imageRoedd dydd Mawrth yn bygwth bod yn ddiwrnod llawn iawn. Roedd gen i dair sesiwn mentora, gyda thri o weinidogion o wledydd gwahanol (Lithwania, Gwlad Pŵyl a Rwmania), a chyfarfodydd drwy’r dydd. Roedd John Piper yn glir iawn yn y bore yn ein harwain i ystyried athrawiaeth cyfiawnhad drwy ffydd gan ganolbwyntio ar drydedd bennod y llythyr at y Philipiaid. Dangosodd pa mor bwysig yw sefyll dros yr athrawiaeth yn wyneb rhai o’r tueddiadau sy’n bodoli heddiw ymhlith pobl efengylaidd.

Cawsom ddwy ddarlith eto yn y ffrwd apologeteg. Roedd un braidd yn athronyddol, yn edrych ar y dadleuon ar Dduw, y creu ac esblygiad. Doedd hon ddim yn ddarlith wnaeth afael yn llawer ohonom. Ond yn yr ail ddarlith cawsom ein cyfareddu gan Jerry Root o’r Unol Daleithiau. Roedd yn ein hatgoffa fod apologeteg yn aml yn mynd i edrych ar ddadleuon y tu allan i’r Ysgrythur, lle mae neges yr efengyl yn cynnwys ei hapologeteg ei hun. Mae Jrry yn storïwr gwych, ac felly yn gallu dangos fel roedd hyn yn gweithio allan mewn amgylchiadau gwahanol.

Gan fy mod yn hynod o flinedig, a’r sesiynau mentora yn eithaf trwm, dim ond un o ddarlithoedd y prynhawn a fynychais. Yma roedd Terry Virgo yn sôn am y gwaith o blannu eglwysi. Roedd yn gynnes yn ei gyflwyniad. Mae ef ei hun wedi bod yn gyfrifol am gychwyn eglwysi New Frontiers ac wedi bod yn llwyddiannus iawn yn hyn. Ond dangosodd fel mai gwaith anodd oedd mewn gwirionedd.

Min nos cefais fy hun mewn trafodaeth ddwfn gyda Jay Smith, Beth Moore a Hatun, tri sy’n weithgar yn efengylu i Foslemiaid. Roedd y sgwrs yn fywiog ac yn heriol. Roeddent yn dadansoddi’r sefyllfa yn Ewrop ac yn dangos fel mae modd cyrraedd y bobl hyn. Roedd yn ddiddorol fel roedd Beth yn ferch ond heb ofn yn herio a thrafod gyda dilynwyr Islam. Yr hyn oedd yn fwyaf trawiadol oedd Hatun, y ferch ddaeth o Dwrci i Loegr rai blynyddoedd yn ôl. Mae mor eiddil yr olwg, ond mae yna gryfder yn ei chymeriad a baich dros efengylu i rai sy’n gaeth i Islam. Gofynnodd i mi weddïo y byddai ganddi ddewrder i sefyll yn gadarn – a hon yw’r un sy’n mynd i mewn i fosgiau yn Llundain am 4 y bore i ddadlau o blaid yr efengyl!

Fore Mercher roeddwn wedi bwrw dipyn o flinder, a chefais osgoi mentora amser brecwast gan fod yr un oedd fod cyfarfod â mi yn sâl. Treuliais y bore felly gydag Americanwr sy’n teithio drwy Ewrop ar ran ei eglwys i ddeall y sefyllfa yma er mwyn iddyn nhw fuddsoddi mewn cenhadaeth gyfrifol.

Roedd John Piper yn feistrolgar yn ein harwain i feddwl am weddi yn ei anerchiad heddiw. Fe’n harweiniodd drwy’r llythyr at y Philipiaid i ddangos fel roedd Paul yn ystyried na fyddai ei waith yn dwyn dim ffrwyth heb weddïau Cristnogion cyffredin Eglwys Philipi. Mae rhai yn cyhuddo Calfiniaid o beidio cymryd efengylu neu weddi o ddifrif, ond dyw hyn ddim yn wir am y Calfinydd hwn. Roedd yna ysbryd arbennig yn y y cyfarfod a hiraeth am fedru treiddio mwy i gyfrinach gweddi daer.

Yn y ffrwd apologeteg cafwyd trafodaeth banel ar babyddiaeth yn gyntaf, ac yna cawsom ddarlith ar ymateb i’r ddadl ar briodas un-rhyw gyda gras a gwirionedd. Roedd yn fore diddorol a gras yn amlwg yng nghalonnau’r siaradwyr a’r trafod. Un o gryfderau’r fforwm yw ein bod i gyd yn dod o lefydd gwahanol felly does dim posib ein bod yn dod mewn ysbryd i gystadlu â’n gilydd. Mae’r gymdeithas yn braf, a thros yr wythnos rydym yn cael cyfle i ddysgu am sefyllfaoedd ein gilydd.

Mae’r fforwm yn tynnu at y diwedd – daw un adroddiad arall mae’n siŵr – ond mae cyfeillgarwch yn cael ei ffurfio fydd yn parhau am flynyddoedd.