Roedd yn hyfryd cyrraedd Košice fore llun a gweld Heledd yn disgwyl amdana i ar blatfform yr orsaf drenau. Fe aethom oddi yno draw i’r fflat lle mae wedi byw ers iddi gyrraedd yma bedair blynedd a hanner yn ôl. Doedd dim arbennig wedi ei drefnu dros y deuddydd oedd i ddod felly roedd yn gyfle da i seiadu, ymlacio a cheisio gwneud rhywfaint o waith. Tydi’r tywydd ddim wedi bod yn garedig iawn ar y daith hon, a glaw yn cyfyngu ar ein hawydd i fynd i’r mynyddoedd am dro.

Dydd Mercher roedd gennyf ddau orchwyl. Yn gyntaf roedd y tîm yn dod at ei gilydd i drafod y gwaith a gweddïo. Felly ganol dydd daeth Tom, Sam a Martin draw i’r fflat. Martin yw arweinydd y tîm e,rs sawl blwyddyn. Mae’n byw heb fod ymhell gyda’i wraig, Anka, a’u tri plentyn. Mae Tom yn dod o Sunderland, a dyma’i ail flwyddyn yn Slovakia. Un o ochrau Rhydychen yw Sam, a dyma’i flwyddyn gyntaf yma. Roedd Beata, sy’n gweithio mewn rhan arall o’r wlad, yn ymuno â ni dros y we. Mae Baška, aelod arall y tîm, yn cael amser i ffwrdd ar hyn o bryd. Rwyf finnau wedi cael enw newydd hefyd gan Tom a Sam, felly i’r rhai ohonoch sydd ar twitter, chwilwch am #papaheledd

Cafwyd adroddiadau calonogol am y gwaith. Roedd cyfarfod nos Fawrth wedi bod yn Prešov gyda’r myfyrwyr yn dilyn cynllun Datgelu sydd wedi ei gyfieithu i Slovak. Gyda tua ugain o fyfyrwyr yno o wahanol gefndiroedd rhannwyd yn dri grwp – un yn trafod yn Slovak, un arall yn fyfyrwyr tramor yn trafod yn Saesneg, ac un arall yn fyfyrwyr o Iwcraen yn trafod mewn Rwsieg! Soniwyd hefyd am y cynlluniau am y dyfodol agos, gyda’r tîm yn mynd wythnos nesaf i Nitra, lle mae Beata, er mwyn cynnal nifer o gyfarfodydd.

Wedi’r trafod cawsom weddïo am y gwaith, ac yna arweiniais y tîm mewn myfyrdod ar drydedd bennod llyfr y Pregethwr. Mae’n gyfnod o newid yn y tîm gyda Martin yn debygol o orffen yn yr haf, a Heledd, Sam ac efallai Tom hefyd yn dwyn eu cyfnod yma i ben. Felly roedd yn addas cofio fel mai Duw sy’n trefnu ein hamseroedd.

Fin nos roedd y grwp yn y Brifysgol wedi trefnu cyfarfod lle roddwn i siarad ar y tstun “Ble mae Duw pan mae pethau drwg yn digwydd?” Roeddent wedi bod yn rhannu gwahoddiadau yn y Brifysgol, ac wedi dod a llond plat o grempogau wedi eu llenwi â Nutella i’w mwynhau. Cefaos siarad am ryw ddeugain munud, gyda myfyrwraig o’r enw Lydia yn cyfieithu. Wedyn cafwyd cyfnod o gwestiwn ac ateb, gyda’r myfyrwyr yn ysgrifennu eu cwestiynau a’u pasio mlaen i mi geisio delio gyda hwy.

Roedd Heledd wedi ei chalonogi yn y cyfarfod, oherwydd roedd amryw o rai yno nad oedd wedi eu gweld o’r blaen. Ar ben hyn roedd y cewstiynau ddaeth i law yn rhoi cyfle i ddilyn y cyfarfod hwn gyda chyfarfodydd eraill, a sgyrsiau personol gyda’r myfyrwyr.

Bellach rwyf ar y ffordd adref. Wedi taith dren gynnar i Budapest rwy’n cymryd y cyfle yn y maes awyr i ddiweddaru’r newyddion. Mae PapaHeledd ar ei ffordd adref!