Amffitheatr Durres lle merthyrwyd TitusFore Sadwrn aeth Dewi allan yn gynnar gyda Zef. Roedden nhw’n mynd i ardal dlawd o’r ddinas lle roedd profion pêl droed yn cael eu cynnal gan rai Cristnogion. Y cynllun yw fod y goreuon yn cael eu noddi i ddilyn cwrs mewn “academi bêl droed” sy’n cynnwys nid yn unig dysgu sgiliau pêl droed, ond hefyd wirioneddau’r ffydd. Mae’n ffordd o gyrraedd y tlawd yma, a roedd tua wyth-deg o blant wedi cofrestru yno, a nifer o’r hieni hefyd yn dod i weld beth oedd yn digwydd. Mae mudiad Christians in Sport yn annog y math hwn o weithgaredd, a Dewi â diddordeb i weld os gellid gwneud rhybwth tebyg yng Nghymru.

Canol y bore daeth y ddau yn ôl, ac aethom draw i ddinas Durres, ail ddinas fwyaf y wlad. Mae hon ar yr arfordir, heb fod ymhell o Tirana. Mae yna borthladd yma, a llawer o fynd a dod i’r gwledydd cyfagos. Mae’n hen ddinas gyda’i hanes yn ymestyn i’r cyfnod cyn-Rufeinig. Mae ar y Via Ignatia (Illyricum yw’r ardal os edrychwch amdani yn y Testament Newydd) ac yn ôl traddodiad bu Paul yma yn pregethu ar ei ffordd i Philipi, ac yma mertthyrwyd Titus.

Aethom i ddechrau i swyddfa mudiad “Children’s Evangelism Fellowship”, lle cawsom gwrdd â Lluka, sef gweithiwr y Mudiad yn Albania, a Barna, ei oruchwyliwr, sy’n gyfrifol am ran o Ddwyrain Ewrop, ac yn byw yn Rwmania. Roedd yno adnoddau yn nhermau llyfrau a chyrsiau i’w defnyddio gyda phlant. Maent yn wynebu dipyn o her i gynnal y gwaith yn ariannol, gyda nawdd o’r Gorllewin yn lleihau.

Wedi bod yn ymweld â hwy cawsom grwydro ychydig yn Durres, a gweld olion yr Amffitheatr, rhan o fur y Via Ignatia, a chael golwg ar y môr. Yna daethom nôl i Tirana, ac aeth Zef adref at ei deulu, a gadael Dewi a minnau i orffwys. Aethom am dipyn o dro drwy’r ddinas cyn cael bwyd. Mae’r trafod yn troi yn fwy at beth rydym yn ei ddysgu ar y daith, a sut mae cymhwyso’r cyfan i’r sefyllfa adref yng Nghymru.