Dyma ni wedi cyrraedd dydd gŵyl Ystwyll, sy’n nodi diwedd tymor y Nadolig. Dathlwyd y dydd hwn i gofio’r doethion o’r Dwyrain yn dod i addoli’r Brenin yn y crud. Rydym ninnau wedi cael cyfle dros bump wythnos i feddwl am arwyddocád y wyrth fwyaf erioed – Duw ymddangosodd yn y cnawd.

Gyda’r ymddangosiad hwn rydym gobeithio wedi teimlo diolchgarwch, cywilydd, rhyfeddod a gorfoledd:

Diolchgarwch am nad yw Duw wedi gadael ein byd yn ddi-obaith; cywilydd o sylweddoli mai ein gwrthryfel ni barodd i ni fod angen Gwaredwr; rhyfeddod am mai nid angel anfonodd Duw atom, ond dod ei hun mewn Mab, a hwnnw’n dod i roi ei fywyd trosom; gorfoledd, am fod rhai mor anheilwng â ni wedi ein cymodi â’r Duw y buom mor elyniaethus tuag ato, wedi ein mabwysiadu yn blant iddo, wedi ein hail eni i fywyd newydd, ac wedi dechrau mwynhau heulwen ei ogoniant Ef yn llewyrchu i’n calonnau.

Duw a’n cofiodd, Duw a’n carodd,
Duw osododd Iesu’n Iawn;
Duw er syndod ddarfu ganfod
Trefn gollyngdod inni’n llawn.
Duw ryfeddir, iddo cenir
Gan drigolion nef a llawr,
Tra bydd Iesu, fu mewn gwaeledd,
‘N eistedd ar yr orsedd fawr.

Ond fel mae’r pennill hwn o’r garol yn awgrymu – nid dyna ddiwedd y stori. Fe wnes i sôn ar gofnod Rhagfyr yr 2il fod hanes y geni yn rhan o stori llawer mwy. Os gwelodd y doethion eu Crëwr yn gorwedd mewn crud, a phlygu i’w addoli – yr hyn a elwir yn Saesneg yn epiphany (ymddangosiad), mae yna ymddangosiad arall yn mynd i ddod. Daw Crist eto, nid fel baban ond fel Brenin ar gymylau’r nef. Mae yna edrych ymlaen yn ogystal ag edrych yn ôl i Gristnogion.

Mae Ioan yn llyfr Datguddiad yn ein cyfeirio at y digwyddiad hwn, gan nodi dau wahanol ymateb i ail-ymddangosiad Crist. Ar ddechrau’r llyfr cawn ymateb y rhai a’i gwrthododd: Wele, y mae’n dyfod gyda’r cymylau, a bydd pob llygad yn ei weld, ie, a’r rhai a’i trywanodd, a bydd holl lwythau’r ddaear yn galaru o’i blegid ef.(Datguddiad 1:7) Yna ar ddiwedd y llyfr cawn ymateb y rhai a’i derbyniodd, a’r llawenydd gânt o wybod na chânt eu gwahanu oddi wrtho byth eto:Y mae’r sawl sy’n tystiolaethu i’r pethau hyn yn dweud, “Yn wir, yr wyf yn dod yn fuan.” Amen. Tyrd, Arglwydd Iesu! (Datguddiad 22:20). Ar ba ochr o’r clawdd ydym ni yn sefyll tybed? Beth am edrych yn ôl dros y myfyrdodau hyn eto, a nodi’r hyn sy’n eich taro. Ac os hoffech gysylltu, mi fyddwn i wrth fy modd yn clywed gennych.

Mi fyddaf yn parhau i osod cyfnodion ar y wefan (efallai ddim mor rheolaidd ag yn ystod y pump wythnos diwethaf!). Bydd y cynnwys efallai yn llai defosiynol weithiau, ond gobeithio y cewch fendith yn eu darllen.