Rwyf unwaith eto wedi cyrraedd Gwlad Pŵyl ar gyfer Fforwm Arweinwyr Ewrop (ELF). Mae’r gynhadledd yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i mi, wrth weld dros 600 o arweinwyr o wahanol feysydd n dod at ei gilydd i feddwl, trafod, dysgu, herio a gweddīo. Eleni yw’r ddegfed flwyddyn i mi ddod yma, felly rwy’n adnabod llawer sy’n rhan o’r gwaith, a’r tro hwn mae amryw o Gyrmy wedi eu gwahodd i ddod, felly mae’n gyfle i eraill weld beth sy’n digwydd.

Cyrhaeddais Krakow nos Iau gyda John Perry a Mark Thomas, ac wedi aros yno dros nos, fe adewais y ddau gan deithio i Wisla lle mae’r gynhadledd. Roedd fy nghyd-deithwyr yn cyfarfod ag eraill oedd yn dod o dde Cymru ddydd Gwener, a’u bwriad hwy oedd aros y diwrnod yng Nghrakow, a bore dydd Sadwrn mynd ymlaen i Auschwitz. Bum i yno rai blynyddoedd yn ôl, ac roedd gennyf fi gyfarfodydd yn Wisla Nos Wener a bore Sadwrn.

Cyfarfod Ffrindiau Hen a Newydd
Un o fendithion dod yn ôl yma yw fy mod yn cyfarfod â rhai rwyff wedi dod i’w hadnabod dros y blynyddoedd. Ar y bws o’r Maes Awyr i Wisla un o’r rhai cyntaf i mi sgwrsio â hwy oedd Glynn Harrison, Athro Emeritws mewn Seiciatreg o Brifysgol Bryste. Mae wedi ysgrifennu llyfrau cynorthwyol ar hunaniaeth a pherthynas rywiol. Mae’n Gristion dewr sy’n barod i sefyll dros yr hyn mae’n ei gredu mewn byd lle amheuir argyhoeddiadau a safonau Cristnogol.
Yna bûm yn sgwrsio â William Mackensie, sef sylfaenydd gwasg Christian Focus. Dyma’r tro cyntaf i ni gwrdd, ond roedd y nifer o bobl roeddem ein dau yn eu hadnabod yn golygu ein bod yn gallu rhannu yn braf a rhwydd gyda’n gilydd.
Un arall yma oedd Zef, cyfaill agos o Albania, oedd newydd fod mewn cynhadledd gyda Heledd yn yr Almaen. Wedi cyrraedd y gwesty yn Wisla roedd y wynebau cyfarwydd yn llu gyda chyfeillion o Serbia, Bosnia, yr Unol Daleithiau, yr Almaen a sawl gwlad arall.

Trafod adfywio Eglwysi

Nos Wener a bore Sadwrn roeddwn yn treulio amser gyda grŵp sydd wedi bod yn cwrdd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i drafod adfywio eglwysi. Rydym wedi cael sawl ymgynghoriad ar y we, yn ogystal â chyfarfod llynedd yn ELF, a chael tri diwrnod gyda’n gilydd ym Mudapest fis Rhagfyr. Roeddem yn tynnu’r mwdwl ar ein trafod yma, ond yn bwriadu cadw mewn cysylltiad â’n gilydd.

Cyfarfod cyntaf y Fforwm

Yna neithiwr (nos Sadwrn) roedd cyfarfod mawr cyntaf y Fforwm. Erbyn hyn roedd nifer o Gymry wedi cyrraedd – Phil Swann, Dave Norbury, yn ogystal â Mark. John ac amryw eraill. Roedd yn braf cael ymuno eto gyda thyrfa ryngwladol i ganu clod i’n Harglwydd, cyn cael anerchiad gan Leonardo di Chrico, gweinidog ar eglwys Brotestanaidd yn Rhufain. Y cwestiwn roedd ef yn ei holi oedd “A yw’r Diwygiad drosodd?” Mae’n bum can mlynedd ers protest Martin Luther ynglŷn â chyflwr a daliadau’r eglwys Babyddol. A ydym yn gallu dweud fod y brotest drosodd, ac a yw’r eglwys Babyddol a’r eglwysi Protestanaidd bellach yn un yn eu daliadau ar y sylfeini Cristnogol?
Dangosodd Leonardo fel ag y mae honiadau’r Pab Francis, a datganiadau’r Eglwys Babyddol yn dal i wrthod credo mawr y Diwygwyr Protestanaidd ein bod yn cael ein hachub trwy ras yn unig, a thrwy ffydd yn unig, ar sail gwaith Iesu ar y groes. Mae’r brotest yn parhau.
Wedi’r cyfarfod cafwyd awr o ymlacio gyda’r Cymry eraill sydd wedi cyrraedd yma, cyn noswylio.