Lindsay Brown

Rhan o fy nghyfrifoldeb yn Fforwm fel arfer yw mentora rhai dynion. Eleni roeddwn wedi gofyn am gale gwneud llai o hyn, ac fe roddodd hynny gyfle i mi fedru cyfarfod amryw roeddwn wedi bod yn eu helpu yn y gorffennol. Ond wrth dynnu at ddiwedd yr wythnos, fe drefnwyd i mi geisio cynorthwyo dau. Roedd y cyntaf yn weinidog yn Slovakia a hwnnw yn wynebu argyfwng amlwg yn ei weinidogaeth. Bu’r awr yn ei gwmni yn ddwys, a minnau yn ceisio ei helpu i weld ei ffordd ymlaen. Fe’m hatgoffwyd mor hawdd yw hi i’r diafol ddigalonni gweithwyr Duw. Bydd galw ar i mi gadw mewn cysylltiad ag o dros y flwyddyn nesaf. Roedd yr ail mewn sefyllfa pur wahanol. Mae’n arwain “Think Tank” Cristnogol yn Sweden, a’r anhawster iddo yw gwybod sut i drefnu ei amser, a pa gyfrifoldebau sy’n rhaid iddo eu hysgwyddo. Roeddwn yn gorfod ei atgoffa nad yw Duw yn disgwyl iddo wneud mwy nag y gall ei egni a’i ddoniau eu cyflawni. Rhaid iddo ofalu am ei berthynas â Duw yn gyntaf, ac yna rhoi’r amser priodol i’w deulu. Felly roeddwn yn ei annog i edrych am bobl gyda’r sgiliau priodol i ysgwyddo’r baich am rai pethau yn ei waith. Wrth gwrs mae bob amser yn haws rhoi cyngor i eraill, nag yw i ddilyn yr un cyngor fy hunan!
Bu John Lennox yn ein harwain eto i lyfr yr Actau ddoe, a’iy driniaeth mor feistrolgar ag arfer. Yna bûm gyda’r criw sy’n mynd i fod gyda’n gilydd am y flwyddyn nesaf yn edrych ar faes creu disgyblion. Ar ddiwedd ein hamser gyda’n gilydd fe gawsom bentwr mawr o lyfrau fydd yn ffurfio maes ein hastudio dros y flwyddyn. Yna cefais dair awr gyda dau arweinydd y grwp yn edrych ar amryw bethau.
Yng nghyfarfod mawr olaf y Fforwm cawsom ein harwain gan Lindsay Brown i feddwl am ffrwyth y Diwygiad Protestanaidd. Rhoddodd amlinelliad meistrolgar o ganlyniadau’r Diwygiad, gan orffen yn ein herio’n gryf i wynebu sialens ein dydd ni. Go brin y gellid fod wedi gorffen y Fforwm ar nodyn gwell. Pa ddiben cofio’r gorffennol heb ei fod yn ein symbylu i fod yr hyn ddylem fod i’r genhedlaeth rydym ni yn rhan ohoni?