Michael Reeves

Er ei bod yn hawdd canolbwyntio ar y siaradwyr mawr mewn adroddiad fel hwn, un o fendithion y Fforwm yw’r cyfle i glywed am bobl sy ddim mor amlwg. Bob nos, yn y prif gyfarfod, ceir cyfweliad gyda rhywrai sydd â gweinidogaeth na fyddem yn debygol o glywed amdani. Er enghraifft, ar nos Lun rhoddwyd tystiolaeth gan Ramez Atallah sy’n gweithio yn yr Aifft. Roedd ei deulu o’r wlad honno, ond symudodd i Ganada pan yn ifanc, a daeth yn Gristion yno. Wedi rhai blynyddoedd yn gweithio yn y Gorllewin teimlodd yr alwad i fynd yn ôl i’r Aifft, lle mae’n gweithio i Gymdeithas y Beibl. Rhan o her ei waith yw gwybod sut bethau i’w cyhoeddi mewn gwlad lle mae Islam yn brif grefydd. Soniodd am ddigwyddiad rai blynyddoedd yn ôl yr oeddem i gyd yn gallu ei gofio. Roedd criw o weithwyr oedd yn Gristnogion yn Libya, ac fe roddwyd ffilm ar y we yn eu dangos yn penlinio ar draeth yno mewn rhes, a thu ôl iddyn nhw, rhes o ryfelwyr ISIS. Rhoddwyd cyfle i’r rhain droi at Islam, ond bob yn un roeddent yn gwrthod, a’r canlyniad oedd cael eu lladd. Roedd yr effaith ar bobl yr Aifft yn syfrdannol. Roedd Ramaz Atallah yn mynd i mewn i’w swyddfa y bore wedi hwn gael ei ddarlledu yn ddigalon, heb wybod sut gallen nhw ymateb i hyn yn gyhoeddus. Ond wrth gyrraedd ei waith gwelodd ei ysgrifenyddes gyda gwên enfawr ar ei hwyneb. Dywedodd hi wrtho – “Ar hyd fy oes rydw i fel Cristion Coptig wedi cael fy nysgu ein bod yn perthyn i draddodiad o ferthyron, ond tydw i byth wedi gallu teimlomei fod yn real. Ond dyma fi rwan yn gallu dweud mai dyma yn wir yw ein heglwys – eglwys y merthyron.” Roedd y digwyddiad wedi rhoi hyder iddi. Roedd arlywydd y wlad wedi cyhoeddi saith diwrnod o alar, ac wedi ymweld â theuluoedd y rhai a laddwyd. Roedden nhw’n ddynion anllythrennog o deuluoedd cyffredin, ond wrth eistedd ar y llawr gyda dwy o famau y merthyron, fe ryfeddodd yr arlywydd wrth weld y grwagedd hyn yn galaru, ac eto yn maddau i’r rhai gyflawnodd y fath drosedd, a dweud eu bod yn gweddïo y bydden nhw’n dod o hyd i faddeuant yng Nghrist. Cyhoeddwyd cerdd gan Gymdeithas y Beibl aeth drwy’r wlad i gyd, a darllenodd Ramez y gerdd, dan deimlad mawr, i ni gyd. Yn fuan wedyn roeddem yn clywed yma am gyflafan Manceinion. Mae cariad Crist yn herio y fath ddrygioni sydd ar waith yn ein byd.

Un arall o fendithion y Fforwm yw cael dilyn rhai y bum yn eu cynorthwyo yn y gorffennol. Eleni, er enghraifft mae’n braf siarad â dau weinidog y cefais sessiynau gyda hwy y llynedd. Roedd y ddau ar y pryd yn ystyried o ddifrif gadael y wenidogaeth, a’r pwysau bron â’u llethu yn llwyr. Eleni mae’r ddau yn llawn llawenydd, wedi llwyddo i ail afael yn eu gweinidogaeth ac yn obeithiol am y dyfodol. Roedd hyn yn gymorth i minnau wrth i mi gael sessiwn debyg ddoe gydag un o Slavakia sydd dan bwysau mawr, ac yn ystyried os dylai barhau yn y weinidogaeth. Cawsom sgwrs hir, ac rwy’n obeithiol y bydd yntau yn gallu dod o hyd i ffordd ymlaen.

Neithiwr yn y prif gyfarfod roedd Michael Reeveso Loegr, sy’n arwain coleg UNION (Coleg Bryntirion gynt), yn ein hannerch. Ei thema oedd “Y Cyfnewidiad Llawen” sef athrawiaeth cyfiawnhad trwy ffydd yn unig. Dyma’r gwirionedd gafodd ei ail ddarganfod gan Martin Luther a sy’n dal yn un o bileri sylfaenol ein ffydd. Arweiniodd Michael ni drwy daith ysbrydol Luther, ac yna tynnu allan y cysur ddaw i Gristnogion o’r athrawiaeth. Mae rhyfeddod y ffaith fod y Gwaredwr yn cymryd ein beiau ni, gan wynebu eu canlyniadau, ac yn eu lle yn rhoi i ni ei gyfiawnder ei hun bob amser yn cynhesu calon Cristion. Ac nid mater o’n bod ni yn rhoi rhywbeth i Grist ac yntau yn rhoi rhywbeth i ni yn ei le yw hwn. Mae Crist yn ei roi ei hun i ni, a chawn ein gwisgo â’i gyfiawnder yn hardd gerbron y Tad!