Dau ar daith!!

Dau ar daith!!

Dyma’r pedwerydd tro i mi ddod i Albania i gynorthwyo’r gwaith yma. Y tro hwn mae’n braf cael cwmni Dewi Tudur, a’r ddau ohonom yn mwynhau’r haul braf yn y wlad.

Fe gyrhaeddom nos Fawrth wedi taith oedd yn golygu aros dwyawr ym maes awyr Istanbul. Roedd fy nghyfaill Zef yn disgwyl amdanom ym maes awyr Tirana, ac fe ddaeth â ni i mewn i westy Qendra Steffan, ynghanol y ddinas. Dyma lle byddaf yn aros bob tro rwyf yma. Mae’n westy sydd yn eiddo i Americanwr o Gristion sydd wedi cymryd dyn o Albania fel partner yn y fenter. Mae nhw’n cyflogi gweithwyr er mwyn eu hyfforddi i allu gwneud gwaith tebyg. Mae amryw o genhadon yn defnyddio’r gwesty pan fyddan nhw yn ymweld â’r ddinas. Mae bwyty yn gysylltiedig â’r gwesty ac yn aml gallwn gwrdd â Christnogion eraill sy’n gweithio yn y ddinas yma.

Dydd Mercher, wedi brecwast hwyr fe aethom i grwydro’r ddinas gyda Zef. Roeddwn i’n gyfarwydd â’r cyfan, er ei bod yn amlwg fod yna newidiadau yn digwydd yma. Mae yna adnewyddu yn digwydd gyda sawl ardal. Mae dadl fawr yn y llywodraeth, am fod y cyn-arlywydd wedi gwario llawer, ond dim ond wedi gallu gwneud hynny trwy fenthyg yn anghyfrifol. (Ei obaith oedd y byddai’r byd yn maddau’r dyledion, fel Groeg). Mae’r llywodraeth newydd ddaeth i mewn ddwy flynedd yn ôl yn ceisio bod yn fwy cyfrifol, ond oherwydd hynny mae llawer o waith adeiladu ar ei hanner, gyda’r banciau yn gwrthod rhyddhau mwy o arian. Mae’r cyfan yn newydd i Dewi, ac mae’n braf cael ei gwmni a rhywun arall yn rhannu’r profiadau gyda mi.

Wedi cinio mewn bwyty ynghanol y ddinas fe’n rhoddwyd ar fws mini i deithio drwy’r mynyddoedd i ddinas Elbasan. Roedd Zef yn gorfod aros i gyfieithu mewn cyfarfod pwysig gyda’r llywodraeth, felly doedd ddim yn dod gyda ni. Roedd y daith drwy’r mynyddoedd yn bur wahanol i’r un gyfatebol dair mlynedd yn ôl. Roedd rhannau newydd o’r ffordd wedi cael eu hadeiladu, a thwnel mawr drwy’r mynydd. Felly er fod rhannau helaeth heb eu cwblhau, roedd y daith yn llawer llai peryglus, a’i hyd tua hanner yr hyn brofais y tro diwethaf. Mae Elbasan ei hunan yn hen ddinas, ond adeg y Comiwnyddion daeth yn ganolfan ddiwydiannol fawr, gyda ffatrïoedd dûr a diwydiannau trwm eraill. Mae llawer o’r diwydiannau hyn wedi crebachu erbyn hyn, ond mae’n parhau yn ddinas bwysig. Mae mewn ardal Foslemaidd o’r wlad, a Zef yn dweud ei fod yn lle anodd iawn i weithio ynddo.

Yn Elbasan fe ddaeth Altin i’n cyfarfod. Mae ef wedi bod yn gweithio i fudiad yr undebau Cristnogol yma ers pum mlynedd. Mae’n gyfrifol hefyd am arwain eglwys yn Elbasan ar y cyd gydag un henuriad arall. (Y tro diwethaf roeddwn yma roedd cenhadwr o’r Unol Daleithiau yn weinidog yno.) Mae’r myfyrwyr wedi bod yn cynnal ymgyrch yr wythnos hon yn y Brifysgol. Ar y nos Fawrth roedden nhw wedi dangos ffilm. Roedden nhw wedi gofyn i mi siarad ar ddwy noson arall yr ymgyrch. Roedd y cyfarfod yn y capel lle mae Altin yn gweinidogaethu. Ymgalsglodd y myfyrwyr yn ara deg (does dim llawer yn digwydd ar amser yma!), ac erbyn rhyw hanner awr wedi pump roedd tua deugain wedi dod at ei gilydd. Roddwn yn cofio amryw o’r myfyrwyr o’r tro roeddwn yma o’r blaen. Roedd gwahanol bethau yn digwydd, ond yna gofynnwyd i mi ddod ymlaen i siarad. Roedd gwraig Altin yn cyfieithu i mi.
Fy thema oedd “Os yw Duw yn bod, pam ei fod mor ddieithr?” Soniais am fel mae Duw yn siarad trwy’r greadigaeth, yna drwy ei ddatguddiad yn y Beibl, ac yn bennaf trwy ei Fab, Iesu Grist. Mae dau beth yn arbennig am gael siarad yma. Er fod y wlad yn dal dan ddylanwad trwm atheistiaeth, mae modd siarad yn blaen iawn am ffydd, ac yn ail, roedd y mwyafrif o’r criw yma yn anghredinwyr. Tua dwsin o’r gynulleidfa oedd yn Gristnogion.
Cafwyd gwrandawiad da, ac wedi hynny bu’r criw yn chwarae volleyball, a gemau eraill y tu allan. Daeth Zef i’n cludo yn ôl i Tirana i’n gwesty – taith o tua hanner awr.

Dydd Iau daeth Zef i’n cyfarfod am frecwast hwyr yn y gwesty. Yna aeth â ni i swyddfa Cymdeithas y Beibl yn Tirana. Altin yw enw’r cyfarwyddwr yma (mae’n un o enwau cyffredin yn y wlad!) ac mae’n un o fy nghyfeillion yma yn Tirana. Mae hefyd yn cyd-arwain eglwys Emaniwel yn y ddinas gyda Zef. Y prosiect mawr ar hyn o bryd yw gorffen cyfieithiad newydd o’r Hen Destament. Zef oedd un o’r tri fuodd yn cyfieithu’r Testament Newydd, a bellach mae’r gwaith o gwblhau y Beibl yn nesáu at ei ddiwedd. Mae nhw’n gobeithio cyhoeddi’r Beibl cyfan ymhen dwy flynedd. Roedd yn braf i Dewi gael gweld yr hyn oedd yn digwydd.

Wedi bod yna, aethom i gwrdd ag un o gyfeillion Zef, cyn troi eilwaith am Elbasan. Y tro hwn roedd Zef yn dod gyda ni, ac ar y ffordd cawsom alw mewn canolfan siopa fawr. Yn Elbasan roedd Dewi a minnau wedi ein gwahodd i gael bwyd gyda theulu yno.
….i’w barhau