Adduned Blwyddyn Newydd

imageDarllenwch Salm 1

Dyma ni wedi dechrau ar wythos yr addunedau. Mae llawer yn dewis cymryd dechrau blwyddyn fel amser i geisio newid rhywbeth yn y ffordd mae nhw’ byw. Bydd ceir wedi parcio y tu allan i’r “gym” lleol yn dangos awydd rhai beth gynnag i wneud mwy o ymarfer corff. Bydd sawl un wedi dechrau ar ddeiet, yn enwedig ar ôl gwledda dros y Nadolig. Mae amryw yn cael eu hannog i fynd am fis heb alcohol. (rhagor…)

Fforwm Ewrop 4

Canu gyda'n gilydd yn y Fforwm

Canu gyda’n gilydd yn y Fforwm

Wedi prysurdeb dydd Llun teimlais reidrwydd i geisio cael diwrnod ychydig yn fwy tawel dydd Mawrth. Mae’r boreuau yn olau yma, a chan fod Jerry sy’n rhannu ystafell gyda mi yn codi am 4.30 bob bore i fynd allan i redeg rwyf fel arfer i fyny erbyn 5, ac yn cael amser i ddarllen ac ysgrifennu. Yna am 7.00 bydd yn amser brecwast. Y tro hwn roeddwn yn mentora gweinidog o Kiev yn yr Iwcraen. (rhagor…)

Nadolig 2014, 10

imageDaethant i’r tŷ a gweld y plentyn gyda Mair ei fam; syrthiasant i lawr a’i addoli, ac wedi agor eu trysorau offrymasant iddo anrhegion, aur a thus a myrr. (‭Mathew‬ ‭2‬:‭11‬ BCN)

Am nifer o resymau mae’r Nadolig yn cael ei gysylltu gydag anrhegion. Fe ddaeth y Doethion ag anrhegion i’w rhoi i’r baban Iesu. Cofiwn mai anrheg mawr Duw i’n byd yw yr Arglwydd Iesu ei hun. Daeth yn draddodiad felly i roi anrhegion i’n gilydd wrth ddathlu. (rhagor…)