Ryden ni’n clywed pobl yn gofidio yn aml y dyddiau hyn nid yn unig fod Cristnogaeth yn ein gwlad yn colli ei dir, ond fod Cristnogion yn wynebu mwy a mwy o anhawsterau – mae rhai yn cwyno os fydd Cristion yn dangos ei ffydd yn rhy amlwg yn y lle gwaith trwy wisgo croes. Mae un arall wedi methu cael dyrchafiad, neu hyd yn oed wedi cael ei ddiraddio yn ei swydd oherwydd ei agwedd at rywioldeb. Mae safonau moesol yn y gymdeithas yn newid, a Christnogion weithiau yn cael eu cyhuddo o ragfarn dall anoddefgar drwy fynu bod hyn yn anghywir.

Tybed ydi’r eglwys yn ymateb yn gywir yn y sefyllfaoedd hyn? Meddyliwn am yr eglwys fore. Dros dair canrif roedd yr eglwys yn llwyddo i gynyddu 40% bob degawd, a hynny yn wyneb amgylchiadau anodd tu hwnt. Fel hyn mae un hanesydd yn ysgrifennu:

The early Christians did not engage in public preaching; it was too dangerous. There are practically no evangelists or preachers whose names we know…. The Early Christians had no mission boards. They did not write treatises about evangelism…After Nero’s persecution in the mid-first century, the churches in the Roman Empire closed their services to visitors. Deacons stood at the churches’ doors, serving as bouncers, checkong to see that no un-baptized persons, no “lying informer”, could come in….
And yet the church was growing. Officially it was a superstitio. Prominent people scorned it. Neighbors discriminated against the Christians in countless petty ways. Periodically the church was subject to pogroms….It was hard to be a Christian….And still the church grew. Why?” (Alan Kreider. Dyfynwyd yn Center Church, Tim Keller, tud 285)

Roedd yna rhywbeth deniadol am y ffordd roedd y Cristnogion yn byw. Doedd neb yn gallu bod yn eiddigeddus o amgylchiadau’r Cristnogion hyn, ond roedd yna rhywbeth am y ffordd roedden nhw’n wynebu bywyd oedd yn denu, yn cyfareddu pobl. Rhywbeth oedd yn gwneud i bobl holi rheswm am y gobaith oedd ynddynt. (1 Pedr 3:15) Roedd y rhain yn fodlon i gael eu hadnabod fel Cristnogion – doedden nhw ddim yn cuddio eu ffydd. Ond roedd hyn yn dod yn amlwg nid yn gymaint trwy brotestio yn erbyn eu hamgylchiadau ond eu tystio a’u byw, a’u parodrwydd i ddioddef gwaradwydd eu Meistr.

Tybed sut ydym ni i gael ein hadnabod fel pobl y Ffydd yng Nghymru heddiw? Peidiwch cam-ddeall yr hyn rydw i’n ei ddweud. Rydw innau’n gresynu am rai o’r pethau cwbl afresymol ac anheg sy’n digwydd heddiw. Yn enw goddefgarwch fe ddangosir anoddefgarwch eithafol tuag at Gristnogion a rhai grwpiau eraill. Mae gennym yr hawl fel dinasyddion i ddisgwyl cael ein trin yn deg. Ond oes bosib ein bod, wrth gael ein tynnu i frwydrau cyhoeddus, yn cael ein portreadu yn y wasg fel rhai sydd am lynu wrth ein rhagfarnau’n ddall drwy bob dim?

Rhan o her ein hoes yw glynu wrth ein hargyhoeddiadau, tra’n parhau i ddangos cariad Crist. Fel yr Eglwys yn y canrifoedd cynnar rhaid i ni gael ein hadnabod fel pobl yr Arglwydd Iesu, a rhaid i ni beidio synnu na chwyno os daw dioddefaint yn sgîl hynny. Os galwasant berchen y tŷ….