Tymor yr Adfent 14

imageDarllenwch Eseia 9:2-7

Os oeddem ddoe yn meddwl am y baban ym Methlehem fel yr had – un ohonom ni, mae yn wahanol i ni hefyd. Mae geiriau Eseia yn agor y drws i ni weld mwy. Mae cerddoriaeth wych Handel yn ei oratorio yn gorfoleddu yn y seithfed adnod, gan adeiladu at y gair “Wonderful” sy’n dod fel bloedd ogoneddus gan y côr. Gadewch i ni aros gydag un o’r enwau yma heddiw: y Duw cadarn. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 13

imageDarllenwch Genesis 3:14-15; a Hebreaid 2:14-18

Un o’r gorchwylion cyntaf wrth i blentyn gael ei eni yw dewis enw iddo. Mae pob math o resymau yn gallu bod ym meddyliau’r rhieni wrth wneud eu dewis – gall fod oherwydd eu bod yn hoffi sŵn yr enw. Yn aml bydd y plentyn yn cael ei enwi ar ôl rhywun – a gobaith y rhieni yw y bydd yn dod yn debyg i’r person hwnnw mewn rhyw ffordd – bydd yn “byw i fyny i’r enw” chwedl y Sais. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 7

image‘Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed; daeth i fyw yn ein plith ni.’

Darllenwch Ioan 1:1-14

Heddiw rwyf ar fy ffordd o Fangor (Athen y gogledd) i ddinas Athen yng ngwlad Groeg. Mae’n daith oedd n golygu dal y trên ddoe a dod i Lundain, a’r bore ma rwy’n dal awyren i hedfan draw o lawogydd ynysoedd Prydain i heulwen (gobeithio) Môr y Canoldir. (Cofiwch – nid mynd i fwynhau gwyliau ydw i ond mynd ar gyfer tri diwrnod o astudio a thrafod gyda chriw amrywiol o nifer o wahanol wledydd.) (rhagor…)

Nadolig 2014, 3

imageA daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad. (‭Ioan‬ ‭1‬:‭14‬ BCN)

Y peth cyntaf y gellir ei ddweud am eiriau Duw yw eu bod yn rhai gweithredol. Un o’r pethau cyntaf rydym yn ei ddarllen yn y Beibl yw: dywedodd Duw, “Bydded goleuni.” A bu goleuni. (‭Genesis‬ ‭1‬:‭3‬ BCN). Sylwch, tydi o ddim yn dweud: Dywedodd Duw, “Bydded goleuni.” Ac aeth Duw ati i greu goleuni. Rydym ni yn gallu dweud “Bydded goleuni” ond rhaid i ni wedyn godi a throi’r switch arnodd. Ond mae geiriau Duw yn wahanol. Mae Duw yn dweud ac mae rhywbeth yn digwydd. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014, 14

imageDaeth Iesu i barthau Cesarea Philipi, a holodd ei ddisgyblion: “Pwy y mae pobl yn dweud ydwyf fi, Mab y Dyn?” (‭Mathew‬ ‭16‬:‭13‬ BCN)

Mae gwahanol bobl yn derbyn gwahanol deitlau yn ein cymdeithas – gelwir un yn “Barchedig” am ei fod wedi ei ordeinio. (fues i erioed yn gyfforddus iawn gyda’r teitl hwnnw!) Bydd un arall yn cael ei anrhydeddu ac yn cael ei alw’n Arglwydd, gyda’r hawl neu’r cyfrifoldeb o fynd i Dŷ’r Arglwyddi yn Llundain i gynorthwyo gyda llywodraethu’r wlad. Mae teitlau wedyn y gellir eu hennill trwy ymdrech – Doctor; Olympic Champion; Pop Idol. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014, 10

image“Wele, bydd y wyryf yn beichiogi, ac yn esgor ar fab, a gelwir ef Immanuel”, hynny yw, o’i gyfieithu, “Y mae Duw gyda ni”. (‭Mathew‬ ‭1‬:‭23‬ BCN)

Fyddwch chi yn edrych yn ôl weithiau? Un o nodweddion ein cymdeithas yw ein bod yn aml yn cofio ac yn dathlu fod rhyw ddigwyddiad arbennig wedi bod. Bum mlynedd ar hugain yn ôl i eleni, er enghraifft, glaniodd dyn ar y lleuad, a dywedodd Neil Armstrong y geiriau cofiadwy hynny: “One small step for man; one giant leap for mankind.(rhagor…)