Mynychwyr y gynhadledd yn Durres

Bore Sul, wedi brecwast yn Durres, cawsom ddychwelyd i Tirana. Yma fe’m croesawys gan amryw oedd yn fy nghofio o’r troeon y bum yma o’r blaen. Dechreuodd yr oedfa gydag Altin, un o’r henuriaid yn croesawu pawb, a darllen o Efengyl Ioan 15. Yna safodd pawb i ganu, yn cael ein harwain gan dri yn y blaen, un yn chwarae byseddfwrdd, a’r lleill yn cynorthwyo gyda’r canu. Roedd y caneuon yn gymysgedd o rai roeddwn yn eu hadnabod wedi eu cyfieithu o’r Saesneg a rhai gwreiddiol. Mae’n braf eu bod yn meithrin traddodiad o sgwennu eu hemynau eu hunain, ar donau sy’n fwy tebyg i’w traddodiadau cerddorol eu hunain.
Wedi canu pump o emynau, fe ofynnodd Altin os oedd yna unrhyw geisiadau am weddi, ac yna cafwyd cyfnod o weddi agored, gyda thri yn gweddïo. Wedyn fe’m croesawyd i a’m gwahodd i ddod i bregethu. Fy nhestun oedd Effesiaid 1:18-20 gan eu gwahodd i ystyried daioni Duw tuag at ei bobl. Roeddwn yn eu hannog i edrych uwchlaw ansicrwydd eu sefyllfa eu hunain at ogoniant eu hetifeddiaeth yng Nghrist, a rhoi eu hyder yng ngallu Duw i’w cadw ar gyfer meddianu’r etifeddiaeth honno.

Wedi’r oedfa aeth Zef a’i deulu gydag Altin a’i deulu a minnau i gael pryd o fwyd. Mae’r rhain yn feirniaid arbennig o fwyd, ac roeddem yn mynd i un o fwytai gwell y ddinas, wedi ei leoli o dan Gasino mawr ynghanol Tirana! Y fendith fwyaf i mi oedd sgwrsio gydag Altin.

Yn gyntaf, roedd yn werthfawrogol fy mod yn dangos ffyddlondeb iddyn nhw drwy ddod yn ôl. Roeddwn yn cael yr argraff ei fod yn mynd yn rhwystredig gyda phobl yn gweld Albania fel prosiect dros dro, ac yma am ychydig cyn gadael i feddwl am lefydd eraill. Mae hyn yn galondid ac yn her i mi. Mae’n hawdd iawn bod â gofal am ychydig, ond mae cyfaill a lŷn yn well na brawd!

Yn ail, mae Altin yn ysgrifennydd Cymdeithas y Beibl yma yn Albania, a prosiect mawr y rhain ers blynyddoedd fu paratoi cyfieithiad newydd o’r Beibl yn eu hiaith nhw. Bu Zef yn bennaf gyfrifol am baratoi’r Testament Newydd rai blynyddoedd yn ôl. Mae’r gwaith ar yr Hen Destament bron a dod i ben, ac fe ddylai fod yn y wasg ymhen blwyddyn. Yr hyn sy’n arwyddocaol yw mai dyma fydd y tro cyntaf iddyn nhw gael fersiwn wedi ei gyfieithu o’r ieithoedd gwreiddiol. Hyd yma mae’r cyfieithiad mwyaf cyffredin yn seiliedig ar y Fwlgat. Felly mae’n ddigwyddiad o arwyddocad mawr. Maent hefyd yn adolygu’r Testament Newydd, gyda Zef yn son am un newid sydd angen ei wneud wedi dod i’w sylw wrth i mi arwain astudiaeth gyda’r myfyrwyr meddygol rai dyddiau’n ôl.
Yr her i Altin bellach fydd codi 150,000 euro i dalu am y cyfieithiad hwn. Tybed oes modd i ni yng Nghymru helpu mewn rhyw ffordd.