imageRwyf ar hyn o bryd yng ngwlad Pŵyl, yn mwynhau cwmni tua 900 o Gristnogion – 750 ohonom yn gynadleddwyr, a’r gweddill yn wirfoddolwyr wedi dod i gynorthwyo yng nghynhadledd fawr y Fforwm Ewropeaidd i Arweinwyr Cristnogol, neu ELF fel mae pobl yn ei hadnabod. Mae bob amser yn braf cael dod yma, ac erbyn hyn rwy’n adnabod llawer sydd yma. Cyrhaeddais ddydd Gwener, ac o fewn ychydig o amser wedi dod gwelais Mike Chalmers (fuodd yn gweithio ym Mangor gyda’r myfyrwyr), Huw Williams, sy’n weinidog ar eglwys ryngwladol Turin, ac ambell un arall. Doedd dim cyfarfod nos Wener na bore Sadwrn, felly roedd cyfle i fwynhau cymdeithas, a bore Sadwrn aethom am dro i bentref Wisla lle rydym yn aros.

Prynhawn Sadwrn ymunais â grŵp o arweinwyr eglwysi sydd yn mynd i fod yn trafod egwyddorion adnewyddu eglwysi dros y misoedd nesaf. Mae’r cnewyllyn o tua deg ohonom, dan arweiniad David Brown sy’n weinidog ym Mharis. Roedd eraill wedi ymuno gyda ni am y prynhawn hefyd. Cefais ychydig o syndod wrth i ni gyflwyno ein hunain, gan fod yna un arbennig yn ein plith. Tomas Grulich yw ei enw, ac mae’n weinidog yn y weriniaeth Tsiec. Flynyddoedd yn ôl, wedi cwymp Comiwnyddiaeth yn Nwyrain Ewrop, bu i ni fel eglwys noddi Tomas i fedru dilyn cwrs mewn coleg Beiblaidd er mwyn mynd i’r weinidogaeth. Nid oeddwn wedi ei weld ers 25 mlynedd, felly roedd yn galondid mawr ei weld, ac adnewyddu perthynas.

Mis nos roedd cyfarfod cyntaf go iawn y Fforwm. Mae bob amser yn ysbrydiaeth cael ymuno yn y gynulleidfa amrywiol, gyda dros ddeugain o wahanol genhedloedd yn cael eu cynrychioli yma. Y prif siaradwr yn y cyfarfod hwn oedd Terry Virgo, sefydlydd ac arweinydd eglwysi Newfrontiers. Fe’n arweiniodd ni at eiriau Paul i Timotheus : ‘Diben y gorchymyn hwn yw’r cariad sy’n tarddu o galon bur a chydwybod dda a ffydd ddiffuant.’ (1 Timotheus‬ ‭1:5‬ ‭BCN‬‬). Trwy edrych ar nod a dulliau Paul yn ei weinidogaeth heriodd ni i ddilyn yr un patrwm. Roedd yn neges glir a chymwys iawn i ddechrau’r fforwm.

Dechreuodd dydd Sul gyda sesiwn amser brecwast i fentora gweinidog o Serbia. Roeddwn yn adnabod hwn ers sawl blwyddyn. Roedd yn sesiwn anodd iawn, gan ei fod wedi ei glwyfo’n fawr ac yn dangos llawer o symptomau o fod wedi llosgi allan. Roedd ar y naill law yn teimlo na fedrai byth wynebu’r weinidogaeth eto, ac eto yn teimlo mai dyna ei alwad. Cawsom ddwy awr ddwys iawn, ond yn y diwedd yn gweld llwybr mlaen. Y gwir yw fod y clwyfau mae wedi eu derbyn yn rai y mae llawer yn y weinidogaeth yn eu profi. Dyna pam fod gweddïo dros arweinwyr yr eglwysi yn waith mor bwysig.

Wedi brecwast cafwyd sesiwn lle roedd pawb efo’u gilydd yn addoli ac arweiniwyd ni mewn darlleniad Beiblaidd gan John Piper. Mae’n edrych ar lythyr Paul at y Philipiaid yr wythnos hon, a’r ffocws bore ma ar y bennod gyntaf, a chymhelliad a nod yr apostol Paul. Roedd yn sesiwn gynnes a chynorthwyol ar ôl tensiynau y mentora.

Wedi hynny roedden yn rhannu yn ffrydiau, gyda mi yn ymuno gyda ffrwd apologeteg. Mae tua ugain ohonom yn edrych ar nifer o bynciau wrth feddwl am wynebu cwestiynau mawr y dydd. Cafwyd dwy sgwrs – y naill yn edrych ar y cyfiawnhad Beiblaidd dros apologeteg, yn canolbwyntio ar hanes Paul yn Athen. Yna, yn yr ail ddarlith fe welwyd sut mae proffwydoliaethau roddwyd am Iesu, a gan Iesu yn y Beibl, ac sydd wedi dod yn wir, yn ddadl o blaid geirwiredd y Beibl.

Yn ystod y bore hefyd roedd fy nghyfaill, Slavko Hadzic o Sarajevo, yn rhannu am ei waith fel gweinidog ym Mosnia Herzegovina, ac yn mynd i brifysgolion yn Ewrop yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd efengylu.