw i rannu cylchgrawn roedden nhw wedi ei gyhoeddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nolgellau. Daethant i gael eu hadnabod fel “pobl y cylchgrawn” ac o’r criw bach hwnnw y tyfodd Mudiad Efengylaidd Cymru. Bu’n frwd ei gefnogaeth i’r Mudiad ac i weithgaredd efengylaidd ar hyd ei oes.

Roedd ganddo ddiddordeb ysol yn y genhadaeth Gristnogol yn y wlad hon a thramor. Bu’n gefnogwr brwd i weithwyr UCCF, sy’n helpu’r Undebau Cristnogol ym mhrifysgolion ein gwlad. Ond roedd ei lygaid hefyd yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau Cymru. Roedd ei gefnogaeth i genhadon dramor yn ddiarhebol, gyda llawer yn ysgrifennu ato yn rheolaidd, ac yn gwybod ei fod yntau ac Idwen yn eu cofio yn eu gweddïau. Bu’n gadeirydd y pwyllgor oedd yn cefnogi Mair Davies, cenhades aeth o Gymru i’r Wladfa ac a dreuliodd y rhan fwyaf o’i hoes yno. Adref hefyd bu’n cynnal astudiaeth feiblaidd i fyfyrwyr o Tseina yn ei gartref am flynyddoedd.

Roedd Geraint yn ddarllenwr di-ail. Roedd pawb oedd yn ymweld â’i gartref yn gweld y rhesi o lyfrau oedd yno. Roedd yna lyfrau diwinyddol, esboniadau, llyfrau ar hanes yr eglwys, a llawer o lyfrau yn adrodd hanes cenhadon ym mhedwar ban byd. Byddai’r rhain yn bwydo ei bregethau a’i weddïo. Byddai ei sgwrs felly yn dangos gwybodaeth ryfeddol o’r hyn oedd yn digwydd drwy’r byd. Bu hefyd yn weithgar yn edrych dros gyfraniadau ar gyfer y Beibl Canllaw a gyhoeddwyd y llynedd, gan wneud llu o awgrymiadau gwerthfawr i’r golygydd. Bu hefyd am flynyddoedd yn gadeirydd pwyllgor y Siop Lyfrau Cristnogol sydd ym Mangor Uchaf.

Un o nodweddion mawr Geraint oedd ei weddïo. Nid rhywbeth i’w wneud yn y pulpud yn unig oedd hwn. Roedd yn treulio llawer o amser yn ceisio bendith ar waith Duw mewn gweddi. Byddai ymweld â Geraint yn aml yn golygu awr neu ddwy o gwestiynu dwys. Ond nid hel clecs oedd hyn. Byddai’r wybodaeth yn bwydo ei weddïo dros ein gwlad. Tra bu’n weinidog yn Ebenezer byddem yn cyfarfod yn wythnosol i rannu a gweddïo dros ein gwaith.

Y tu cefn i hyn i gyd oedd ei hyder yn Nuw a’r hyn roedd Duw wedi ei gyflawni trwy farwolaeth Crist. Yn ystod ei ddyddiau olaf yn yr ysbyty soniodd am yr emyn roedd wedi ei dewis i gael ei chanu yn ei angladd – Cyfamod hedd, cyfamod cadarn Duw. Er mor wan oedd yn gorfforol, roedd yn hyderus fod gafael Duw ynddo yn gadarn. Ar Ionawr 15fed, wedi oes hir o wasanaethu ei Arglwydd, gadawodd y byd hwn i gyfarfod yr Un y bu’n ei ddilyn am ran helaethaf ei oes hir o 91 mlynedd.

Yn ei angladd gofynnwyd i mi ddarllen rhan o bennod olaf ail lythyr Paul at Timotheus – geiriau y gellid yn hawdd eu cymhwyso i Geraint:   Yr wyf wedi ymdrechu’r ymdrech lew, yr wyf wedi rhedeg yr yrfa i’r pen, yr wyf wedi cadw’r ffydd. 8 Bellach y mae torch cyfiawnder ar gadw i mi; a bydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, yn ei chyflwyno hi imi ar y Dydd hwnnw, ac nid i mi yn unig ond i bawb fydd wedi rhoi eu serch ar ei ymddangosiad ef. 

Braint oedd ei adnabod a chael cyd-weithio ag ef am sawl blwyddyn. Cofiwn yn arbennig felly am ei weddw, Idwen, a’u mab Elwyn yn eu profedigaeth.