Dyma fi wedi cyrraedd Gwlad yr Eryr, (Neu Eryri os mynnwch), sef ystyr Shqiperia – yr enw sydd gan y bobl ar eu gwlad eu hunain. Roedd y daith yma’n rhyfeddol o ddi-drafferth, gan adael Heathrow am 6 y bore, a seibiant o dair awr ym maes awyr Vienna – cyfle i gael Paned a thamaid o Apfel Strudel – cyn teithio ymlaen i Tirana, prif-ddinas Albania.

Ni chymrodd lawer i mi gofio sut mae pobl y wlad hon yn gyrru! Roedd Zef yn y maes awyr i’m cyfarfod, a daeth â mi trwy ganol y brifddinas i westy Qendra Stefan, lle byddaf yn aros am y tri diwrnod nesaf.

Mae Albania yn wlad dlawd – gyda’r tlotaf yn Ewrop. Dan Enver Hoxha bu’n gadarnle comiwnyddiaeth am ddegawdau. Ymffrostiai Hoxha mai Albania oedd y wlad Atheistaidd gyntaf yn y byd. O dan ei lywodraeth bu erlid blin ar grefydd o bob math, a chaewyd pob eglwys a mosque drwy’r wlad, heblaw am un Mosque yn y brif-ddinas a gadwyd fel amgueddfa. Ond wedi iddo farw daeth tro ar fyd. Ym 1991, pan oedd rhyfela yn rhwygo’r hen Iwgoslafia yn ddarnau, agorwyd y drws i weddill y byd i gael dod yma. Ac wrth gwrs, ni fu’n hir cyn bod pob math  o bobl am ddod i osod eu marc ar y wlad, a rhai’n gobeithio gwneud elw o’r wlad.

Zef

Un o’r rhai cyntaf i ddod i gredu’r efengyl wedi cwymp Comiwnyddiaeth yma oedd Zef. Yn fyfyriwr yn y Brifysgol aeth i wersi Saesneg oedd wedi eu trefnu gan Gristnogion o Seattle. Derbyniodd gopi o’r Testament Newydd ganddyn nhw, a than eu harweiniad hwy daeth i ffydd. Ers hynny bu’n weithgar yn arwain y gwaith IFES gyda’r myfyrwyr yn y wlad, ac yn arwain eglwys Emanuel yma yn Nhirana. Ef hefyd oedd un o’r tri wnaeth gyfieithiad newydd o’r Testament Newydd i iaith y wlad. Mae’n briod ag Edita, a chanddynt ddwy ferch, Emili a Greis.

Fy mwriad yma yw helpu mewn unrhyw ffordd y gallaf, felly byddaf yn pregethu yn Nhirana fore Sul, ac yna mewn eglwys debyg yn Durres, sef dinas ail fwyaf y wlad
yn y prynhawn.

Dydd Llun byddaf yn teithio i ddinas Elbasan i gynorthwyo gydag ymgyrch sydd gan y myfyrwyr yno. Nid wy’n gwybod llawer mwy am yr hyn fyddaf yn ei wneud eto, ond mae’n siwr y daw’r cwbl yn amlwg wrth i’r dyddiau fynd yn eu blaen.