Baner Albania

Mae’r wlad yma yn llawn o bob math o ddylanwadau. Mae ei baner yn dangos eryr gyda dau ben – y naill yn edrych i’r dwyrain, a’r llall i’r gorllewin. Baner yn mynd yn ôl i’r ymherodraeth Bysantin, lle roedd dwy gangen fel petai – un yn ymestyn i Erwop, a’r llall i’r Dwyrain Canol. O fewn tafliad carreg i’w gilydd bron mae Mosg anferth, Eglwys Gadeiriol yr Eglwys Uniongred Roegaidd gyda’r dylanwad o’r de, ac Eglwys Gadeiriol Babyddol gyda dylanwad Rhufain. Ar ben hyn wrth gwrs mae ôl y cylanwad Comiwnyddol eithafol sy’n golygu fod athesitiaeth yn amlwg iawn yn y wlad.
Yn wleidyddol mae’r etifeddiaeth o lygredd wedi gwneud pawb yn sinigaidd iawn o’r llywodraeth. Roedd yr argyfwng economaidd ddaru daro Groeg wedi effeithio’n fawr ar y wlad, gyda tua 300,000 o Albaniaid yn dychwelyd o Athen, ac wrh gwrs, dim gwaith ar eu cyfer.
Ond erbyn hyn mae’n ymddangos fod rhai pethau yn newid. Diswyddwyd nifer o uchelswyddogion a barnwyr y wlad am eu bod yn gwrthod ymchwilio i achosion o lwgrwobrwyon a chamymddwyn ariannol. Mae’n bosib mai’r prif reswm am hyn yw fod Albania yn edrych tuag Ewrop, ac yn gobeithio ymuno â’r farchnad gyffredin erbyn tua 2015. Ond i lawer y dynfa i adael y wlad yw’r atyniad mawr.

Ynghanol hyn i gyd mae’r eglwysi newydd yn ceisio gweithio. Yn wir mae’n syndod fel ag y mae Cristnogion yn wynebu eu cyfrifoldeb yma, gyda sawl un yn y llywodraeth yn arddel ffydd efengylaidd.

Roedd dydd Gwener yn ddiwrnod eithaf tawel i mi – cyfle i ddarllen, paratoi, a mwynhau ychydig o’r haul braf oedd yn tywynnu drwy’r dydd. Ddiwedd y prynhawn daeth Zef a’i deulu heibio i’m codi, a rydym bellach wedi cyrraedd Durres – dinas ar yr arfordir – lle mae cynhadledd yn cael ei chynnal. Mae hon yn gynhadledd ar gyfer graddedigion fuodd yn rhan o fudiad y myfyrwyr Cristnogol, ond sydd bellach ym myd gwaith. Rydym yn aros mewn gwesty ar lan y môr gyda thraeth o dywod gwastad yn ymestyn am bellter i bob cyfeiriad. Mae’n borthladd pwysig, a llongau mawr yn mynd a dod. Yn yr haf mae’n ganolfan ymwelwyr a’r lle yn gorlifo gyda theuluoedd yma ar eu gwyliau.

Machlud Haul yn Durres

Mae’r gynhadledd hon yn defnyddio sgyrsiau ar dvd o’r Unol Daleithiau, o gynhadledd ‘Global Leadership Summit’. Does dim byd penodol Gristnogol yn y sgyrsiau. Mae cyfle wedyn i drafod a dyma pryd mae’r cymhwyso Cristnogol yn dod i mewn. Cyfarch rhai sy’n gweithio mewn pob math o feysydd gwahanol yw’r bwriad. Mae’r sgyrsiau yn amrywio mewn cynnwys a gwerth, a’r trafod sy’n gosod cywair y cyfan. Bore Sadwrn gofynwyd i mi agor gyda sgwrs, felly fe soniais am Nehemeia yn mynd ati i adeiladu muriau Jerwsalem. Cafwyd ymateb da, a sawl un yn dod wedyn i siarad a holi.

Ymhlith y rhai sydd yma mae Geni a Nicky o Memalja. Mae Geni yn weinidog, ac yn cael ei gefnogi gan eglwys Ebenezer ym Mangor. Mae Nicki, ei wraig, yn gweithio i BSKSH yn nhref Girokaster. Fe fum hefyd yn siarad gyda meddygon, gweithwyr Cristnogol, ymgynghorwyr yn gweithio ym myd cyfrifiaduron a hyd yn oed cynhyrchydd ffilmiau.

Mae’n braf iawn o ran tywydd yma yn Durres, a bore fory byddwn yn dychwelyd i Tirana i mi bregethu yn yr eglwys yno.