Nadolig 2014, 10

imageDaethant i’r tŷ a gweld y plentyn gyda Mair ei fam; syrthiasant i lawr a’i addoli, ac wedi agor eu trysorau offrymasant iddo anrhegion, aur a thus a myrr. (‭Mathew‬ ‭2‬:‭11‬ BCN)

Am nifer o resymau mae’r Nadolig yn cael ei gysylltu gydag anrhegion. Fe ddaeth y Doethion ag anrhegion i’w rhoi i’r baban Iesu. Cofiwn mai anrheg mawr Duw i’n byd yw yr Arglwydd Iesu ei hun. Daeth yn draddodiad felly i roi anrhegion i’n gilydd wrth ddathlu. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014, 21

The-Angel-Gabriel-Appearing-To-The-ShepherdsYn sydyn ymddangosodd gyda’r angel dyrfa o’r llu nefol, yn moli Duw gan ddweud: “Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith y rhai sydd wrth ei fodd. ” (‭Luc‬ ‭2‬:‭13-14‬ BCN)

Rhan annatod o’r Nadolig i’r rhan fwyaf ohonom yw canu. Mae’n draddodiad anrhydeddus, yn mynd yn ôl i hanes y bugeiliaid, yn clywed côr yn canu uwch y bryniau – côr o angylion! Mi fyddwn ninnau wedyn wrth ein bodd yn mynd i glywed perfformiad o oratorio Handel – Y Meseia. Mae yna rhywbeth gogoneddus am glywed geiriau’r Ysgrythur wedi eu rhoi ar gân fel hyn. Neu mae ymuno mewn gwasanaeth carolau, a chlywed nodau cyntaf y cyfeilydd yn arwain i hen garol gyfarwydd, megis O! Deuwch ffyddloniaid, yn ein symud i dir gwahanol – atgofion o Nadolig pan yn blentyn efallai. (rhagor…)