Martin Luther y DiwygiwrRwy’n ysgrifennu hwn yng nghysgod y gyflafan fawr ym Manceinion, gyda’r newydd fod ffrwydriad yno wedi lladd amryw. Felly pam sôn am ryw fforwm ynghanol Ewrop pan mae pethau ofnadwy fel hyn yn digwydd yn ein byd?
Os rhywbeth, mae’r weithred derfysgol ym Manceinion yn pwysleisio fwy nag erioed pam fod gwaith y Fforwm hin yn bwysig. Ffocws y Fforwm yw rhoi’r cymorth i ni ail-ennill y cyfandir i Grist, trwy arfogi’r eglwys ar gyfer ei thasg. Gallwn hau ofn ymhlith ein cenhedlaeth fel y gwna’r terfysgwyr; neu gallwn gyhoeddi efengyl sy’n cymodi gelynion, ac yn arbennig yn cymodi pobl wrthryfelgar â’u Crëwr. Does dim tasg mwy pwysig yn ein wynebu y dyddiau hyn na gwneud yn siwr fod ein cenhedlaeth ni yn clywed y neges am Iesu Grost, a’i chlywed mewn ffordd fydd yn ei gwneud hi’n glir iddyn nhw fod ei derbyn yn golygu bywyd, ond bod gwrthod y neges yn gyfystyr â chofleidio tywyllwch di-ben draw.

Bu dydd Llun yma yn dilyn y patrwm arferol – brecwast rhwng 6.30 â 8.30; cyfarfod i bawb lle bu John Lennox yn ein harwain ymhellach i feddwl am lyfr yr Actau ac yna rhannu i’n gwahanol ffrydiau i weithio drwy weddill y bore.
Mae’r ffrwd rwy’n rhan ohoni eleni yn cynnwys wyth ohonom ynghyd â dau arweinydd. Mae’r rhai eraill yn y grŵp yn cynnwys gweinidogion o Rwmania, y Weriniaeth Tsiec, Hwngari a Montenegro, cenhadwr o wyddel sy’n gweithio ym Mhortugal. Rhan o fwriad y grwp, yn ogystal ag astudio, yw dod inadnabod a chefnogi ein gilydd. Mae’r trafod yn ddiddorol a dwys, ond hefyd yn hwyliog iawn ar adegau.
Yn ystod y prynhawn roedd arddangosfa o wahanol fudiadau sy’n gweithio yn Ewrop. Yn y cyfamser bum innau yn recordio fideo am fy ngwaith a’m cysylltiad â’r fforwm. Mae hwn yn cael ei baratoi i roi gwybodaeth am y Fforwm. Mae llawer o nawdd yn dod o’r Unol Daleithiau, a bydd y math hwn o fideo yn rhoi gwybodaeth i’r noddwyr am yr hyn sy’n digwydd. Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i egluro i eraill am y cyfleon a ddaw o ddod i’r Fforwm.

Yn y sessiwn i bawb yn y nos cafwyd anerchiad ar bwysigrwydd a pherthnasedd y Beibl i’n cenhadaeth yn Ewrop, gan ddal ar yr ymadrodd Sola Scriptura o gyfnod y Diwygiad Protestanaidd. Mae llawer o themáu’r cyfarfodydd eleni yn clymu i mewn i ddathlu 500 mlynedd ers dechrau’r Diwygiad. I ni yng Nghymru cofio Pantycelyn yw’r thema fawr, ond ni fyddem wedi cael emynau Williams heb fod y Diwygiad Protestanaidd wedi dod dau gan mlynedd cyn geni ein Pêr Ganiedydd.

Rhof fwy o wybodaeth eto, ond yn y cyfamser rydym yn meddwl a gweddïo dros bobl Manceinion.