Diwrnod olaf y Nadolig

imageDarllenwch Ioan 14:1-14

Rydw i newydd fod yn yr orsaf drenau, yn ffarwelio â Heledd wrth iddi ddychwelyd i Košice tan yr haf. Mae’r ffarwelio hyn yn digwydd yn rheolaidd bellach, a hithau ar ei phumed blwyddyn yno. Ond er fy mod yn gyfarwydd â’i gweld yn mynd, mae yna ryw elfen o chwithdod bob tro. Yr hyn sy’n pylu’r chwithdod hwnnw yw’r gobaith y caf ei gweld eto cyn bo hir wrth iddi ddod yn ôl atom yn yr haf. (rhagor…)

Blwyddyn Newydd

Delw'r duw Janus yn edrych yn ôl ac ymlaenDarllenwch Philipiaid 3:7-14

Cyrhaeddodd diwrnod olaf y flwyddyn – diwrnod y bydd llawer yn oedi i edrych yn ôl ar yr hyn fu yn ystod y deuddeg mis diwethaf. Gallwn gofio digwyddiadau amlwg cyhoeddus, o gyflafan swyddfeydd Charlie Hebdo ddechrau Ionawr ac argyfwng y ffoaduriaid i lwyddiant tîm tennis Prydain yng Nghwpan Davis a chynnwrf Tim Peake yn mentro i’r gofod. Ond i’r rhan fwyaf ohonom, digwyddiadau personol fydd yn llenwi ein atgofion. (rhagor…)

Nadolig 2014, 9

image“Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser.” (‭Mathew‬ ‭28‬:‭20‬ BCN)

Rydym wedi bod yn dathlu’r ffaith fod Duw wedi dod i’n byd mewn baban bach. Dyma un o’r pethau sy’n gwneud Cristnogaeth yn unigryw. Er i lawer o bobl geisio honni fod dilynwyr cynnar Iesu wedi ceisio dwyn syniad o chwedloniaeth y Groegiaid ac eraill am y duwiau yn dod i lawr i fyd dynion, eto does yna’r un o’r chwedlau, nac un o grefyddau eraill y byd ychwaith yn honni’r hyn a wna Cristnogion. Daeth y Gair yn gnawd. Nid dod mewn rhith. Daeth Duw yn un ohonom ni. Mae’r syniad yn un sy’n ymestyn ein meddyliau wrth i ni geisio ei werthfawrogi. (rhagor…)

Nadolig 2014, 7 Blwyddyn newydd dda

imageYr oedd proffwydes hefyd, Anna merch Phanuel o lwyth Aser……. A’r awr honno safodd hi gerllaw a moli Duw, a llefaru am y plentyn wrth bawb oedd yn disgwyl rhyddhad Jerwsalem. (‭Luc‬ ‭2‬:‭36‬, 38 BCN)

Mae’r flwyddyn newydd wedi cyrraedd. Diflannodd 2014 dros y gorwel, a dechreuodd 2015. Mi fu rhai ohonoch ar eich traed i weld y flwyddyn newydd i mewn mae’n siwr. Wrth gwrs, does dim gwir wahaniaeth rhwng un diwrnod na’r llall. Eto mae llawer yn cymryd y diwrnod newydd hwn yn gyfle i feddwl am ddechrau newydd. Mae’n adeg pryd y gallwn osod y flwyddyn a fu, gyda’i llwyddiant a’i phroblemau, ei llawenydd a’i siom, o’r neilltu. (rhagor…)

Nadolig 2014, 6

imageDywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthych, cyn geni Abraham, yr wyf fi.” (‭Ioan‬ ‭8‬:‭58‬ BCN)

Rydym wedi cyrraedd diwrnod olaf y flwyddyn. Dyma ddydd pryd y bydd llawer yn edrych yn ôl ac yn cofio’r deuddeg mis diwethaf. Tybed beth fydd yn dod i’r cof? Ai digwyddiadau llawen neu anodd? Ai achlysuron personol, ynteu rhai mwy eang. Digwyddodd cymaint mewn un flwyddyn. (rhagor…)

Diwedd y Gwyliau

images (9)Dyma ni wedi cyrraedd diwedd y gwyliau Nadolig yn ôl yr hen draddodiad. Mae’r paratoi dros dymor yr Adfent, a’r dathlu dros ddeuddeg diwrnod yn dod i ben heddiw. Yfory bydd llawer yn tynnu’r addurniadau i lawr, a bydd bywyd yn dychwelyd i normalrwydd mis Ionawr. Bydd y plant yn dychwelyd i’r ysgolion, y myfyrwyr i’r colegau a phawb arall i’w gorchwylion a’u gwaith. Bywyd normal, cyfarwydd wrth i ni gerdded llwybr bywyd trwy flwyddyn arall. (rhagor…)

“Ffordd na chenfydd llygad barcut”

images (8)Mae’r flwyddyn sy’n ymestyn o’n blaen yn llawn o brofiadau gwahanol i bob un ohonom. Wyddom ni ddim beth ddaw. Tydi hynny ddim yn golygu fod yn rhaid i ni bryderu am yr hyn a ddaw. Un ffordd o dawelu ein pryderon yw edrych yn ôl ar y rhai sydd wedi mynd o’n blaen. Mae yna rhyw falchder ynom weithiau, sy’n mynnu bod ein hanes ni yn wahanol i hanes pawb arall. Mae datblygiadau ein hoes ni yn golygu fod ein hamgylchiadau yn gymaint mwy heriol na’r oesau a fu. Does yna neb sydd wedi wynebu sefyllfa mor anodd â ni. (rhagor…)