Diwrnod olaf y Nadolig

imageDarllenwch Ioan 14:1-14

Rydw i newydd fod yn yr orsaf drenau, yn ffarwelio â Heledd wrth iddi ddychwelyd i Košice tan yr haf. Mae’r ffarwelio hyn yn digwydd yn rheolaidd bellach, a hithau ar ei phumed blwyddyn yno. Ond er fy mod yn gyfarwydd â’i gweld yn mynd, mae yna ryw elfen o chwithdod bob tro. Yr hyn sy’n pylu’r chwithdod hwnnw yw’r gobaith y caf ei gweld eto cyn bo hir wrth iddi ddod yn ôl atom yn yr haf. (rhagor…)

Nadolig 2014, 9

image“Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser.” (‭Mathew‬ ‭28‬:‭20‬ BCN)

Rydym wedi bod yn dathlu’r ffaith fod Duw wedi dod i’n byd mewn baban bach. Dyma un o’r pethau sy’n gwneud Cristnogaeth yn unigryw. Er i lawer o bobl geisio honni fod dilynwyr cynnar Iesu wedi ceisio dwyn syniad o chwedloniaeth y Groegiaid ac eraill am y duwiau yn dod i lawr i fyd dynion, eto does yna’r un o’r chwedlau, nac un o grefyddau eraill y byd ychwaith yn honni’r hyn a wna Cristnogion. Daeth y Gair yn gnawd. Nid dod mewn rhith. Daeth Duw yn un ohonom ni. Mae’r syniad yn un sy’n ymestyn ein meddyliau wrth i ni geisio ei werthfawrogi. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014, 8

imageI ddinistrio gweithredoedd y diafol yr ymddangosodd Mab Duw. (‭1 Ioan‬ ‭3‬:‭8‬ BCN)

Sut wythnos sydd o’ch blaen tybed? Ydech chi yn edrych ymlaen at y dyddiau nesaf, neu oes yna elfen o bryder, ansicrwydd neu hyd yn oed ofn? Mae hanes geni ein Harglwydd yn dwyn gobaith i’n byd, a gobaith am y dyddiau nesaf.

Gwyddom mai bwriad y diafol wrth demtio Efa oedd dinistrio gwaith Duw. Gwelwn ôl ei waith bob dydd yn y newyddion ddaw drwy’r teledu. Ond gwelwn ei ôl hefyd yn yr ofnau sydd gennym ni wrth wynebu dyfodol ansicr. (rhagor…)

Blwyddyn Newydd Dda

FireworksMae’n flwyddyn newydd. Aeth 2013 heibio, a bellach bydd yn rhaid i ni arfer gyda ysgrifennu 2014 ar ein sieciau a’n llythyrau. Wrth gwrs, ar un olwg does dim gwahaniaeth rhwng un flwyddyn â’r llall, neu un diwrnod â’r llall. Ond mae heddiw fel petai yn adeg i ni ystyried pethau unwaith eto. Rydym am ddymuno blwyddyn newydd dda i bawb a welwn, ac fe fyddwn yn cofio’r flwyddyn a aeth heibio – ei digwyddiadau, boed rheini yn uchafbwyntiau neu yn ofidiau. Byddwn yn edrych at y deuddeg mis nesaf gyda’n hofnau a’n gobeithion. (rhagor…)