Ymlaen i Košice

Roedd yn hyfryd cyrraedd Košice fore llun a gweld Heledd yn disgwyl amdana i ar blatfform yr orsaf drenau. Fe aethom oddi yno draw i’r fflat lle mae wedi byw ers iddi gyrraedd yma bedair blynedd a hanner yn ôl. Doedd dim arbennig wedi ei drefnu dros y deuddydd oedd i ddod felly roedd yn gyfle da i seiadu, ymlacio a cheisio gwneud rhywfaint o waith. Tydi’r tywydd ddim wedi bod yn garedig iawn ar y daith hon, a glaw yn cyfyngu ar ein hawydd i fynd i’r mynyddoedd am dro. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 10

Edrych i lawr ar yr Areopagus o'r Acropolis

Edrych i lawr ar yr Areopagus o’r Acropolis

Darllenwch Genesis 12:1-2

Rwyf yn Athen yr wythnos hon yn cymryd rhan mewn cynhadledd lle mae tua wythdeg ohonom yn dilyn chwe ffrwd gwahanol o astudio. Rwyf fi mewn criw o wyth yn edrych ar sut mae dadlau o blaid y ffydd Gristnogol, a hynny men ffordd sy’n onest, yn ddifrifol, gan geisio codi cwestiynau difrifol yn wyneb y gwrthwynebiad sydd i’r ffydd yn ein dyddiau ni. (rhagor…)

Fforwm Ewrop 3

Ajith Fernando, sy'n arwain ein darlleniadau Beiblaidd

Ajith Fernando, sy’n arwain ein darlleniadau Beiblaidd

Dydd Llun
Dyma efallai y diwrnod prysuraf i mi eleni. Amser brecwast bum yn mentora gwraig sydd, ynghyd â’i gŵr wedi bod yn gofalu am eglwys yn yr Iseldiroedd. Gan ei bod hi yn 65 a’i phriod yn 74 roedd yn adeg iddynt ymddeol o ofal yr eglwys, ond roedd rheini yn anfodlon i adael iddynt fynd. Dyma enghraifft o rai heb lwyddo i gael yr eglwys i gymryd cyfrifoldeb dros eu gwaith. Mae egwyddor gweinidogaeth yr holl saint yn un Feiblaidd, ond hefyd yn un ymarferol dda hefyd. Pan fydd y cyfan yn dibynnu ar un neu ddau, yna os byddan nhw yn gorfod tynnu allan o’r sefyllfa mae perygl i’r eglwys fethu. (rhagor…)